Ysgol Rhuthun i gau ei drysau ar ddiwedd y tymor

Ysgol Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ysgol yn cau ei drysau ddydd Gwener, 3 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Bydd Ysgol Rhuthun sy'n ysgol annibynnol yn cau ei drysau ar ddiwedd y tymor ac ni fydd yn ailagor ym mis Medi, yn ôl y cwmni sy'n rhedeg yr ysgol.

Dywedodd Ruthin Education Ltd nad oedd wedi bod yn bosibl sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy i'r ysgol, ac y bydd y cwmni'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar ddiwedd y tymor.

Mae'r tymor yn dod i ben yr wythnos hon.

Mae'r ysgol, a gafodd ei sefydlu ym 1284, yn un o'r ysgolion hynaf yng Nghymru ac mae wedi bod yn rhan o fywyd addysgol Sir Ddinbych ers dros saith canrif.

Dywedodd y cwmni mai'r flaenoriaeth nawr yw "cefnogi disgyblion, teuluoedd ac aelodau o staff, gan gadarnhau eu bod yn gweithio gyda Choleg Myddelton yn Ninbych i sicrhau y gall disgyblion barhau â'u haddysg o fis Medi".

'Diwrnod hynod drist i bawb'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Ruthin Education Ltd: "Gallwn gadarnhau na fydd Ysgol Rhuthun yn ailagor ym mis Medi. Mae hwn yn ddiwrnod hynod o drist i bawb dan sylw.

"Er gwaethaf pob ymdrech i sicrhau dyfodol yr ysgol, nid oedd yn bosibl sefydlu dyfodol ariannol cynaliadwy, a bydd y cwmni'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddiwedd y tymor."

Fe wnaeth y datganiad ychwanegu mai'r flaenoriaeth ar unwaith fydd cefnogi disgyblion, teuluoedd ac aelodau o staff drwy'r cyfnod pontio.

Ruthin School

Cadarnhawyd hefyd fod y cwmni'n gweithio'n agos gyda Choleg Myddelton i sicrhau bod y disgyblion yn cael y cyfle i barhau â'u haddysg ym mis Medi, tra bydd disgyblion sy'n sefyll arholiadau yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth symud ymlaen i'r cam nesaf.

Dywedodd y llefarydd fod trafodaethau hefyd yn parhau gyda Choleg Myddelton ynghylch sut y gellir diogelu etifeddiaeth Ysgol Rhuthun.

"Mae penderfyniad ar y cyd i sicrhau y bydd hanes unigryw a chyfraniad yr ysgol i fyd addysg yn parhau i gael eu cydnabod yn y dyfodol," meddai.

Ychwanegwyd: "Rydym yn hynod ddiolchgar i'n staff am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn, ac yn hynod flin ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn."

'Sioc wirioneddol'

Dywedodd Darren Millar AS ei fod wedi'i "dristáu'n fawr" gan y newyddion.

"Mae fy nghalon yn mynd allan i'r holl ddisgyblion, rhieni ac aelodau o staff sydd wedi'u heffeithio," meddai.

"Mae hyn wedi dod fel sioc wirioneddol ac mae teuluoedd bellach yn wynebu ansicrwydd difrifol ynghylch addysg eu plant, tra bod staff yn ddealladwy yn poeni am eu dyfodol.

"Y flaenoriaeth nawr yw sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac yn gallu parhau â'u haddysg gyda chyn lleied â phosibl o darfu.

"Mae'n hanfodol hefyd bod staff sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn yn cael cymorth priodol yn ystod cyfnod mor anodd."

Darren Millar AS
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Darren Millar AS, mae hyn wedi dod fel 'sioc wirioneddol'

Ychwanegodd Mr Millar mai hon oedd yr ail ysgol annibynnol yng ngogledd Cymru i gyhoeddi ei bod yn cau mewn ychydig wythnosau.

"Er y bydd nifer o resymau y tu ôl i'r penderfyniad, ni ellir anwybyddu'r pwysau ariannol ehangach sy'n wynebu ysgolion annibynnol yn sgil cyflwyno TAW ar ffioedd ysgolion preifat.

"Wedi'i sefydlu ym 1284, mae Ysgol Rhuthun wedi bod yn gonglfaen addysg yn Sir Ddinbych ers cenedlaethau.

"Mae ei chau yn foment hynod o drist i ogledd Cymru, ond dylai hefyd fod yn rhybudd am ganlyniadau polisïau sy'n cynyddu'r pwysau ar ysgolion a theuluoedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Bydd dod â gostyngiadau treth i ysgolion preifat i ben yn codi £1.8 biliwn y flwyddyn erbyn 2029/30 - bydd hynny yn helpu gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys cefnogi 94% o blant sydd mewn ysgolion gwladol i gyrraedd y nod a ffynnu."

Ysgol Rhuthun yn 1927Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgol wedi bod ar safle Ysgol Rhuthun ers canrifoedd

Daw'r cyhoeddiad am gau yr ysgol hon ar adeg lle mae sawl ysgol breifat arall yn wynebu trafferthion gan gynnwys St Gerard's ym Mangor.

Bydd yr ysgol honno yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Gwener, 3 Gorffennaf.

Yr wythnos hon fe wnaeth Coleg Llanymddyfri hefyd gyhoeddi bod cyflogau staff yn cael eu torri ar ôl rhybuddion fod y coleg "ar fin cau" oherwydd pwysau ariannol.

Ysgolion eraill yn cynnig lleoedd

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae ysgolion annibynnol eraill wedi cynnig llefydd i ddisgyblion Ysgol Rhuthun.

Dywedodd pennaeth Ysgol Rydal Penrhos, Tom Hutchinson, ei fod yn estyn ei gydymdeimlad diffuant i ddisgyblion, rhieni, gofalwyr ac aelodau o staff.

Mewn llythyr at deuluoedd, dywedodd fod llefydd ar gael yn yr ysgol o fis Medi, a bod trefniadau arbennig yn cael eu cynnig i helpu teuluoedd i drosglwyddo o un ysgol i'r llall.

Mae'r rhain yn cynnwys gostyngiad ar wisg ysgol, cinio wedi'i gynnwys yn y ffioedd, gofal estynedig cyn ac ar ôl oriau ysgol heb gost ychwanegol, iPad i bob disgybl a chludiant ysgol i rai.

Yn y cyfamser, dywedodd pennaeth Coleg Myddelton, Lucy Davies, fod y coleg yn barod i groesawu unrhyw ddisgybl o Ysgol Rhuthun sy'n dymuno symud ym mis Medi.

Dywedodd fod y coleg, sydd tua wyth milltir o Ruthun, yn deall pa mor anodd yw gorfod newid ysgol yn annisgwyl, ac y byddai cymorth ar gael i deuluoedd lleol yn ogystal â disgyblion preswyl a rhyngwladol.

Ychwanegodd fod Coleg Myddelton yn rhannu'r ymrwymiad i sicrhau bod etifeddiaeth Ysgol Rhuthun yn cael ei diogelu a'i chydnabod yn y dyfodol.

'Mae'n rhan o hanes Rhuthun'

Daeth y cyhoeddiad "o nunlle", yn ôl un o'r cynghorwyr sy'n cynrychioli Rhuthun ar Gyngor Sir Ddinbych.

"Mae o'n gymaint o sioc i'r dre," dywedodd y Cyngorydd Huw Hilditch-Roberts wrth raglen Post Prynhawn.

"Do's 'na neb yn gw'bod be' sy'n mynd i ddigwydd.

"Yn ddiweddar, o'n nhw'n sôn am fuddsoddi mwy yn y dre'... ddaru fi jyst ffeindio allan ar social media neithiwr."

Gan fod yr ysgol yn un breifat, dywedodd y cynghorydd bod hi'n "anodd" gweld sut gallai'r awdurdod lleol helpu.

"Wnawn ni drio - cysylltu a gweld be' fedrwn ni 'neud ond dwi'n meddwl fydd o'n anodd iawn i achub unrhyw beth o'r sefyllfa ddrwg iawn yma."

Fe fydd yr effaith ar gymuned ac economi Rhuthun yn "enfawr", meddai, gan fod "gymaint o bobol yn cael eu cyflogi yn yr ysgol", a'r cwmni'n defnyddio hen westy'r Angor hefyd fel llety.

Un o'i bryderon nawr yw dyfodol adeilad y mae'n ei ddisgrifio fel "un o landmarks y dre'".

"Fysa'n drist gweld rwle mor brydferth yn ca'l ei ddinistrio... mae o yn hanesyddol yn ei hun a mae'n rhan o hanes Rhuthun."

Ond mae'n rhaid parhau'n obeithiol y daw cynnig o rywle, meddai, fel y digwyddodd yn nhref Dinbych pan gamodd Ysgol Myddleton i'r adwy ar safle hen Ysgol Howells.

Dadansoddiad

Bethan Lewis, Gohebydd Addysg a Theulu

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai treth ar werth yn ddyledus ar wasanaethau ysgolion preifat roedd yna rybuddion y byddai rhai yn cau.

Ers hynny mae pedair ysgol yng Nghymru wedi, neu ar fin, cau eu drysau - er bod un o'r rheini, St Clare's ym Mhorthcawl, wedi ailagor dan reolaeth newydd.

Yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r sector annibynnol, mae Cymru ymhlith y rhannau o'r Deyrnas Unedig sydd wedi gweld y cwymp mwyaf yng nghanran y disgyblion – lawr 6%.

Ond mae cydnabyddiaeth hefyd bod y rhesymau pam mae unrhyw ysgol yn cau yn gymhleth ac mae yna bwysau ariannol o sawl cyfeiriad gan gynnwys effaith costau byw mwy cyffredinol ar deuluoedd ac ysgolion.

Dadl y Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymreig yw bod ysgolion Cymreig yn fwy bregus gan eu bod nhw'n tueddu i fod yn llai ond bod yr effaith pan mae nhw'n cau yn gallu bod yn fwy amlwg yn eu cymunedau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig