Y babi a anwyd ar gopa Yr Wyddfa fu'n gangster yn Efrog Newydd

Gangster o flaen hen lun o gopa'r wyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images / Hawlfraint wedi dyddio
GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Daeth babi a anwyd ar gopa'r Wyddfa yn 1907 a gafodd ei anrhydeddu gan Yr Archdderwydd a'r Brenin yn droseddwryn Efrog Newydd cyn ceisio dianc o garchar Sing Sing a'i hel yn ôl i Lanberis.

Dyna mae Cymru Fyw a Hywyn Williams o Ddeiniolen wedi ei ddarganfod dros y dyddiau diwethaf.

Ac mae'r cyfan yn deillio o neges i grŵp WhatsApp gan Eryl Owain o Ddyffryn Conwy'n sôn fod babi wedi ei eni ar Yr Wyddfa yn 1907.

Roedd Cymru Fyw eisiau darganfod mwy felly anfonwyd neges i'r grŵp Facebook Llanberis Ddoe a Heddiw yn holi a oedd pobl leol yn gwybod unrhyw beth am Roger.

Cerdyn post o 1897 sy'n dangos y gwesty ar gopa'r Wyddfa yn 1897Ffynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post o 1897 sy'n dangos y gwesty ar gopa'r Wyddfa yn 1897

Daeth Hywyn Williams o Ddeiniolen yn chwilfrydig a thrwy ei waith ymchwil, mae stori go gythryblus am fywyd Roger Evans wedi dod i'r fei.

Meddai Hywyn: "Ro'n i jest yn gweld y ffaith fod babi wedi ei eni ar Yr Wyddfa yn ddiddorol, a gan fy mod i wedi arfer chwilota i hanes teulu ers dros 20 mlynedd, ro'n i'n gwybod lle i ddechrau chwilio am bethau.

"Mwya'n y byd ro'n i'n chwilio drwy hen bapurau newydd, mwya'n y byd oedd y stori'n mynd yn un dda."

Wrth ymateb i'r datblygiad yn stori'r babi a anwyd ar gopa uchaf Cymru, dywedodd Eryl Owain:

"Iesgob annwyl, stori anhygoel a rhyfeddol am greadur gafodd ei eni ar gopa'r Wyddfa a lawr y rhiw byth wedyn!"

Genedigaeth babi ar gopa'r Wyddfa

Dim ond ar hap a damwain y daeth Eryl Owain o Ddyffryn Conwy i wybod am enedigaeth Roger yn y lle cyntaf.

Eglurai: "Dod ar draws y cyfeiriad at y baban wrth ymchwilio i hanes Robert Camber- Williams, arweinydd eglwysig amlwg yn ei ddydd a oedd hefyd yn fynyddwr brwd wnes i.

"A thrwy hynny, darllen adroddiad ym mhapur newydd Y Negesydd (rhifyn 5 Medi 1907) yn sôn am enedigaeth Roger.

"Wnes i ddotio bod yr erthygl yn nodi fod Archdderwydd Cymru, Dyfed wedi rhoi'r teitl mawreddog 'Aer yr Wyddfa' i'r baban, cyn dweud yn gwta, 'Enw arall y plentyn yw Roger'."

Yr Archdderwydd DyfedFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd Dyfed

Ganwyd Roger yn fab i Mr a Mr Evans, rheolwyr y Snowdon Summit Hotel. Ac am iddo gael ei eni ar le mor uchel yn y byd, fe'i anrhydeddwyd gan Yr Archdderwydd Dyfed gyda'r teitl a'i enw bedydd, 'Aer yr Wyddfa'.

Bu gymaint o sôn am y babi a anwyd ar y copa nes cyrhaeddodd y newydd bapur Birmingham Evening Mail ar 27 Awst 1907.

Yn ôl adroddiad yn y papur fe dderbyniod Mr a Mrs Evans lythyr gan ysgrifennydd Y Brenin Edward VII a Thywysog Cymru yn eu llongyfarch ar enedigaeth y babi cyntaf i gael ei eni ar gopa'r Wyddfa.

Llythyr gan ysrifennydd Tywysog Cymru i Mr Evans yn cael ei ddyfynnu yn y Birmingham Evening MailFfynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Llythyr gan ysgrifennydd Tywysog Cymru i Mr Evans yn cael ei ddyfynnu yn y Birmingham Evening Mail

Ymfudo i Ganada

Mae cofnodion bedydd plwyf Llanberis o 1907 yn nodi i Roger gael ei fedyddio ar gopa'r Wyddfa ar 30 Awst 1907 gan y rheithor E. B. Thomas.

Mae hefyd yn datgelu mai enwau llawn ei rieni oedd William Thomas Evans ac Eileen Mervyn Evans.

Fe fynychodd Mrs Evans wasanaeth eglwysig bedydd ei mab yn Eglwys Sant Padarn ar Awst 28 1907.

cofnodion bedydd plwyf Llanberis o 1907 Ffynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Cofnodion bedydd plwyf Llanberis o 1907. Mae manylion bedydd Roger Evans i'w weld chweched rhes i lawr (chwith)

O dreulio dyddiau cyntaf ei fywyd yng ngwesty'r Snowdon Summit Hotel ar gopa'r Wyddfa, mae ymchwil Hywyn Williams yn dangos bod Roger a'i rieni wedi ymfudo i Ganada'n 1911.

Mae Cofnodion Mewnfudo Canada yn dangos bod Eileen Evans a Roger Evans (4 oed) wedi cyrraedd Quebec ar long y Virginian ar 28 Gorffennaf 1911.

Mae'r cofnod yn nodi bod Eileen a'i mab yn mynd at ei gŵr i Montreal yn nhalaith Québec, Canada.

Cofnodion Mewnfudo CanadaFfynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Cofnodion Mewnfudo Canada. Gwelwch gofnod ar gyfer Eileen Evans a'i mab Roger yn y rhes olaf

Oes yna fwy o dystiolaeth yn cefnogi bod y teulu o dri wedi ymfudo i Ganada?

Mae Cyfrifiad 1921 ar gyfer Montreal yn dangos bod gŵr a gwraig o'r enw Thomas ac Alene yn byw yno gyda'u mab Rodger (14 oed). Mae'n nodi hefyd iddynt ymfudo yno'n 1911.

Er bod sillafiad Eileen a Roger fymryn yn wahanol na mewn dogfennau eraill, rydym yn gwybod fod Roger Evans wedi ei eni'n 1907 ac y byddai'n 14 oed erbyn 1921, sy'n gyson gydag oedran 'Rodger' yng Nghyfrifiad 1921 Montreal.

Mae blwyddyn ymfudo teulu Evans hefyd yn gyson gyda Chofnodion Ymfudo Canada 1911.

Cyfrifiad 1921. Mae manylion Mr a Mrs Evans a'u mab Roger i'w gweld yn rhes 19Ffynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrifiad 1921 Montreal. Mae manylion Mr a Mrs Evans a'u mab Roger i'w gweld yn rhes 19

Dianc o garchar Sing Sing

Erbyn 1929 mae lle i gredu fod y babi diniwed a ddaeth i sylw cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr yn lleidr yn Efrog Newydd.

Mae erthygl yn rhifyn 16 Ebrill 1929 o bapur newydd New York Daily News yn dweud bod tri o droseddwyr Efrog Newydd yn wynebu cyfnod hir iawn yng Ngharchar Sing Sing ar ôl ceisio dianc oddi yno.

Ymhlith y tri a ddisgrifwyd fel "the most desparate criminals in New York City, all with long records" mae Roger Evans o Ganada.

Mae'n dweud fod Roger A. Evans, 30 oed, gwerthwr a dinesydd Canada, wedi ei arestio gyntaf ym Montreal yn 1924.

Er mai 23 mlwydd oed fyddai Roger yn 1929 ac nid 30 fel mae'r erthygl yn nodi, mae rhestr o fordeithwyr llong President Roosevelt a hwyliodd o Efrog Newydd i Plymouth yn 1934 yn dweud bod deportee 27 oed o'r enw Roger Evans ar y llong.

Dyna fyddai oedran 'Aer Yr Wyddfa' yn 1934.

Mae'n debygol mai camgymeriad newyddiadurwr oedd y gwall yn oedran Roger yn y New York Daily News yn 1929.

Pennawd yn y New York Daily NewsFfynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Pennawd yn y New York Daily News yn 1929

Ond beth mae'r erthygl yn y papur yn ei ddatgelu am Roger?

Carcharwyd Roger Evans yng Ngharchar Sing Sing, 30 milltir i'r gogledd o Manhattan am ladrad yn Efrog Newydd.

Tra'n garcharor, ceisiodd Roger ddianc a dyna pham iddo fod gerbron llys yn ystod gwanwyn 1929.

Fe wnaeth Roger, a dau droseddwr arall sef lleidr o'r enw Frank H. Hawkes, a llofrudd o'r enw George A. Price ffurfio gang a chynllwynio i ddianc o Sing Sing.

Llwybr dianc y tri gangster gan gynnwys Roger Evans o garchar Sing SingFfynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Llun o dudalen flaen papur y New York Daily News ar Ionawr 24 1929. Mae'n dangos llwybr dianc y tri gangster o garchar Sing Sing. Fe wnaethant neidio o'u celloedd at y bibell (A), cerdded/dringo hyd y wal (B), a neidio oddi ar y to i'r ochr draw (C), cyn dringo dros ffens uchel wedi ei wneud o haearn gyda rhaffau er mwyn bod yn ddynion rhydd

Fis Ionawr 1929, llwyddodd y tri i ddianc. Bu Roger yn rhydd am lai na 10 munud cyn cael ei ddal ychydig lathenni i ffwrdd o'r carchar.

Llwyddodd Frank H. Hawkes i redeg 3 milltir i ffwrdd o'r carchar cyn cael ei ddal, tra bu'r heddlu'n chwilio am George A. Price am bron i 48 awr ac ar draws pum talaith cyn ei hebrwng yn ôl i Sing Sing.

Derbyniodd y tri ddedfryd hirach am ddianc o un o garchardai enwocaf America.

Hel Roger Evans o America i Lanberis

Roedd yr awdurdodau'n America wedi cael digon ar Roger Evans. Cafodd ei wahardd o'r wlad a'i hel ar long y President Roosevelt i Plymouth yn 1934.

Mae rhestr o fordeithwyr y llong yn nodi mai cyfeiriad y deportee yw Llanberis, Caernarfon, Wales.

Y cofnod olaf ond un (dde) yw Roger Evans (deportee) a'i gyfeiriad yw LlanberisFfynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Y cofnod olaf ond un ar restr mordeithwyr llong President Roosevelt (dde) yw Roger Evans (deportee) a'i gyfeiriad yw Llanberis

Lladrata yn Llundain

Ond nid dychwelyd i Lanberis i fyw bywyd gwaraidd wnaeth Roger Evans ar ôl cyrraedd porthladd Plymouth.

Fe drodd cyn-leidr Efrog Newydd yn un o ladron Llundain.

Mae The Daily Telegraph ar 12 Ebrill 1937 yn adrodd bod chwaraewr pêl-fàs o'r enw Roger Evans wedi ei ddedfrydu i chwe mis o garchar a llafur caled mewn achos llys yn Marlyebone ar ôl dwyn £8 gan ddynes oedd am aros yn anhysbys.

Dywedodd y ddynes ei bod wedi cyfarfod Roger Evans, a oedd yn honni ei fod yn aelod o dîm hoci-iâ Canada yn Piccadilly fis Mawrth.

Cyflwynodd Roger Evans ei hun i ddechrau fel Haroll Martin, cyn datgelu mai ei enw iawn oedd Roger Evans.

Gadawodd y ddynes i Roger Evans ei hebrwng hi adref, ac yn ystod yr wythnos ganlynol fe aeth i'w gweld i'w chartref bron bob dydd.

Rhan o'r erthygl yn The Daily TelegraphFfynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r erthygl yn The Daily Telegraph

Un diwrnod fe ddywedodd Roger Evans ei fod mewn dyled a gofynnodd am £20 gan y ddynes. Rhoddodd hithau £4 10s iddo.

Yn fuan wedyn sylweddolodd y ddynes bod £8 ar goll o'i chist arian.

Cyfaddefodd Roger wrthi mai fo oedd wedi mynd â'r arian, gan ddweud yn y llys mai "chwarae o gwmpas" oedd ei fwriad, nid dwyn.

Dywedodd heddwas yn y llys fod Roger Evans wedi ei ganfod yn euog am ladrata sawl gwaith yng Nghanada ac yn Efrog Newydd, ei fod wedi dianc o garchar Sing Sing, a'i fod wedi ei hel o America i'r Deyrnas Unedig yn 1934.

Ac mae adroddiad yn The Sunday People ar 11 Ebrill 1937 yn cynnwys darn arall o dystiolaeth sy'n awgrymu mai 'Aer Yr Wyddfa' oedd y lleidr yn Llundain.

Mae'n dweud fod Roger Evans yn dod o Gymru'n wreiddiol a'i fod wedi ymfudo i Ganada gyda'i deulu pan oedd yn bedair oed.

Yr erthygl yn The Sunday People sy'n dweud bod Roger Evans yn 'native of Wales' ac wedi symud o Gymru i Ganada pan oedd yn bedair mlwydd oed Ffynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Yr erthygl yn The Sunday People sy'n dweud bod Roger Evans yn 'native of Wales' ac wedi symud o Gymru i Ganada pan oedd yn bedair mlwydd oed

Wnaeth Roger ddychwelyd i Lanberis?

Hyd yn hyn does dim tystiolaeth fod Roger Evans wedi dychwelyd i Lanberis ar ôl troseddu'n Llundain.

Tybed a gafodd Yr Archdderwydd Dyfed neu'r Brenin Edward VII wybod am fywyd cythryblus 'Aer Yr Wyddfa'?

Go brin, ond mae ymchwilio i hanes y babi a anwyd ar gopa'r Wyddfa wedi datgelu aderyn brith iawn.

Bu farw mam Roger, Mrs Eileen Mervyn Evans yn Montreal yn 1958. Yn yr ysgrif goffa iddi ym mhapur The Montreal Star, mae cyfeiriad at ei diweddar annwyl ŵr ond does dim sôn am ei mab.

Ar ôl dod yn fam falch i 'Aer yr Wyddfa', efallai bod hynny'n ddealladwy.

Ysgrif goffa i Eileen Mervyn Evans yn The Montreal Star yn 1958Ffynhonnell y llun, Hawlfraint wedi dyddio
Disgrifiad o’r llun,

Ysgrif goffa i Eileen Mervyn Evans yn The Montreal Star yn 1958

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.