Prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyfarfod yng Nghaerdydd

Mae'r ddelwedd yn cynnwys tri llun. Ar y chwith mae Rhun ap Iorwerth. Mae Michelle O'Neill yn y canol ac mae John Swinney ar y dde. Mae'r tri yn siarad y tu ôl i bodiwm.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhun ap Iorwerth, Michelle O'Neill a John Swinney yn trafod ffyrdd o weithio'n "agosach"

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Llun i drafod ffyrdd o "weithio'n agosach", gan gynnwys ar faterion cyfansoddiadol.

Hwn fydd y cyfarfod wyneb-yn-wyneb cyntaf rhwng y tri chenedlaetholwr ers i arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ddod yn brif weinidog Cymru ym mis Mai.

Bydd Mr ap Iorwerth yn croesawu arweinydd yr SNP, John Swinney, a Michelle O'Neill o blaid Sinn Féin.

Bydd llywydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald, hefyd yn bresennol.

Bydd Mr ap Iorwerth yn cynnal trafodaethau pellach gyda Mr Swinney brynhawn Llun, gyda disgwyl i'r ddau arwyddo cytundeb ar "gydweithio yn y dyfodol".

'Tirlun gwleidyddol sy'n newid'

Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd brif weinidogion sydd ag uchelgais o dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Plaid Cymru y bydd y cyfarfod "yn gyfle i arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin ddod at ei gilydd i siarad am sut y gallwn ni weithio'n agosach ar y materion sy'n bwysig i bobl ar draws ein cenhedloedd".

"Yn dilyn etholiad hanesyddol y Senedd yng Nghymru a'r tirlun gwleidyddol sy'n newid ar draws yr ynysoedd hyn, mae achos cryf dros gydweithio gwleidyddol ymarferol ar feysydd yn cynnwys ynni, yr economi ac ein perthynas gydag Ewrop, yn ogystal ag ar y cwestiynau gwleidyddol a chyfansoddiadol ehangach sy'n wynebu ein cenhedloedd a'r hawl i hunan-lywodraeth," medd llefarydd.

Rhun ap Iorwerth yw prif weinidog cyntaf Cymru o blaid heblaw am y blaid Lafur.

Tra ei fod wedi dweud na fydd ei lywodraeth yn gwthio am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru yn ystod tymor y Senedd yma, mae wedi dweud ei fod eisiau arwain "sgwrs genedlaethol" ar y pwnc.

Mae ei lywodraeth yn bwriadu sefydlu comisiwn cenedlaethol i "osod sylfeini" cynlluniau ar gyfer annibyniaeth i Gymru.

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae'r cyfarfod yn "gam arall tuag at bartneriaeth newydd rhwng ein cenhedloedd"

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mewn datganiad fod y cyfarfod "yn foment bwysig yn ein gwleidyddiaeth".

"Roedd etholiad mis Mai yn drobwynt i Gymru. Mae gennym bellach Lywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru gyda mandad clir i wneud pethau'n wahanol.

"Mae gan ein pleidiau lawer i'w ennill o weithio gyda'i gilydd, fel partneriaid cyfartal, lle rydyn ni'n rhannu buddiannau cyffredin a lle gall cydweithredu wella bywydau'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli.

"Dyna'r ysbryd rydyn ni'n dod at ein gilydd.

"Edrychaf ymlaen at gryfhau'r berthynas rhwng ein pleidiau a chymryd cam arall tuag at bartneriaeth newydd rhwng ein cenhedloedd."

'Dyw'r status quo ddim yn gynaliadwy'

Cyn y cyfarfod, dywedodd Prif Weinidog Yr Alban, John Swinney fod "pob gwlad yn yr ynysoedd hyn yn wynebu cyfle cyfansoddiadol enfawr".

"Mae 'na deimlad cynyddol nad yw'r system yn San Steffan yn addas bellach, ac nad yw'n gweithio i bobl gyffredin.

"Am y tro cyntaf erioed mae gan Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon arweinwyr sydd o blaid annibyniaeth.

"Mae'n gwbl glir felly nad yw'r status quo yn gynaliadwy, a bod rhaid i San Steffan baratoi ar gyfer dyfodol wedi diwedd y Deyrnas Unedig.

