Eisteddfod 2026: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Joe Allen, Mari Grug a Heledd CynwalFfynhonnell y llun, Getty Images + BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Allen, Mari Grug a Heledd Cynwal ymhlith y rhai sy'n cael eu hanrhydeddu eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae enwau'r bobl fydd yn cael eu derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi eu cyhoeddi.

Mae'r rheiny sydd ar y rhestr flynyddol yn cael anrhydedd "am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Ymhlith yr enwau cyfarwydd eleni mae'r pêl-droediwr Joe Allen a'r darlledwyr Heledd Cynwal a Mari Grug.

Hefyd ar y rhestr mae'r actores Gillian Elisa, un o sêr tîm pêl-droed merched Cymru, Angharad James, a'r cerddorion Ryland Teifi ac Aleighcia Scott.

Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod:

Mi fyddan nhw'n derbyn gwisg werdd, las neu wen ar faes yr Eisteddfod yn Llantwd eleni, ar fore Llun 3 Awst a bore Gwener 7 Awst.

Disgrifiad,

Dywedodd Aleighcia Scott ei bod yn ei dagrau ar ôl cael gwybod y newyddion

Dywedodd y gantores reggae Aleighcia Scott, a gyhoeddodd y gân reggae Gymraeg gyntaf i gyrraedd rhif 1 ar iTunes llynedd, bod cael ei hurddo ar ei "bucket list", ond ei bod wedi gorfod "checio eto a checio eto" pan gafodd yr e-bost ei gadarnhau.

Ychwanegodd ei bod yn ei dagrau ar ôl cael gwybod y newyddion: "I neud e nawr mae mor bwysig i fi, a mor bwysig i fi i ddangos pobl bod ti'n gallu neud e hefyd.

"Ar y dechrau o ddysgu Cymraeg, o'n i'n meddwl dwi moyn dangos pobl pwy bynnag wyt ti a ble bynnag ti'n dod, ti'n gallu dysgu Cymraeg hefyd."

Dywedodd bod gallu dangos i bobl eraill bod "ti'n gallu bod yn rhan o bopeth yn yr iaith Gymraeg, ac mae'n bwysig i bawb i fod yma hefyd".

"Dwi'n caru Cymraeg, dechreuais i ddysgu pedwar blwyddyn yn ôl, a mae mor bwysig i fi, nes i wastad moyn dysgu Cymraeg a nawr dwi just neud e.

"Dwi dal gyda mwy i ddysgu, a dwi'n gobeithio bydd pobl yn gweld fi a 'neud yr un peth."

Eurfyl Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Eurfyl Lewis "ffaelu credu fe" pan glywodd am gael ei dderbyn i'r Orsedd

Dywedodd Eurfyl Lewis o Langlydwen ger Hendy-gwyn ar Daf, a fu'n Swyddog yr Urdd yn Sir Benfro, ei fod yn teimlo "anrhydedd enfawr" o gael ei dderbyn i'r Orsedd.

"Wel, 'wen i ffaelu credu fe pan ges i'r e-bost ryw 10 diwrnod yn ôl," dywedodd.

"Buodd hi'n fraint ac anrhydedd i weithio i'r Urdd, bues i gyda'r Urdd bron i 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod 'na, 'wen i'n teimlo bod e'n bwysig bo' fi'n ceisio annog pobl ifanc a phlant, a'u hysbrydoli nhw i fanteisio ar bob cyfle."

Mae hefyd wedi arwain a gwasanaethu nifer o sefydliadau crefyddol a chymunedol, ac wedi codi arian at Eisteddfod y Garreg Las.

"Erbyn hyn dwi'n olygydd ac hefyd yn dosbarthu'r Cardi Bach, a fi yw cadeirydd y papur bro, mae e'n gallu hala amser ond dwi'n teimlo'n freintedig iawn bod y gymuned gyda fi. Ma' cymuned yn meddwl popeth i fi.

"Yn y flwyddyn ddiwetha, wrth gwrs, dwi wedi bod yn brysur iawn. A dwi'n gobeithio, gwaddol y steddfod i fi, yw y bydd pethe'n cadw i fynd am y blynyddoedd sydd i ddod."

Dywedodd y cerddor Ryland Teifi, sydd hefyd wedi actio a chyflwyno rhaglenni teledu, ei fod yn "fraint" cael ei dderbyn, ac yn "gymaint fwy o anrhydedd i fi wrth gwrs oherwydd mod i'n dychwelyd i fro fy mebyd".

