Canfod arteffactau Rhufeinig 'pwysig' yn Sir y Fflint

Tlws
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r tlysau o'r safle wedi medru cadw ei enamel gwyrdd addurniadol, er ei fod wedi rhydu dros amser

GanGwydion EdwardsBBC Cymru FywaSarah EasedaleBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae archeolegwyr wedi darganfod gweithdy Rhufeinig "pwysig iawn" wrth iddyn nhw gynnal arolygon mwyngloddio ar gyfer datblygiad tai yn Sir y Fflint.

Mae'r gweithdy gemwaith yn dyddio'n ôl bron i 2,000 o flynyddoedd.

Heneb, sef Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, wnaeth y canfyddiad "annisgwyl" ym Mancot ger Penarlâg ac maen nhw'n dweud eu bod wedi dod o hyd i "un o'r casgliadau arteffactau Rhufeinig mwyaf" yn y sir.

Mae'r swm o dlysau a mowldiau bellach yn nwylo cadwraethwyr.

Mi fyddan nhw'n cael eu dadansoddi ymhellach yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd cyn cael eu harddangos yn y gogledd ddwyrain.

Yn ôl Chris Matthews, rheolwr y prosiect, roedd y canfyddiad yn "un llawn cyffro" ac yn newid yr hyn a wyddwn am hanes yr ardal.

Chris Matthews
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Matthews ei fod yn "amser gwych" i fod yn archeolegydd yng ngogledd ddwyrain Cymru

Mae tai newydd bellach wedi'u codi ar y safle cloddio ar Ffordd Gladstone ond cyn hynny roedd angen symud dwsinau o eitemau, gan gynnwys crochenwaith a darnau arian.

Er bod y lleoliad yn edrych dros gaer (dinas Rufeinig bwysig), dywed Mr Matthews mai dim ond ychydig iawn o archaeoleg sydd wedi'i chanfod yng ngogledd ddwyrain Cymru tan yn ddiweddar.

"Mae'r safle yma'n benodol yn eithaf arbennig achos ei fod o'n rhan - nid yn unig o'r rhwydwaith cyflenwi mwy hwnnw i Gaer - ond mae'n ymddangos ei bod hi'n gymuned sydd wedi tarddu o bosib yn ystod cyfnod Oes yr Haearn cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd.

"Mae'n ymddangos i'r gymuned honno barhau i gael meddiannaeth olynol am gyfnod hir iawn o amser... hyd at ddiwedd y cyfnod Rhufeinig," meddai Mr Matthews.

Ategodd fod tystiolaeth o hynny wedi'i chryfhau gan ddau ddarn arian a gafodd eu canfod ar y safle - un o deyrnasiad yr ymerawdwr Commodus oedd mewn grym o flynyddoedd 177 i 192 ac un arall sy'n darlunio'r ymerawdwr Cystennin oedd yn teyrnasu tua 200 mlynedd yn ddiweddarach.

Gemwaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithdy gemwaith sy'n dyddio'n ôl bron i 2,000 o flynyddoedd wedi cael ei ganfod ar y safle

Mae'r dystiolaeth o'r gweithdy gemwaith yn un o'r elfennau mwyaf diddorol o'r safle, eglurodd Mr Matthews, gan fod hynny'n dangos bod y "diwydiant" yno yn manteisio ar adnoddau metel cyfoethog yr ardal, gan gynhyrchu "nwyddau pwysig ar gyfer cymdeithas Rufeinig".

Dangosa'r mowldiau plwm eu bod yn cynhyrchu "ystad eang o dlysau" yn yr anheddiad - rhai oedd yn cael eu defnyddio i gau dillad - ond yn aml yn rhai addurniadol iawn yn darlunio anifeiliaid ac adar.

Y tyb ydy eu bod yn gwasanaethu cymdeithas Caer, ond mae yno dystiolaeth hefyd bod masnachu'n digwydd yn ehangach - i Ewrop hyd yn oed.

Y lleoliad
Disgrifiad o’r llun,

Mae datblygiad tai newydd bellach ar ran o safle'r anheddiad Rhufeinig, sydd ar fryn - wyth milltir i ffwrdd o Gaer

Bydd yr arbenigwyr yng Nghaerdydd yn ceisio dysgu cyn gymaint ag y medran nhw o'r tlysau, gan edrych ar y ffordd y cafon nhw eu creu ac o le y daethant.

Ond, mae gobaith y byddan nhw'n dychwelyd i Wasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint yn fuan i gael eu harddangos yn gyhoeddus.

Mae cynlluniau hirdymor hefyd i uno'r holl ddarganfyddiadau Rhufeinig o ogledd ddwyrain Cymru gyda'i gilydd.

Ychwanegodd Mr Matthews eu bod "reit ar ddechrau be' allai fod yn gyfnod hir iawn o ddarganfyddiadau" yn y gogledd ddwyrain.

"Mae'n amser da iawn i fod yn archeolegydd yn y gogledd. Mae'n gyffrous iawn," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig