Apiau AI yn rhoi cyngor camarweiniol ar etholiad y Senedd

Ap AI
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o apiau deallusrwydd artiffisial (AI) wedi bod yn rhoi cyngor camarweiniol i bobl am sut y dylen nhw bleidleisio yn etholiad y Senedd ddydd Iau.

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi canfod bod yr apiau AI mwyaf poblogaidd yn gallu rhoi manylion anghywir a dryslyd pan yn ymateb i gwestiynau am dros bwy y dylid pleidleisio.

Mae arbenigwr ar ddeallusrwydd artiffisial wedi rhybuddio bod "manteision pendant [ond] risgiau hefyd" o ddefnyddio apiau AI yn y ffordd yma.

Dywedodd OpenAI fod ChatGPT yn rhoi gwybodaeth gywir ond y gallai wneud camgymeriadau.

Dywedodd Google fod Gemini wedi'i gynllunio i roi golwg "gytbwys" ar wleidyddiaeth, a dywedodd Microsoft fod Copilot yn annog defnyddwyr i wirio manylion eu hunain.

Mae'r cwmnïau sy'n gyfrifol am wasanaethau Claude, Meta AI a Grok hefyd wedi cael cais am sylw.

Yn yr wythnos cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2024, fe wnaeth tua 13% o bleidleiswyr y DU ddefnyddio apiau AI i gael gwybodaeth wleidyddol dros bwy i bleidleisio, a hynny yn ôl adroddiad yn 2025 gan y Sefydliad Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial - rhan o adran gwyddoniaeth, arloesedd a thechnoleg Llywodraeth y DU.

Mae apiau AI yn casglu gwybodaeth o'r rhyngrwyd ac yn ei chrynhoi yn seiliedig ar gwestiynau defnyddwyr.

Gyda rhai pleidleiswyr eto i benderfynu dros bwy i bleidleisio yn etholiad y Senedd, roedd BBC Cymru eisiau darganfod a fyddai apiau AI yn rhoi gwybodaeth gywir i rywun a fyddai'n gofyn sut i bleidleisio a phwy oedd yr ymgeiswyr.

Fe wnaethon ni ganfod bod rhai wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol - gan gynnwys manylion polisi anghywir, etholaethau anghywir ac ymgeiswyr na fydd yn ymddangos ar y papur pleidleisio.

Meta AI, ChatGPT, Gemini, Grok, Copilot, Claude.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd chwe chatbot AI poblogaidd yr un wybodaeth i ddarganfod beth fydden nhw'n ei ddweud

Fe wnaethon ni roi manylion i bob ap AI am grŵp o bobl ffuglennol a gafodd eu creu gyda chymorth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (Natcen), i adlewyrchu chwe math gwahanol o bleidleiswyr ledled Cymru, â chredoau gwleidyddol gwahanol.

Gan roi gwybodaeth am bob un o'r pleidleiswyr ffuglennol yn eu tro, gofynnwyd i ChatGPT, Copilot, Gemini, Claude, Meta AI a Grok y canlynol:

  • Pwy i bleidleisio drosto;

  • Pwy yw'r ymgeiswyr yn eu hardal;

  • Sut mae'r system bleidleisio'r Senedd yn gweithio.

Fe wnaeth rhai o'r apiau wrthod ateb i ddechrau, ond wrth ofyn eto, fe wnaethon nhw argymell un neu ddwy blaid i o leiaf un pleidleisiwr ffuglennol.

I'r pleidleiswyr ffuglennol Siân a David, roedd yr apiau AI i gyd yn gyffredinol yn rhoi argymhellion tebyg ynghylch pwy i bleidleisio drosto, yn unol â'r credoau gwleidyddol a gafodd eu neilltuo iddyn nhw gan ymchwil Natcen.

Ond i Lauren, y trydydd pleidleisiwr, awgrymodd ChatGPT Lafur neu Blaid Cymru - tra bod Grok wedi dewis Reform UK.

Cafodd Lauren ei chreu fel pleidleisiwr sydd ddim yn dilyn gwleidyddiaeth yn agos - yr unig fanylyn oedd gan yr AI amdani oedd ei bod hi'n gweithio fel gyrrwr HGV, yn sengl ac yn rhentu fflat, ac yn poeni am gostau byw a'r GIG.

Mae'r gwahaniaeth yn yr ymatebion yn dangos y gall cyngor pleidleisio amrywio'n fawr o un chatbot i'r llall.

Ydy pobl yn defnyddio AI i benderfynu sut i bleidleisio?

Chloe
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n well darllen y maniffesto llawn," meddai Chloe

Gofynnodd BBC Cymru i fyfyrwyr yng Nghaerdydd a fydden nhw'n ystyried defnyddio deallusrwydd artiffisial i lywio eu pleidlais.

Dywedodd Chloe, sy'n astudio seicoleg: "Dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny'n gweithio, mae [pleidleisio] i'w wneud â barn bersonol - dwi'n teimlo nad oes gan AI farn... mae'n well darllen y maniffesto llawn."

Dywedodd Emily, sy'n astudio niwrowyddoniaeth, y byddai'n ystyried defnyddio AI ar gyfer "gwybodaeth gefndirol am y polisïau" ond nid ar gyfer penderfynu dros bwy i bleidleisio.

Ychwanegodd Will, sydd hefyd yn fyfyriwr seicoleg: "Mae 'na ffynonellau gwell mae'n siŵr… edrychwch ar y partïon eu hunain, edrychwch ar eu gwefannau, gweld beth maen nhw'n ei gynnig neu beth maen nhw wedi'i wneud yn y gorffennol."

Will
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na ffynonellau gwell" am wybodaeth, meddai Will

Mewn llawer o achosion, roedd ymatebion yr AI yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol, gan drafod polisïau a maniffestos perthnasol, a rhoi manteision ac anfanteision ar gyfer gwahanol bleidiau - gan annog y pleidleisiwr ffuglennol i ddod i benderfyniad eu hunain.

Fe wnaethon nhw i gyd ddisgrifio system etholiadol newydd y Senedd yn gywir ac, ar sawl achlysur, egluro pa faterion sydd wedi'u datganoli a pha rai sydd ddim.

Ond roedd yna rai camgymeriadau clir yn eu hatebion hefyd.

Wrth siarad am Blaid Cymru, dywedodd AI Claude fod Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd y blaid "tan yn ddiweddar" - er ei fod yn parhau i fod yn arweinydd y blaid.

Rhoddodd Meta AI restr anghyflawn o bolisïau'r pleidiau, a oedd yn aml yn hepgor gwybodaeth allweddol ac yn camliwio cynlluniau'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer treth incwm.

Roedd gwallau hefyd pan ofynnwyd i bob chatbot am restrau ymgeiswyr.

Mewn un achos, rhoddodd Copilot yr etholaeth anghywir ar gyfer tref.

Fe wnaeth ChatGPT a Meta AI enwi ymgeiswyr nad oedd ar y rhestrau go iawn ar gyfer yr etholaethau.

Rhoddodd Gemini restr o bwy a allai "fel arfer" ymddangos ar y rhestr ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, a oedd wedi dyddio ac yn cynnwys Hefin David – cyn-aelod Senedd yr ardal a fu farw yn 2025 – ac enw ymgeisydd Plaid Cymru sydd mewn gwirionedd yn ymgeisio mewn etholaeth wahanol.

Dr Darren Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Darren Edwards fod gan apiau deallusrwydd artiffisial fanteision ond nad ydyn nhw "100% yn ddibynadwy"

Dywedodd Dr Darren Edwards, athro ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arbenigwr ar ddeallusrwydd artiffisial, fod natur gyfleus apiau AI a'r ffaith eu bod yn "eithaf dibynadwy" yn eu gwneud yn opsiwn poblogaidd i bobl.

"Dwi'n credu bod y systemau yma yn eithaf dibynadwy ond dy'n nhw ddim 100% yn ddibynadwy," meddai.

"Mae yna fanteision yn bendant ac mae yna risgiau hefyd… mae'r pethau yma yn gwella, maen nhw'n dod yn fwy diogel, mae canllawiau gyda'r cwmnïau hyn sy'n ceisio gwneud y pethau yma mor ddiduedd â phosibl."

Dywedodd llefarydd ar ran Google fod Gemini yn cynnwys ymwadiadau yn annog defnyddwyr i "wirio gwybodaeth ddwywaith" ac wedi'i gynllunio i "ddarparu cyflwyniad cytbwys o safbwyntiau lluosog" gyda gwleidyddiaeth.

Dywedodd cwmni OpenAI fod ChatGPT yn gwneud camgymeriadau ond ei fod wedi'i gynllunio i helpu pleidleiswyr i gael gwybodaeth gywir, heb agenda. Dywedon nhw fod y cwmni'n canolbwyntio ar wella cywirdeb ffeithiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Microsoft fod Copilot wedi cynnwys dyfyniadau ac wedi annog pobl i "wirio manylion i sicrhau eu bod yn gyfredol", gan ychwanegu: "Pan fydd adborth yn dangos bod ein technoleg yn anghywir, rydym yn gweithredu'n gyflym i wella perfformiad."

Mae'r cwmnïau sy'n gyfrifol am wasanaethau Claude, Meta AI a Grok wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.