Ychwanegodd mai "gogledd Sir Benfro, De Ceredigion yw ardal fy mhobl i", gan ddweud ei fod yn "edrych ymlaen i ddychwelyd a chael wythnos brysur iawn".

Wyn a Meirwen Evans o Gwmfelin Mynach.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Wyn a Meirwen Evans o Gwmfelin Mynach yn cael eu hurddo i'r orsedd fis Awst

Dau arall fydd yn derbyn y wisg las yn yr Eisteddfod yw Wyn a Meirwen Evans o Gwmfelin Mynach.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd y ddau fod derbyn yr anrhydedd yn "sioc enfawr".

Ychwanegodd Wyn ei fod yn meddwl "mai scam oedd e!"

"Mae'n fraint enfawr, doedd e ddim wedi croesi fy meddwl i y bydden ni'n cael cynnig y fath fraint.

"Felly mae hwn yn un o'r pethau gorau sydd wedi digwydd i ni yn yr ardal 'ma."

Dywedodd Meirwen mai ei hymateb cyntaf oedd "anghrediniaeth, a gofyn y cwestiwn ''Be' ni wedi gwneud i haeddu hwn?"

Mae'r ddau wedi chwarae rhan allweddol ym mywyd eu cymuned, ac wedi bod yn ganolog i weithgarwch papur bro Y Cardi Bach ers dros 20 mlynedd.

"Mewn cymuned fach fel hyn, mae'n rhaid i chi daflu'ch hunain mewn i'r pethe 'ma a ni'n gwneud e er mwyn bod yr iaith Gymraeg yn cael sylw hefyd," meddai Meirwen.

"Ni'n hapus iawn i dderbyn e, ond ni'n falch hefyd bod pobl yn cydnabod y gwaith ni wedi gwneud yn dawel bach."

Natalie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie Jones yn gweithio fel rheolwr addysg ac amrywiaeth i S4C ac wedi dewis enw yn barod - Breuddwyd y Llais

Bu Ann Davies a Natalie Jones hefyd yn trafod eu hymateb o dderbyn yr anrhydedd ar Dros Frecwast fore Iau.

Dywedodd Ann, sy'n fenyw leol i'r eisteddfod bod "cael fy anrhydeddu yn fy milltir sgwâr yn arbennig, ac yn fwy arbennig fyth bod Mari [Grug, ei merch] yn cael ei hanrhydeddu yr un pryd a fi, bydd e'n brofiad sbecisal iawn i ni fel teulu".

"Ni'n lwcus iawn yng Nghymru bod cymaint o bobl sy'n haeddu cael eu hanrhydeddu yn yr Orsedd, mae hynny yn rhywbeth i'w drysori."

Bydd Ann yn cael ei derbyn i'r wisg werdd.

Dywedodd Natalie, sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru o Birmingham ei bod yn "dal i brosesu ac yn hynod o falch" o'r anrhydedd.

"Mae'n hynod o fraint i fi, achos pan gwnaethon ni symud i Gymru, y peth gyntaf 'wedodd Mam oedd 'ti'n mynd i ddysgu Cymraeg achos dyna sut ti'n dangos parch at y wlad lle ti'n byw', so dwi'n teimlo mod i'n cael hwn dros Mam hefyd."

Bydd Natalie yn cael ei derbyn i'r wisg las.

'Un o freintiau mwyaf y Cymro'

Angharad JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angharad James ei bod yn gobeithio gallu ysbrydoli plant a phobl ifanc yn yr ardal

Mae ambell bêl-droediwr ymhlith y rheiny fydd yn cael eu hurddo fis Awst.

Wrth siarad am yr anrhydedd, dywedodd chwaraewr canol cae Cymru, Angharad James: "Mae cael dy gydnabod gan yr Orsedd yn un o'r anrhydeddau a'r breintiau mwyaf y gall Cymro eu cael, ac mae'n golygu'r byd i mi a'r teulu.

"Rwy'n falch bob tro rwy'n cynrychioli fy ngwlad, ond rwyf yr un mor falch o sut y gallaf ddefnyddio'r Gymraeg ar draws y byd, ar y cae ac mewn cyfweliadau."

Ychwanegodd fod "cael fy anrhydeddu gan yr Orsedd yn fy sir enedigol yn ei gwneud yn arbennig iawn".

"Rwy'n gobeithio y gallaf ysbrydoli plant a phobl ifanc yn yr ardal ac ar draws y wlad i ddefnyddio a dathlu'r iaith yn yr un ffordd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol