Cyn-bencampwr dartiau'r byd yn cael triniaeth at ganser prin

Mark Webster mewn crys a siaced ddu a sbectol yn ystod ymddangosiad teleduFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Webster yn cystadlu mewn twrnameintiau BDO a PDC rhwng 2005 a 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-bencampwr dartiau'r byd o'r gogledd, Mark Webster yn cael triniaeth cemotherapi at fath prin o ganser y gwaed.

Fe gafodd wybod ym mis Ionawr ei fod â'r cyflwr lewcemia cell flewog (hairy cell leukaemia).

Dywedodd y cyn-bencampwr 42 oed o Lanelwy, sydd hefyd yn ddarlledwr, bod y gair lewcemia yn "swnio'n ddrwg" ond "mae prognosis da".

"Mae [triniaeth] 95% o achosion yn llwyddiannus," ychwanegodd yn ystod cyfweliad ar sianel YouTube Darts World.

"Fydda'i mewn rhyw fath o remission ryw ben ond dydy'r adferiad ar y funud ddim yn mynd mor gyflym â'r disgwyl."

Mark Webster yn dathlu dod yn bencampwr BDO y byd ym mis Ionawr 2008Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Webster yn dathlu ar ôl trechu Simon Whitlock yn rownd derfynol pencampwriaeth y BDO ym mis Ionawr 2008

Dydy pencampwr BDO 2008 heb fod yn rhan o ddarllediadau teledu ar Sky Sports ac ITV ers mis Chwefror ond mae'n gobeithio dychwelyd yn fuan.

Gan gyfeirio at gyngor ei dîm meddygol, dywedodd: "Dwi'n teimlo'n iawn yn fy hun, a 'swn i wrth fy modd yn mynd yn ôl i weithio ond dydyn nhw ddim yn licio fy amgylchedd gweithio.

"Ar y funud mae'n achos o wneud beth maen nhw'n dweud wrtha'i a bod yn amyneddgar.

"Mae'n rhwystredig achos dwi'n licio bod yn brysur, ond gobeithio fydd hyn ddim am llawer yn hirach."

'System imiwnedd ddim yn wych ar y funud'

Math prin o ganser cronig y gwaed yw lewcemia cell flewog sy'n effeithio yn bennaf ar oedolion canol oed, ond mae disgwyl i'r rhan fwyaf o gleifion fyw i oedran arferol gyda thriniaeth.

Dywedodd Webster ei fod yn "blino'n ofnadwy" cyn ei ddiagnosis.

"Dydy fy nghyfrifiadau gwaed gwyn yn dal ddim yn gwella, felly dydy fy system imiwnedd ddim yn wych ar y funud - dyna pam na alla'i fynd yn ôl i'r gwaith.

"Dydy o ddim yn sefyllfa worst case scenario - mae just yn rhwystredig braidd i mi.

"Dwi'n gallu gweithio efo pobl ond dim ond mewn amgylchedd call...

"Rhaid i mi ymddiried yn y bobl sy'n gofalu amdana'i. Maen nhw wedi bod yn wirioneddol dda.

"Dydw i ddim bob tro'n cael yr atebion dwi eisiau ond mae'n rhaid i mi ymddiried ynddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig