Ymgyrch i achub tafarn sy'n ganolfan 'i'r gymuned a'r Gymraeg'

Llun o dafarn wedi'i adeiladu allan o gerrig gydag awyr cymylog tu ôl iddo. Ffynhonnell y llun, CYNNAL BRO MACHNO
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen codi tua £500,000 i brynu ac adnewyddu'r dafarn Yr Eagles

GanSion Tootill
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp wedi dechrau ymgyrch i achub "hwb cymunedol allweddol" rhag diflannu o'u pentref.

Dydd Sadwrn bydd Cynnal Bro Machno yn dechrau gwerthu cyfranddaliadau i brynu tafarn Yr Eagles ym Mhenmachno, Sir Conwy, er mwyn ei redeg fel busnes sy'n eiddo i'r gymuned.

Mae'r pwyllgor yn rhagweld y bydd angen codi £500,000 er mwyn prynu'r dafarn - sydd wedi bod ar werth am flynyddoedd - a'i adnewyddu.

Yn ôl Arfon Hughes, un o ysgrifenyddion Cynnal Bro Machno, y nod yw "diogelu dyfodol y gymuned, yr iaith Gymraeg a'r diwylliant lleol".

'Mae'n lle allweddol i ni'

"Mae'n ganolfan cymdeithasol hynod o bwysig i'r ardal," meddai Arfon.

"Ni'n awyddus iawn i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Mae yna ddosbarth Cymraeg sy'n cyfarfod yna nawr, mae angen cadw hynny i fynd.

"Ffactor pwysig arall ydy fod angen rhywle i fedru cael diod a bwyd yn lleol, a thwristiaid hefyd, sydd yn elwa rhannau arall o'r gymuned."

Ychwanegodd: "Mae'n lle allweddol i ni, dyma hwb y gymuned."

Llun o un o ystafelloedd tafarn Yr Eagles llawn bobl. Cefn pennau pobl sydd i'w gweld wrth iddyn nhw edrych at ddyn yn eistedd wrth fwrdd yn erbyn y wal.Ffynhonnell y llun, CYNNAL BRO MACHNO
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dafarn yn gartref i ddosbarth Cymraeg ac yn cynnal digwyddiadau eraill fel sesiynau canu yn rheolaidd

Mae'r pwyllgor yn disgwyl y bydd yn rhaid talu tua £355,000 ar gyfer y dafarn ei hun, ond gyda gwaith adnewyddu i'w wneud ar yr adeilad, y nod yw codi £500,000.

Gobaith Cynnal Bro Machno yw codi'r arian trwy gymysgedd o werthu cyfranddaliadau, grantiau a benthyciadau.

"Mae'n mynd i fod yn heriol cyrraedd y swm sydd angen, ond dwi'n hyderus fe wnawn ni," meddai Arfon.

'Sicrhau dyfodol y gymuned'

Mae ardal Penmachno yn gartref i dros 600 o bobl, yn ôl ffigyrau'r cyfrifiad.

Betws-y-coed yw'r dref agosaf, rhyw bedair milltir i'r gogledd.

"Mae ardal Penmachno yn un o'r ardaloedd mwyaf Cymreig Sir Conwy," meddai Arfon.

"'Da ni'n falch iawn o hynny. Mae gennym ni ysgol lewyrchus, ond mae angen cadw mwy o'r gwasanaethau lleol sy'n cadw pobl ifanc a theuluoedd yma.

"Tai sy'n fforddiadwy yw un elfen, y llall yw'r dafarn.

"Mae'n allweddol i sicrhau ein dyfodol ni fel cymuned."

Llun o ddyn yn gwenu wrth edrych at y camera. Mae ganddo wallt llwyd ac mae'n gwisgo crys glasFfynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Arfon Hughes, byddai'n rhaid teithio dros bedair milltir i Fetws-y-coed er mwyn mynd i'r dafarn agosaf os nad yw'r gymuned yn medru prynu'r Eagles

Dydd Sadwrn, wrth i'r pentref dod ynghyd i droi'r goleuadau Nadolig ymlaen, bydd Cynnal Bro Machno yn dechrau ar eu hymgyrch i brynu'r dafarn.

Y nod yw cyflwyno'r cynllun i ddechrau, cyn iddyn nhw ddechrau gwerthu cyfranddaliadau'n swyddogol yn y flwyddyn newydd.

Yn ôl Arfon, mae gan y pwyllgor tua blwyddyn i geisio codi'r arian sydd ei angen i brynu'r dafarn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.