George North a'i deyrnged i Langefni wrth ffarwelio â'r gêm

George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos fe chwaraeodd George North ei gêm rygbi proffesiynol olaf, a hynny dros y Barbariaid yn erbyn Cymru yn Twickenham.

Mae North yn ymddeol wedi gyrfa hynod ddisglair - 121 cap dros Gymru, tri dros Y Llewod, gan sgorio 47 cais dros Gymru.

Daeth ymlaen fel eilydd dros y Barbariaid gyda 'chydig dros hanner awr o'r gêm yn weddill, ond fe lwyddodd i sgorio dau gais yn yr amser hynny.

Cymru oedd yn fuddugol 33-31, ac mae ffocws y cochion yn symud ymlaen i'r gêm yn erbyn Fiji ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ar 4 Gorffennaf, cyn teithio i'r Ariannin a De Affrica dros yr haf.

Cais George NorthFfynhonnell y llun, Steve Bardens/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

North yn croesi am ei gais cyntaf o'r prynhawn

Traddodiad o wisgo sanau personol

Mae'n arferiad i chwaraewyr y Barbariaid wisgo sanau clwb arwyddocaol o'u gyrfa, boed hynny'n glwb amatur, proffesiynol, rhanbarth neu brifysgol fel Rhydychen neu Gaergrawnt.

Byddai North wedi gallu gwisgo sanau'r Scarlets, Northampton, Y Gweilch, Provonce neu Ysgol Llanymddyfri. Ond fe ddewisodd wisgo lliwiau Llangefni, ble roedd yn chwarae yn hogyn ifanc.

Postiodd Undeb Rygbi Cymru'r lluniau gyda'r sylw 'teyrnged i ble gychwynnodd y cyfan'.

Llangefni TcwickenhamFfynhonnell y llun, Steve Bardens/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cynrychiolaeth Clwb Rygbi Llangefni ar faes Twickenham brynhawn Sadwrn

Mae'n werth nodi y chwaraeodd North dros dîm ieuenctid Pwllheli ac i Ysgol Bodedern yn ogystal â Llangefni.

Enillodd North Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar bedwar achlysur, ac mae'n cael ei ystyried fel un o'r goreuon erioed i wisgo crys coch Cymru.

Yn 34 mlwydd oed mae North yn ymddeol o'r gêm gan wybod ei fod yn sicr wedi gadael ei farc ers ennill ei gap cyntaf yn ddeunaw oed, ac wedi ysbrydoli cenhedlaeth o chwaraewyr rygbi ifanc yn ystod ei yrfa.

George North v De AffricaFfynhonnell y llun, Stu Forster/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd North ddau gais yn ei ymddangosidad cyntaf dros Gymru, yn erbyn De Affrica ar 13 Tachwedd, 2010

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: