Breichled aur oedd mewn cae yn Llanuwchllyn wedi'i datgan yn drysor

Fe wnaeth arbenigwyr Amgueddfa Cymru ddarganfod bod y freichled o'r oes efydd hwyr
- Cyhoeddwyd
Mae breichled aur o'r oes efydd a gafodd ei chanfod gyda synhwyrydd metel mewn cae ger Y Bala wedi cael ei datgan yn drysor.
Cafodd y freichled ei chanfod gan Idris Thomas ym mis Mai, oedd yn sganio â synhwyrydd metel ar dir Geraint Edwards - ffermwr yn ardal Llanuwchllyn.
Yn y gwrandawiad yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon ddydd Iau, dywedodd dirprwy grwner Gogledd Orllewin Cymru Sarah Riley bod y canfyddiad yn "hollol syfrdanol"
Fe wnaeth arbenigwyr Amgueddfa Cymru ddarganfod bod y freichled o'r oes efydd hwyr - tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl - a'i bod yn 92.8% aur, 6.9% arian ac 1.28% copr.
Clywodd y cwest bod amgueddfeydd wedi mynegi diddordeb mewn cael gafael ar y freichled.

Cafodd y freichled aur ei chanfod ar dir Geraint Edwards (chwith) ym mis Mai, wrth i Idris Thomas (dde) sganio am fetel
Yn siarad â BBC Cymru Fyw wedi'r canfyddiad, dywedodd Idris Thomas: "O'n i just yn mynd allan am y diwrnod ac 'nath y seiren fynd off ar ôl ryw 20 munud."
Disgrifiodd y darganfyddiad fel un "unwaith mewn oes".
"O'n i'n meddwl mai darn arall o tin foil oedd o i ddechre, a 'nes i just gweld fflach o aur a tyllu mwy o'i gwmpas o.
"O'n i'n hollol shocked, over the moon, a ma'n anodd disgrifio'r teimlad.
"Yr unig beth dwi 'di ffeindio o' blaen ydy silver coin - o'n i byth yn disgwyl ffeindio wbeth fel 'ma - o'n i'n crynu!"

Mae'r freichled yn 92.8% aur, 6.9% arian ac 1.28% copr
Mae gofyn i aelod o'r cyhoedd sy'n darganfod trysor posib gysylltu â Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau rhanbarthol i gael cymorth i adrodd am drysor ac am gyngor pellach.
Arbenigwyr archeolegol ydy'r swyddogion, sy'n gweithio gyda'r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy - sy'n cael ei redeg gan yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cymru.
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid adrodd darganfyddiadau o drysor posibl i'r crwner yn yr ardal y cafon nhw eu darganfod - o fewn pythefnos.
Mae modd cysylltu â Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau am gyngor.
Mae pwyllgor yn cael ei gynnal i benderfynu a oes angen cadw trysor yn ddiogel neu ei roi yn ôl i'r canfyddwr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai
