Carchar am oes i bensiynwr am lofruddio ei gymydog ar ddydd Nadolig

Mae James Hughes wedi cael ei garcharu am lofruddio ei gymydog
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 67 oed o Sir Ddinbych wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei gymydog yn dilyn ffrae am sŵn.
Gwrthododd James Hughes o Lanelwy adael ei gell tra roedd y ddedfryd yn cael ei chyhoeddi yn Llys y Goron Caernarfon.
Bu farw Harold Turner, 68, oedd yn cael ei adnabod fel Harry, ddydd Nadolig 2025 yn yr Hen Balas - man sy'n cynnig cartref i unigolion a chyplau dros 55 oed.
Cafodd marwolaeth Harold Turner ei recordio ar ddictaffon oedd yn eiddo i James Hughes, 67.
Cafodd Hughes ddedfryd o oes gyda'r lleiafrif o ddeuddeng mlynedd a 180 diwrnod o garchar cyn y bydd yn gymwys i wneud cais i'w ryddhau.

Dywedodd teulu Harry Turner y byddai colled fawr ar ei ôl
Roedd Harold Turner ar fin symud allan o'r Hen Balas ar ôl cwyno bod James Hughes yn ei gadw'n effro drwy'r nos yn aml drwy daro ei ffon gerdded yn erbyn y wal.
Eisteddodd Hughes ar ben Mr Turner gan ei rwystro rhag anadlu, a'i guro droeon gyda'i ffon gerdded.
Roedd Mr Turner yn dioddef o glefyd y galon.
Pan ddywedodd Harry Turner na allai anadlu, atebodd Hughes "am siom".
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ei fod hefyd wedi dweud wrth Mr Turner y "galli di farw, dwi ddim yn poeni".
Yna curodd Mr Turner yn anymwybodol â'i ffon gerdded cyn dychwelyd i'w fflat, gwneud diod poeth a gwrando ar y radio am 23 munud cyn ffonio ambiwlans.
Clywodd y llys i James Hughes ffonio ei nai gan ddweud wrtho: "Rwy'n credu fy mod i wedi lladd rhywun".

Mae fflatiau'r Hen Balas yn Llanelwy yn cynnig cartref i unigolion a chyplau dros 55 oed
Mewn datganiad dywedodd chwaer Harry Turner, Michele Appleton: "Fydd Nadolig byth yn amser hapus i ni eto."
Dywedodd ei bod wedi siarad â Harry Turner y bore hwnnw ac yn aros iddo ei ffonio'n ôl.
Dywedodd y barnwr, Mr Justice Matthew Nicklin, ei fod yn fodlon mai Harold Turner gychwynnodd yr ymosodiad, ond bod y ffordd yr oedd Hughes yn siarad ag ef yn "ddig, yn ddideimlad ac yn greulon".
Dywedodd hefyd fod yr ymosodiad wedi gwaethygu pan wnaeth Mr Hughes wrthod codi ffwrdd o'r dioddefwr ar ôl iddo ddweud na allai anadlu.
Llofruddiaeth Llanelwy: Dyn yn ymddangos yn Llys y Goron
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025
Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi marwolaeth ar ddydd Nadolig
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2025
Dyn yn euog o lofruddio ei gymydog wedi ffrae am sŵn
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.