Yr heriau a'r trawma o lanhau sefyllfaoedd eithafol

- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n cynnwys disgrifiadau o sefyllfaoedd y mae Ben Giles wedi gweithio ynddynt, gan gynnwys sefyllfaoedd yn dilyn troseddau a marwolaethau.
O lanhau ystafell yn dilyn llofruddiaeth i glirio braster morfil 22 tunnell, mae gyrfa Ben Giles o Aberteifi wedi newid o lanhau ffenestri i sefyllfaoedd dipyn mwy heriol.
Gan gychwyn fel glanhawr domestig mi wnaeth gyrfa Ben gymryd tro annisgwyl ar ôl iddo gael cytundeb am £2000 i lanhau bath yn llawn ysgarthion dynol oedd wedi cael ei adael gan denant mewn fflat yn Aberystwyth.
Mi welodd gyfle i ennill arian da drwy lanhau y llefydd dyw'r mwyafrif ddim yn gallu wynebu, gan gychwyn busnes yn glanhau sefyllfaoedd eithafol.
Fel canlyniad mae wedi gweld rhai o'r pethau gwaethaf o ran trawma dynol wrth iddo lanhau llefydd yn dilyn llofruddiaeth neu hunanladdiad.

Erbyn hyn mae Ben yn ymgynghorydd ac yn hyfforddi pobl eraill i lanhau sefyllfaoedd eithafol ac mae wedi ysgrifennu llyfr The Specialist: How to clean a crime scene and other messes am ei brofiadau yn ystod 25 mlynedd o lanhau.
Mae e'n diolch i'w blentyndod ar fferm ger Aberteifi am y ffaith ei fod yn gallu gwynebu pethau dyw'r mwyafrif ddim yn gallu stumogi.
Un o'r sefyllfaoedd gwaethaf mae e wedi ei wynebu yw cartref casglwr eithafol 15 mlynedd yn ôl oedd wedi marw yn ei dŷ, fel mae'n dweud: "Anfonodd yr heddlu fi drwy dwll yn y drws i drio cripio i fyny i'r ystafell lle'r oedd corff y dyn.
"Ond roedd hi'n amhosib cripian am fod gymaint o stwff – roedd e fel baricéd. Felly roedd rhaid cymryd y ffenest allan."
Trawma
Mae nifer o'r sefyllfaoedd mae Ben wedi eu wynebu yn rai trist a threisgar iawn, meddai, ac mae wedi bod yn help i beidio gael cyfle i fyfyrio ar yr hyn mae'n ei weld gan fod angen canolbwyntio ar y gwaith: "Mae'n rhyfedd – oherwydd ein bod wedi cychwyn y busnes ac wedi taflu ein hunain i'r gwaith yn syth, doedd dim amser i feddwl amdano.
"Ac yna weithiau ti'n mynd i sefyllfa le mae llofruddiaeth wedi bod. Mewn un sefyllfa roedd gŵr wedi lladd ei wraig. Roedd gwybod fod rhywun wedi gwneud hynny a chymryd bywyd rhywun mewn ffordd mor dreisgar, roedd hi'n anodd iawn meddwl am hynny.
"Ond o fewn diwrnod chi nôl ar job arall, sy' hefyd yn sefyllfa ofnadwy."

Clirio braster morfil 22 tunnell
Penderfynodd Ben ysgrifennu'r llyfr am ei brofiadau ar ôl blynyddoedd o gael bobl yn gofyn iddo am ei brofiadau gwaethaf. Dechreuodd nodi nhw mewn llyfr nodiadau ac yna ar wyliau gyda'i wraig yn Tenerife, tra'n eistedd ar y balconi un noson penderfynodd ysgrifennu llyfr am ei waith.
Dywedodd: "Ac yna dechreuais i grio. Achos d'on i byth wedi stopio i feddwl am y bobl yma. Ac roedd hynny'n rhyfedd achos ar y pryd do'n i ddim yn meddwl mod i wedi claddu'r teimladau. Doedd e ddim wedi effeithio arna'i cyn hynny.
"Ond pan chi yn meddwl amdano, dyna pryd chi'n sylweddoli pa mor drist yw e."
Perygl
Mae rhai o'r sefyllfaoedd mae Ben wedi gorfod glanhau wedi bod yn beryglus, yn arbennig glanhau cemegion: "Rydyn ni'n gwneud dipyn o lanhau cemegion ac yn aml mae pobl wedi cael damweiniau lle mae cemegion yn ran o'r sefyllfa.
"Ni wedi glanhau nifer o sefyllfaoedd le mae mercwri, sy'n beryglus i lanhau, wedi gorlifo o baromedr mewn prifysgolion.
"Ac weithiau dydych chi ddim yn gwybod pa gemegion sydd 'na a beth mae pobl wedi defnyddio i drio glanhau y llanast. Weithiau mae bleach neu clorin yn adweithio gyda rhai o'r cemegion ni'n ddefnyddio ac mae'n gallu creu nwy mwstard sy'n gwaethygu'r sefyllfa.
"Ac os oes angen glanhau gorlifiad o gemegion mewn ffatri neu debyg, mae'n rhaid anfon cemegwr mewn i ddarganfod beth yw'r cemegion yn gyntaf.
"Pan gychwynodd brech y mwnci (monkeypox) bu'n rhaid i ni gael gwared o lwyth o fatresi o ysbytai lle'r oedd pobl wedi bod yn sâl. Mae'n rhaid rheoli sefyllfaoedd fel yna'n ofalus iawn."

Mae Ben wedi gweld datblygiadau mawr o ran cyfreithiau a dealltwriaeth o beryglon germau a feirysau ers iddo gychwyn ei waith 25 mlynedd yn ôl.
Meddai: "Pan ddechreuais i yn y diwydiant yma doedd ddim wir dealltwriaeth na deddfwriaeth. Doedd dim dealltwriaeth o pa mor beryglus mae bacteria neu feirws yn gallu bod na pa mor hir maen nhw'n byw.
"Er enghraifft, mae hepatitis B yn gallu byw am wyth wythnos mewn hylif corff. Ond doedd dim gwybodaeth am hynny. Felly roedden ni'n rhoi ein hunain mewn perygl yn glanhau hylif corff pobl doedden ni ddim yn adnabod nac yn gwybod dim amdanynt.
"Ac fe wnaethon ni lwyth o gamgymeriadau. Unwaith ar ôl marwolaeth agorais i ddrws yr ystafell ac hedfanodd haid o bryfed glas allan. A doedd dim syniad gen i os oedd hepatitis ar y dyn oedd wedi marw ac os oedden i wedi rhyddhau pla o hepatitis i'r aer. Dwi'n deall nawr nad oedd perygl o hynny gan nad oes trosglwyddiad o gynrhon i gilion.
"Ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd. Ni wedi gorfod dysgu popeth am reoli pla a sut mae cilion a chynrhon yn ymddwyn – a sut i gael gwared ohoni nhw."
Techneg
Wrth i Ben lanhau mae'n sichrau, wrth symud drwy'r ardal, ei fod yn cadw popeth sy'n frwnt o'i flaen tra fod popeth tu ôl iddo yn lân.
Ac mae e'n canolbwyntio'n llwyr ar y dasg: "Ti'n canolbwyntio ar beth ti'n glanhau yn hytrach na trio gwneud synnwyr o beth sy' wedi digwydd.
"Ac mae hynny'n stopio dy feddwl di o grwydro i ddechrau meddwl am beth sy' wedi digwydd i'r person.
"Dwi'n caru'r gwaith – mae bob diwrnod yn wahanol. A dwi'n credu ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth i bobl. I deuluoedd ni'n gwneud gwahaniaeth mawr."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Mehefin

- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023
