Cymuned yn llwyddo i godi £145,000 i achub tafarn ym Mhenmachno

Mae grŵp Cynnal Bro Machno wedi llwyddo i werthu dros £145,000 o gyfranddaliadau yn eu hymgyrch i brynu tafarn Yr Eagles
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol yn sir Conwy yn bwrw 'mlaen gyda'r bwriad o brynu eu tafarn leol, ar ôl iddyn nhw godi bron i £150,000 mewn cyfranddaliadau.
Cadarnhaodd cadeirydd grŵp Cynnal Bro Machno fore Mawrth bod gan y gymuned bellach ddigon o arian i brynu tafarn Yr Eagles ym Mhenmachno, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus.
Mae'r gymuned wedi bod wrthi ers mis Chwefror yn casglu cyfranddaliadau er mwyn sicrhau dyfodol i'r dafarn, a hyn wedi i'r ymgyrch ddechrau ddiwedd y llynedd.
Dywedodd cadeirydd y grŵp, Gerwyn Edwards, y bydd y dafarn yn aros ar agor wrth iddo ddod yn eiddo i'r gymuned.
Ymgyrch i achub tafarn sy'n ganolfan 'i'r gymuned a'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2025
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Mr Edwards bod 491 o bobl wedi prynu cyfranddaliadau, a'u bod wedi llwyddo i godi £145,701.
Roedd yr ymgyrch wedi nodi £150,000 fel "uchafswm" y byddai angen i brynu'r dafarn, a gyda'r cyfranddaliadau a rhoddion, mae'r ffigwr hwnnw wedi'i gyrraedd, meddai Mr Edwards.
"Ddaru ni setio'r £150,000 fel rhyw uchafswm mawr - rhyw fymryn yn uchelgeisiol - ond 'da ni 'di gyrraedd o!" meddai.
"Mae 'na 70% o'r pres yma wedi dod yn lleol o Benmachno neu Gwm Penmachno - Bro Machno ei hun - felly mae hynny fwy neu lai bob tŷ sydd yn yr ardal 'ma wedi talu amdano fo."

Mae'r dafarn yn gartref i ddosbarth Cymraeg ac yn cynnal digwyddiadau eraill fel sesiynau canu yn rheolaidd
Bydd y rhai sydd wedi prynu'r cyfranddaliadau yn penodi pwyllgor a fydd yn dewis rheolwyr ar gyfer y dafarn, gyda newidiadau mawr ar y gweill.
"Mae 'na blaniau wedi cael ei rhoi yn eu lle yn barod i weld sut allwn ni altro'r Eagles ac i wella fo a'i oleuo fo, ac mae'r gwaith caled yn dechra' wedyn," meddai Mr Edwards.
"Mae'r perchennog sydd bia fo 'wan, wedi bod yn amyneddgar iawn chwarae teg.
"Felly 'da ni'n prynu'r busnes fel y mae dal i redeg - mae'n dipyn haws i gadw'r olwyn i fynd na'i chodi hi a dechrau eto."
Ychwanegodd mai adnewyddu'r llety, sy'n cysgu 24 o bobl ar hyn o bryd, fydd un o'r camau nesaf.
'Y dafarn yn bwysig ym mhob pentre'
Mae achub y dafarn - sydd wedi bod ar werth am flynyddoedd - am fod yn hwb enfawr i'r gymuned, meddai Mr Edwards.
"Wnaeth y gymuned ddod at ei gilydd i wneud hyn. Allwn ni m'ond mynd ymlaen 'wan," meddai.
"Mae'r dafarn yn bwysig ym mhob pentre'. Ma'r eglwys yn agored ar ôl iddo ailagor -a hwnna di cau am 16 mlynedd - ma'r capel yn agored. Mae hyn yn cadw teuluoedd ifanc yn ein cymuned ni.
"Mae'r teuluoedd ifanc 'na yn dod a phlant efo nhw a mwy o egni hefo nhw, a wedyn mae'r ysgolion yn aros yn agored hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.