"Mae'n amhosib anwybyddu'r ffaith bob momentwm gwirioneddol y tu ôl i'r syniad o newid cyfansoddiadol.

"Mae angen i Andy Burnham wynebu'r posibilrwydd mai fo fydd Prif Weinidog olaf y Deyrnas Unedig."

Dywedodd Is-lywydd Sinn Fein Michelle O'Neill fod "newid yn digwydd ar draws yr ynysoedd hyn ac mae'n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer newid cyfansoddiadol pan ddaw".

"Bydd cryfhau'r berthynas rhwng y tair plaid a dod o hyd i dir cyffredin yn ein helpu i dyfu a chreu gwell cyfleoedd i'r gweithwyr, teuluoedd a chymunedau rydyn ni'n eu cynrychioli."

Mae'r llun yn dangos Andy Burnham yn cerdded allan o Rif 10 Downing Street.Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Andy Burnham yn cyfarfod ag arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fis nesaf

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld pwerau ychwanegol, gan gynnwys dros blismona a chyfiawnder, yn cael eu datganoli.

Mae Andy Burnham wedi dweud ei fod yn "agored" i'r syniad.

Mae'r cyfarfodydd ddydd Llun yn debygol o gynnwys trafodaethau ar sut mae'r cenhedloedd datganoledig yn cael eu cyllido gan Lywodraeth y DU.

Mae gweinidogion Cymru wedi galw ers tro am ddiwygio'r fformiwla Barnett, gan ddadlau ei bod yn gadael Cymru ar ei cholled.

Ond mae'r Alban yn tueddu i elwa o'r fformiwla.

Mae Mr Burnham wedi awgrymu nad yw'n bwriadu newid y drefn.

Bydd prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfarfod ag Andy Burnham fis nesaf.

Andy Burnham 'yn credu'n gryf yn nyfodol yr undeb'

Dywedodd Llywodraeth y DU fod y prif weinidog yn benderfynol o sicrhau newid ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, a'i fod yn credu'n gryf yn nyfodol yr undeb.

"Mae'r DU ar ei orau pan mae pobl yn dod ynghyd, yn cyd-weld ac yn datrys problemau gyda'n gilydd - yn hytrach na chreu rhaniadau.

"Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i deuluoedd, gan gynnwys lleihau'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd a sicrhau diogelwch economaidd, yn hytrach na chanolbwyntio ar drafodaethau cyfansoddiadol."

Yn ôl Reform UK Cymru, mae'r cyfarfodydd ddydd Llun yn dangos, "i Blaid Cymru, bydd gwella ein hysgolion, y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus bob tro dod yn ail i'r prif amcan o chwalu Prydain".

Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: "Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr obsesiwn yma gydag annibyniaeth, dylai'r prif weinidog fod yn ffocysu ar ddelio gyda'r argyfwng sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd a'r cwymp mewn safonau yn ein hysgolion.

Yn ôl arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, mae "Plaid wedi rhoi dim byd i bobl ers yr etholiad".

"Maen nhw'n amlwg eisiau defnyddio grym i chwalu Prydain, gwanhau Cymru a threulio eu hamser ag obsesiwn am fwy o bwerau i'w gwleidyddion."

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol y DU: "Dylai Plaid Cymru fod yn canolbwyntio ar eu gwaith o ddydd i ddydd.

"Mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru rhai o'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU ac economi sydd wedi tanberfformio ers yn llawer rhy hir."

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Emma Little-Pengelly, dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, nad oes gan Michelle O'Neill unrhyw hawl i bortreadu ei hun fel cynrychiolydd y prif weinidog yn y cyfarfod yma.

"Rydyn ni wedi rhybuddio dro ar ôl tro y byddai gweriniaethwyr yn ceisio arfogi swydd y prif weinidog.

"Mae'r ffaith bod gweinidog Sinn Fein yn barod i ddefnyddio ei rôl i geisio cael gwared a Gogledd Iwerddon a dod a'n undeb i ben - mae'n rhaid i hyn fod yn ddeffroad i unoliaethwyr ar draws Gogledd Iwerddon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.