Criw yn dod ag ysbryd lliwgar Madagascar i Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o berfformwyr o Fadagascar wrthi'n teithio ledled Cymru, yn rhannu eu diwylliant mewn cyngherddau mewn capeli ac ysgolion.
Ond wyddoch chi fod cysylltiad rhwng y wlad-ynys oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica, a Chymru? A'i bod hi hyd yn oed yn bosib y byddech chi'n clywed y criw yn canu emynau fel Calon Lân, ond â geiriau iaith Malagasi?
Cysylltiad Cymru â Madagascar
Miara Rabearisoa sydd wedi trefnu i grŵp Ny Ako ddod draw i Gymru fel rhan o daith enfawr ar draws Ewrop. Mae cyngherddau am ddim wedi cael eu cynnal yn y Rhondda, Aberdyfi, Tregaron a'r Bala hyd yma, gyda rhai ar y gweill yn Llanfairpwll, Wrecsam, Aberystwyth a Phort Talbot a mwy cyn diwedd y daith.
Fel brodor o Fadagascar sydd bellach yn byw yng Nghymru, mae'n awyddus i Gymry gael blas ar iaith, cerddoriaeth, dawns ac offerynnau cynhenid ei wlad enedigol, ynghyd â chip ar ffydd Gristnogol gref y perfformwyr.

Yr hyn sydd yn ei wneud yn fwy arbennig, meddai, yw mai cenhadon o Gymru â aeth â Christnogaeth i Fadagascar gyntaf, a hynny pan y teithiodd dau Gymro ifanc o Geredigion yno yn 1818.
"David Jones a Tomos Bevan, meibion i ffermwyr o Neuaddlwyd ger Aberaeron oedd y cenhadon cyntaf a aeth draw," eglurodd.
"Roedden nhw'n ddewr iawn, yn mynd i wlad ddieithr fel yna, ac o gefn gwlad Cymru, nid o ddinas fawr yn Lloegr.
"Dwi'n meddwl mai'r rheswm oedden nhw mor llwyddiannus ym Madagascar oedd achos eu bod nhw'n ifanc ac yn ddwyieithog yn barod, felly daeth dysgu trydydd iaith – Malagasi –yn hawdd iddyn nhw.
"Ac roedden nhw'n dod o gefndir gwledig, cyffredin – roedden nhw'n deall pa mor anodd yw gweithio ar y tir."

Un o'r cenhadon cyntaf a aeth i Fadagascar, David Jones, a'r ysgol yn Ambohidratrimo sydd wedi ei henwi ar ôl David Griffiths, a ddathlodd ei dau ganmlwyddiant yn 2025
Yn anffodus, o fewn chwe mis, dim ond David oedd dal yn fyw – roedd ei deulu, a Tomos a'i deulu yntau wedi marw o malaria.
Wedi hynny, aeth Cymro arall draw yn 1821, David Griffiths o ardal Llangadog, Sir Gâr, gan wthio'r gwaith cenhadu ymlaen.
"Byddai David Jones yn dysgu'r teulu brenhinol a David Griffith yn dysgu'r bobl gyffredin.
"Cafodd ein hiaith ei rhoi mewn ysgrifen am y tro cyntaf, agoron nhw ysgolion, cafodd llawer o lyfrau eu cyfieithu, gan gynnwys y beibl, sef y cyfieithiad cyntaf o'r beibl yn Affrica bryd hynny.
Rhannu ffydd a diwylliant
"Mae pobl ym Madagascar dal i fod yn cofio'r pethau da gwnaeth y bobl yn ein gwlad; mae 'na ysgol yn fy nhref leol wedi ei henwi ar ôl David Griffiths.
"Ar ôl bod yn Madagascar am 10 mlynedd, roedd 15,000 o blant wedi bod i ysgol. Doedd gennyn ni ddim ysgolion cyn hynny."
Er fod rhai pobl yn beirniadu hanes cenhadu, gyda'r syniad o 'goloneiddio' yn cael ei godi, mae Miara yn mynnu nad oedd Cristnogaeth wedi ei orfodi ar bobl y wlad, ac mai dod ar wahoddiad y Brenin Radama oedd y cenhadon, a oedd yn awyddus iddyn nhw helpu i sefydlu ysgolion.
Cristnogaeth yw crefydd fwyaf y wlad bellach, gyda thua 70% o'r boblogaeth o 32 miliwn yn ystyried eu hunain yn Gristnogion, ac mae dylanwad y cenhadon Cymraeg rheiny dal i'w weld ar grefydd y wlad.
Dyna egluro pam, felly, bod fersiwn arbennig o'r emyn Gwahoddiad wedi ei chlywed mewn cyngerdd yn y Drenewydd yn ddiweddar – gyda Chôr Meibion y Drenewydd yn canu yn Gymraeg, ac aelodau o Ny Ako yn canu mewn Malagasi - cân sy'n gyfarwydd iawn i'r ddwy wlad.
Ny Ako yn canu'r emyn Gwahoddiad mewn cyngerdd yn y Drenewydd, lle'r oedd Newtown and District Male Voice Choir hefyd yn perfformio
Dyma'r pumed tro i Miara drefnu taith i Ny Ako o gwmpas capeli ac ysgolion ledled Cymru – gyda nifer yn gwahodd y criw yn ôl dro ar ôl tro.
Mae'n trefnu cyngherddau mewn pentrefi bach, nid dim ond dinasoedd a threfi mawr, gan ei fod yn awyddus i bobl o bob rhan o Gymru gael gweld beth yn union yw diwylliant pobl Madagascar.
"Mae'r perfformiadau yn llawn lliw a chyffro," eglurai.
"Maen nhw'n dangos diwylliant Madagascar, sydd â llawer o ddawnsio; maen nhw'n mwynhau symud. Mae'n lliwgar iawn, llawer o rhythm, a wastad llawer o wenu!"

'Rhoi yn ôl' i bobl Cymru
Mae Miara a'i wraig, Rebecca, a'u merched, Hannah a Seren, bellach yn byw yn Nhrefaldwyn, ar ôl symud i Gymru 15 mlynedd yn ôl, yn wreiddiol i'r Rhondda.
Mae Rebecca yn weinidog, ac o Mizoram yn India; ardal sydd hefyd yn ddiolchgar i genhadon o Gymru am eu ffydd.

Mae Hannah, Rebecca, Seren a Miara wrth eu bodd â'u bywyd yng Nghymru
Fel teulu, mae hi wastad wedi bod yn bwysig iddyn nhw roi yn ôl i'r gymuned, gan wirfoddoli gydag ysgolion a chynnal clybiau plant ar ôl ysgol. I Miara, mae'n teimlo fel eu bod yn cau cylch a agorodd dros 200 mlynedd yn ôl.
"Rydyn ni'n teimlo, drwy fod yma, ein bod ni'n rhoi yn ôl i'r Cymry beth gawson ni ganddyn nhw.
"Pan daw ymwelwyr yma, rydyn ni wastad yn trio mynd â nhw i'r ardaloedd y daeth y cenhadon ohonyn nhw, neu i lle maen nhw wedi cael eu claddu. Mae pobl yn gwerthfawrogi'r cysylltiad, a gweld hynny gyda'u llygaid eu hunain.
"Mae Cymru yn ein calonnau ac yn werthfawr iawn i ni. Rydyn ni mor ddiolchgar i'w phobl. Dyna pam dwi'n trio cysylltu Cymru a Madagascar gymaint ag y galla i."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2016

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd29 Mai
