Anrhydeddau'r Orsedd 2026: Gweddill Cymru

SeremoniFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Seremoni'r Orsedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn 2026.

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal Llantwd yn y gorllewin eleni dyma rai o'r bobl o weddill Cymru fydd yn cael eu hurddo fis Awst a'r hyn sy'n cael ei nodi gan y Brifwyl amdanyn nhw.

Fe allwch chi weld rhestr o'r unigolyn o ardal yr Eisteddfod sy'n cael eu hurddo yma.

GWISG LAS

Mae Aled Eirug, Caerdydd, wedi rhoi degawdau o wasanaeth i Gymru a'r Gymraeg ym meysydd newyddiaduraeth, darlledu, academia a bywyd cyhoeddus. Yn gyn-bennaeth Newyddion BBC Cymru, bu'n arwain darllediadau etholiadol, yn llunio polisi iaith leiafrifol ac yn cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae wedi cadeirio sawl corff cyhoeddus a gwirfoddol, arwain ymchwil i heddychiaeth, cyhoeddi gwaith dylanwadol, ac mae'n eiriolwr cyson dros heddwch, dwyieithrwydd a bywyd diwylliannol Cymru.

Mae Jaci Gruffudd, Abertawe, wedi treulio dros bum degawd yn gwasanaethu'r Gymraeg yn Abertawe trwy arwain, gwirfoddoli a chefnogi mudiadau allweddol megis Mudiad Ysgolion Meithrin, Tŷ Tawe, Menter Iaith Abertawe a Merched y Wawr. Bu'n allweddol yn sefydlu a chryfhau addysg Gymraeg yn lleol fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Cwm, ac yn hyrwyddo'r Gymraeg y tu hwnt i fudiadau iaith. Yn wreiddiol o Essex, fe ddysgodd ein hiaith ac ymroi'n llwyr i gymuned a diwylliant, gan sicrhau croeso cynhwysol i bawb.

Mae Eluned Hâf, Bro Morgannwg, wedi bod yn llysgennad angerddol dros ddiwylliant Cymru o oedran ifanc, gan hyrwyddo'r celfyddydau Cymraeg yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. O gychwyn bandiau ysgol i arwain mentrau byd-eang fel WOMEX 2013, mae wedi codi proffil artistiaid Cymraeg a chryfhau rhwydweithiau diwylliannol. Trwy wirfoddoli, gwaith proffesiynol ac ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys Japan ac UNESCO, mae'n pontio Cymru â'r byd, gan eirioli dros ieithoedd brodorol, y Gymraeg a chysylltiadau rhwng diwylliant, iaith a'r hinsawdd.

Mererid HopoodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mererid Hopwood yn annerch y gynulleidfa yn ystod Seremoni'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025

Mae Heulwen Jones, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, wedi cyfrannu'n fawr at drefniadaeth y Brifwyl dros flynyddoedd lawer, gan wasanaethu ar bwyllgorau amrywiol, fel aelod o staff, ymddiriedolwr ac aelod o Lys yr Eisteddfod. Bu'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod am flynyddoedd ac yn is-gadeirydd rhwng 2019 a 2025, yn ogystal ag yn aelod o'r Bwrdd Rheoli. Y tu hwnt i'w gwaith proffesiynol mewn addysg a sefydliadau cenedlaethol, mae'n weithgar gydag Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd a Merched y Wawr, ac yn ymgyrchydd dros y Gymraeg ac addysg Gymraeg.

Mae Rhodri Siôn Morgan, Caerdydd, wedi ymroi i'r Gymraeg drwy ei addysg, ei waith a'i fywyd cymunedol. Ers dros 30 mlynedd, mae wedi arwain a datblygu gwasanaethau is-deitlo Saesneg a Chymraeg S4C, gan ehangu hygyrchedd cynnwys Cymraeg i ddysgwyr, pobl ddi-Gymraeg a phobl fyddar. Mae hefyd wedi hyfforddi cenhedlaeth newydd o is-deitlwyr. Y tu hwnt i'w waith proffesiynol, cydsefydlodd Adran Ieuenctid Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, gan greu cannoedd o gyfleoedd i blant a theuluoedd ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn naturiol.

Mae Hywel Thomas, Penarth, yn academydd a wasanaethodd Gymru yn helaeth mewn ymchwil, arweinyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus. Yn dilyn cyfnod mewn diwydiant, fe'i penodwyd i staff Prifysgol Caerdydd, lle treuliodd ei yrfa academaidd, gan wasanaethu hefyd fel Dirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol ac ymchwil. Yng Nghaerdydd mae'n Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil sy'n astudio amgylchedd y byd ac yn Athro UNESCO mewn datblygu cynaliadwy. Bu hefyd yn Gomisiynydd Bevan ac yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus ac addysg yng Nghymru.

Mae Dylan Williams, Y Barri – neu Dylan Darts Cymru – wedi gwneud cyfraniad arloesol i normaleiddio'r Gymraeg ym myd dartiau drwy sefydlu Darts Cymru yn 2019, gan greu platfform cenedlaethol poblogaidd ar y cyfryngau a darlledu. Trwy ei ddawn naturiol fel sylwebydd, mae wedi cyflwyno'r Gymraeg fel cyfrwng cwbl naturiol i drafod y gamp, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd. Mae ei waith gwirfoddol a'i weledigaeth wedi rhoi proffil newydd i'r Gymraeg mewn maes poblogaidd a dylanwadol.

GWISG WERDD

Cyhoeddodd Malachy Owain Edwards, Llanfairpwll, ei gyfrol gyntaf, Y Delyn Aur (2023), gyda Gwasg y Bwthyn, gan gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2024. Mae'n ysgrifennu colofn wythnosol yn Golwg, a chyhoeddwyd ei ail gyfrol, Paradwys Goll, yn 2025. Mae'r ddwy gyfrol yn gofiannau personol sy'n archwilio hunaniaeth Cymro Du aml-hil ac amlddiwylliannol. Fel un o brif leisiau'r gymuned Gymraeg Ddu, mae'n dylanwadu'n sylweddol ar newid canfyddiadau o'r Cymry Cymraeg ac yn ysbrydoliaeth i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o bob cefndir.

Mae Elin Meek, Abertawe, yn awdur, cyfieithydd ac addasydd toreithiog sydd wedi gosod y Gymraeg wrth wraidd ei bywyd a'i gwaith. Gyda thros 200 o gyfrolau gwreiddiol ac addasiadau, mae wedi meithrin cariad at ddarllen Cymraeg ymhlith plant, dysgwyr a theuluoedd di-Gymraeg, gan ddefnyddio testunau cyfarwydd â blas Cymreig arnynt. Gwnaeth gyfraniad cenedlaethol sylweddol i safonau iaith drwy fframweithiau ac arholiadau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn lleol, mae'n wirfoddolwr ymroddedig ac yn mwynhau cynganeddu, gan gryfhau llenyddiaeth a bywyd diwylliannol Cymru.

Mae Rhiannon Pritchard, Caerdydd, yn gyfeilydd a hyfforddwr llais uchel ei pharch yng Nghymru, ac wedi bod yn gyfeilydd swyddogol i brif eisteddfodau Cymru am dros ddegawd. Mae wedi gweithio gyda chantorion byd-enwog, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac fel tiwtor piano preifat. Mae ganddi rôl allweddol gyda nifer o gorau, ac mae'n gweithio'n helaeth fel répétiteur ac animateur gyda chwmnïau a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan berfformio ledled y DU a thu hwnt.

Aleighcia ScottFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aleighcia Scott cyn Gwobrau BAFTA Cymru 2025

Mae Aleighcia Scott, Caerdydd, wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru fel cantores reggae Gymreig-Jamaicanaidd, cyflwynydd ac eiriolwr diwylliannol. Trwy ei halbwm Windrush Baby a'i senglau Cymraeg arloesol, gan gynnwys y gân reggae Gymraeg gyntaf i gyrraedd rhif 1 ar iTunes, mae wedi pontio rhwng Cymru a'r Caribî a normaleiddio'r Gymraeg mewn cerddoriaeth ryngwladol. Drwy ei gwaith darlledu, mentora a chefnogaeth i ddysgwyr – yn arbennig fel un o gyflwynwyr y gyfres deledu boblogaidd Y Llais – mae'n ysbrydoli cynulleidfaoedd ac yn hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Eleri Twynog, Caerdydd a Llanbedr Pont Steffan, wedi gwneud cyfraniad nodedig i ddiwylliant Cymru drwy ddod â hanes Cymru yn fyw i blant a phobl ifanc. Trwy sefydlu'r cwmni Mewn Cymeriad yn 2014, creodd sioeau addysgol o safon sy'n portreadu ffigurau allweddol yn ein hanes, gan lenwi bwlch amlwg yn adnoddau ysgolion. Mae ei gwaith creadigol, gan gynnwys Gŵyl Hanes Cymru, wedi gwneud hanes yn hygyrch ac yn ysbrydoledig, gyda galw cynyddol am ei gwaith y tu hwnt i faes addysg. Mae ei gweledigaeth ddiwylliannol yn wasanaeth parhaol i'r genedl a'r iaith Gymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.