Ymchwilio i honiadau o 'ddiffyg ystyriaeth o'r Gymraeg' gan Lywodraeth Cymru

pencadlys Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i bum cwyn ynghylch safonau llunio polisi Llywodraeth Cymru yn 2025-26.

Mae'r pump yn ymwneud â honiadau o "ddiffyg ystyriaeth o'r Gymraeg" wrth baratoi deddfwriaeth ac mewn dogfennau ymgynghori.

Maen nhw ymhlith 22 o gwynion "dilys a dderbyniwyd am wasanaethau Cymraeg" Llywodraeth Cymru, yn ôl adroddiad blynyddol ar eu cydymffurfiaeth gyda Safonau'r Gymraeg o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026 - sef y flwyddyn olaf yr oedd Llafur mewn grym.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth y BBC: "Fel rheoleiddiwr, byddwn yn ystyried pob cwyn a ddaw i'n sylw er mwyn penderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad. Mae'r ymchwiliadau i'r Safonau Llunio Polisi yn parhau ac felly ni fyddai'n briodol i wneud sylw pellach."

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Mae Safonau'r Gymraeg wedi eu gwreiddio yng ngwaith Llywodraeth Cymru fel y gall dinasyddion Cymru ymgysylltu â'u llywodraeth yn y Gymraeg."

Am beth oedd y cwynion?

O'r 22 cwyn, mae chwech yn gysylltiedig â gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys gwallau ar yr ap, y wefan ac ar sgrin wybodaeth mewn gorsaf, cyhoeddiad uniaith Saesneg ar drên, ac ymateb uniaith Saesneg drwy e-bost.

O'r cwynion am wasanaethau eraill Llywodraeth Cymru, ni chynhaliwyd ymchwiliad i sawl un gan fod "cyngor wedi'i ddarparu gan y Comisiynydd ac wedi'u weithredu".

Mae'r rhain yn cynnwys "testun Cymraeg anghyflawn mewn datganiad", "diffyg gwasanaeth Cymraeg wyneb yn wyneb gan swyddogion", a "chwyn fod proses recriwtio yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg".

Ni chynhaliwyd ymchwiliad mewn achosion eraill gan fod Comisiynydd y Gymraeg "yn fodlon fod camau eisoes wedi'u cymryd i ddatrys y mater".

Ymhlith yr enghreifftiau o'r rhain, anfonwyd gohebiaeth uniaith Saesneg at unigolyn oedd yn ymgeisio am swydd ac at dderbynnydd oedd â'r Gymraeg yn ddewis iaith.

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, yn "ystyried pob cwyn a ddaw i'n sylw er mwyn penderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad"

Mae'r safonau llunio polisi yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru:

  • "ystyried effeithiau eu penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)";

  • "ystyried sut i gynyddu effeithiau positif, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg";

  • "gofyn am farn ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a cheisio barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith".

Dywed yr adroddiad bod gan Lywodraeth Cymru "fframwaith asesu effaith integredig ar waith [sy'n] tywys staff drwy'r broses o ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg".

"Mae'r asesiad effaith ar y Gymraeg yn un o'r asesiadau statudol, gorfodol y mae'n rhaid i swyddogion eu cwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau a deddfwriaeth."

Trafnidiaeth Cymru Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau ers Hydref 2018

Dywedodd y llywodraeth bod gweithgareddau diweddar Trafnidiaeth Cymru i wella'r gwasanaethau dwyieithog yn cynnwys uwchraddio cyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsafoedd rheilffordd, "gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn wedi'i gwblhau", a darlledu eu pennod podlediad cyntaf yn y Gymraeg.

Ychwanegodd y llywodraeth bod "gwaith wedi digwydd i sicrhau gwybodaeth dwyieithog i gwsmeriaid, yn glywedol a gweledol, ar bob fflyd trên newydd – mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r Dosbarth 197 a Dosbarth 231 newydd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, sy'n darparu cyhoeddiadau a gwybodaeth yn gwbl ddwyieithog".

"Erbyn hyn mae 77.1% o deithiau ar rhwydwaith yn cael eu gwneud ar y trenau newydd (mae hyn yn cyfateb i 31.7m o deithiau trên).

"Bydd trenau Dosbarth 197 newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar Linell y Cambrian (Pwllheli i Birmingham) yn ddiweddarach yr hydref hwn, gan gynyddu ymhellach nifer y trenau newydd sy'n darparu gwasanaethau dwyieithog ar rwydwaith Cymru a'r Gororau."

Llywodraeth Cymru Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae gan y llywodraeth, ers Ebrill 2020, strategaeth ar gyfer "prif ffrydio'r Gymraeg o fewn y sefydliad, a gweld rhagor o gyfleoedd i'w staff ei defnyddio".

Mae tua 5,700 o staff yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac mae'r adroddiad yn dangos mai:

  • 18% o'r staff sy'n rhugl yn y Gymraeg;

  • 9% yn gallu siarad "tipyn o Gymraeg";

  • 22% yn siarad "ychydig o Gymraeg";

  • 35% yn gallu dweud ychydig eiriau yn Gymraeg;

  • 16% yn "methu siarad Cymraeg".

Dros y flwyddyn, cafodd 991 o staff wersi Cymraeg, gan gynnwys dosbarthiadau wythnosol, cwrs bloc dwys a chwrs codi hyder.

Mae sesiynau cynefino i bob aelod newydd o weithlu Llywodraeth Cymru "lle mae gofynion Safonau'r Gymraeg yn cael eu cyflwyno a thrafodir sut mae'r Safonau'n effeithio ar waith dydd i ddydd swyddogion".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.