Podlediad newydd Nic Parry yn trafod rhai o droseddau enwocaf Cymru

Meic Parry sydd wedi cynhyrchu'r gyfres, gyda Nic Parry yn cyflwyno
- Cyhoeddwyd
Ar bodlediad newydd gan BBC Cymru, Y Podlediad Trosedd, mae'r cyn-farnwr Nic Parry yn ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf cymhleth a dadleuol y genedl, gan ail-fyw'r hanes, y gyfraith a'r cwestiynau sy'n parhau.
Bydd Nic yn siarad â newyddiadurwyr sy'n wybodus am y straeon, a hefyd swyddogion heddlu a oedd yn gysylltiedig efo'r achosion.
Ymysg y newyddiadurwyr sy'n ymddangos ar y podlediad mae Marian Wyn Jones, Meleri Williams, Garry Owen, a Mared Gwyn.
Mae pedair pennod yn y gyfres gyda'r cyntaf ar gael i'w chlywed ar BBC Sounds o 9 Mehefin, bydd y penodau eraill yn dilyn bob dydd Mawrth wedi hynny.

Mae Nic Parry'n adnabyddus i filoedd yng Nghymru fel sylwebydd pêl-droed, yn ogystal â'i arbenigedd gyda'r gyfraith
Mae'r bennod gyntaf y gyfres yn trafod dirgelwch achos Julie Clarke yn 1984 – merch 17 oed o Ddwyran, Ynys Môn, a ddiflannodd cyn cael ei chanfod yn farw mewn coedwig fechan yn Sir y Fflint.
Mae'r ail bennod yn edrych ar achos o drywanu dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn 2024.
Bydd pennod am stori'r brodyr Darvell, a garcharwyd ar gam yn dilyn llofruddiaeth Sandra Phillips mewn siop ryw yn Abertawe yn 1985, ac mae'r bennod olaf yn trafod twyll a llwgrwobrwyo Nathan Gill, cyn-aelod o Senedd Ewrop a chyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru.

Yn trafod y podlediad, dywedodd Nic Parry: "Wedi oes o drin pobl, boed yn gefn mewn cyfweliad heddlu, yn eiriol ar eu rhan mewn llysoedd neu, flynyddoedd wedyn, yn gorfod llywio cwrs eu bywydau fel Barnwr yn Llys y Goron daeth y drefn gyfreithiol a'i heffeithiau'n rhan o fy DNA.
"Wedi ymddeol, dyma amser i astudio achosion o'r tu allan a gweld cyfle, nid yn unig i ddweud stori dda, yn aml un ddirdynnol ond, ar yr un pryd, cyfle unigryw i agor llygaid pobl i effeithiau penderfyniadau cyfreithiol ar achosion ac effeithiau achosion ar gyfraith ein gwlad."
Cynhyrchwyd y gyfres gan Meic Parry, wnaeth hefyd gynhyrchu'r cyfresi The Crossbow Killer yn 2023 a The Anglesey Vampire Killer yn 2026.
Meddai: "Daeth y comisiwn gan Radio Cymru i greu cyfres o straeon am dorcyfraith, ac fel rhywun sydd 'do gweithio ar nifer o gyfresi yn Saesneg mae'n braf iawn cael y cyfle i weithio yn Gymraeg, ac i Radio Cymru.
"Mae Nic yn dod ag ongl hollol newydd i bethau - dim lot o bodlediadau sy'n cael rhywun mor brofiadol â Nic i angori.
"Mae o'n gallu rhoi'r mewnwelediad cyfreithiol 'na, a hefyd yn 'nabod Cymru ac yn gwybod am y newyddion dros y degawdau diwethaf 'ma.
"Mae gweithio efo Nic wir wedi bod yn brofiad arbennig."
Cyfres yn 'cynnig goleuni newydd'
Mae'r gyfres yn "rhywbeth na welwyd ei fath yn y Gymraeg o'r blaen" medd Dafydd Meredydd, golygydd BBC Radio Cymru.
"Dyma gyfres newydd gyffrous sy'n torri tir newydd yn y maes, gan gynnig cipolwg unigryw a chraff ar achosion troseddol diddorol.
"Gyda mewnwelediad Nic a'i brofiad helaeth ym myd y gyfraith, mae'r gyfres yn cynnig goleuni newydd ar rai straeon sydd wedi aros yn y cof cenedlaethol, a'r rhai sydd wedi mynd yn angof ond sydd yn haeddu gwrandawiad o'r newydd.
"Dyma enghraifft arall o ymrwymiad BBC Radio Cymru i arloesi a chreu cynnwys sy'n berthnasol, cyfoes ac o'r safon uchaf i'n cynulleidfa."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
