Merched Ray Gravell yn cofio eu tad a fyddai'n 75 oed

Gwenan, eu tad - y diweddar Ray Gravell, a Manon
- Cyhoeddwyd
Byddai un o sêr mwyaf rygbi Cymru, Ray Gravell wedi dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed ar 12 Medi.
Ym mis Gorffennaf eleni cafodd cyn-ganolwr y Llewod, un a enillodd 23 cap dros Gymru, ac arwr i glwb Y Scarlets ei gyflwyno i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Yn ôl ei ferch hynaf, Manon, a oedd yn 12 oed pan gollodd ei thad yn 2007, roedd derbyn y wobr ar ran ei thad gyda'i chwaer Gwenan, a'i mam Mari "yn brofiad anghredadwy".
Ychwanegodd ei chwaer Gwenan: "Mae'n deimlad lyfli bod pobl dal moyn siarad a dathlu Dad."
Mae Ray Gravell yn parhau'n arwr cenedlaethol i genedlaethau o Gymry, ond ar ddiwrnod beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd iddo'n 75 oed, cofio am eu tad mae ei ferched Manon a Gwenan.
'Roedd gymaint o gariad yn y tŷ'
Wrth adlewyrchu ar ddiwrnod anrhydeddu eu tad ym mis Gorffennaf, yng nghwmni ei ffrindiau a mawrion y byd rygbi gan gynnwys Delme Thomas, Roy Bergiers, Gareth Jenkins ac Anthony Buchanan, dywedodd Manon:
"Fel merch i rywun mae fe'n swreal. O'n i yn jocan gyda Mam ar y ffordd ac yn dweud 'Bydde Dad wedi 'neud jôc o'r ffaith fod e wedi cymryd mor hir, dyna fyddai ei acceptance speech e."
Ac mae ei chwaer fach, Gwenan, hefyd yn cofio ei natur ddireidus:
"Oedd e eitha' drygionnus. Dwi wedi gweld clips ohono fe'n cyfweld â phobl ac wastad yn craco jocs, fi'n debyg i hwnna."

Mari a Ray gyda'u merched Gwenan a Manon
Bron i 20 mlynedd ers colli Ray Gravell, mae hel atgofion am eu tad a siarad amdano'n dod â chysur i'r ddwy.
Dywedodd Gwenan: "Ro'n i'n naw pan gollon ni Dad felly dwi wedi dod i 'nabod Dad fel oedolyn drwy straeon pobl eraill amdano, rwy'n dwlu clywed straeon.
"Sdim llawer o atgofion gyda fi ond beth i fi yn cofio yw'r cariad oedd e'n ddangos tuag ata i a Manon.
"Dwi jest yn cofio'r teimlad cariadus hynny. Oedden ni'n teimlo mor sbeshal rownd e.
"Pan oedd y pedwar ohonon ni gartref - Mam, Dad, fi a Manon - roedden ni'n chwerthin drwy'r amser, roedd gymaint o gariad yn y tŷ ac o'n i mor lwcus i gael hwnna."

Manon, Gwenan a'u tad - y diweddar Ray Gravell
Mae Manon dair blynedd yn hŷn na Gwenan a bellach yn fam ei hun i Elis Raymond sy'n dair, a Nansi sy'n flwydd.
Un atgof sy'n codi gwên a hiraeth i Manon yw sgwrs gyda'i thad ar ei ben-blwydd olaf ym mis Medi 2007.
"Ar ei ben-blwydd dwetha brynon ni wallet iddo fe a wedes i 'O, mae'r wallet yn biodegradable', a wedodd e, 'Wel 'na ti de, allen ni fwyta'r wallet os eith popeth yn strach!' Roedd e mor glou," chwarddodd Manon.
"Mae'n anodd i wybod nawr beth yw atgof dy hunan a beth yw'r atgofion mae pobl wedi rhoi i ti, ond mae beth sydd gyda ni mor annwyl."
Cefnogaeth
Dros y blynyddoedd mae ffrindiau Ray Gravell yn y byd rygbi, y byd darlledu a thu hwnt wedi cadw cysylltiad agos gyda Manon, Gwenan a'u mam Mari – rhywbeth maen nhw'n ei drysori.
"Oedd Dad yn creu perthynas agos gyda phobl ac yn cael gymaint o effaith ar bobl, felly mae cadw cysylltiad gyda'i ffrindiau yn rili neis, a mae pawb wedi bod mor gefnogol," eglurodd Gwenan.

Gwenan, Mari a Manon
Er mai ar y cae rygbi y gwnaeth Ray Gravell ei farc yn y lle cyntaf, roedd hefyd yn gyflwynydd radio, yn sylwebydd rygbi, yn actor ac yn Geidwad y Cledd yng Ngorsedd Cymru.
Ac mae Gwenan yn cyfaddef nad oedd hi'n deall pa mor enwog oedd ei thad pan oedd hi'n blentyn.
Meddai: "Bydden ni yn Tesco neu rhywle am achau achos oedd pawb moyn siarad 'da Dad.
"Doedd hwna ddim yn taro fi fel rhywbeth anarferol, o'n i'n meddwl bod rhieni pawb fel'na!
"Roedd gan Dad y gallu i wneud i bawb deimlo'n sbeshal."

Manon, Ray Gravell a Mari ar faes yr Eisteddfod, ac yn hel freebies Y Scarlets
Bywyd heddiw
Erbyn hyn mae Manon yn gweithio i'r llywodraeth ym maes iechyd ac yn byw ym Mhen-bre gyda'i gŵr Steff a'r plant, tra bod Gwenan yn byw yn Abertawe ac yn gweithio i dîm marchnata Y Scarlets.
Mae eu mam, Mari, yn parhau i fyw yng nghartref y teulu ym Mynydd-y-Garreg.
Mae un cwestiwn yn codi ei ben yn aml pan fydd Gwenan yn galw draw am baned at ei mam ym Mynydd-y-Garreg.
"Mae Mam wastad yn dweud 'Beth fyddai dy Dad yn meddwl bo' ti'n gweithio i'r Scarlets'," chwarddodd Gwenan.
"Dwi'n meddwl y bydde fe'n falch ond dwi hefyd yn meddwl y bydde fe'n poeni lot am y sefyllfa rygbi yma yng Nghymru ar hyn o bryd, a bydde fe bendant yn brwydro i gadw'r Scarlets."

Manon, Gwenan a'u mam, Mari
Yr hyn sy'n taro Manon yn aml yw y byddai ei thad yn dad-cu erbyn hyn i'w phlant Elis a Nansi.
"Mae hynny'n wyllt i feddwl amdano," meddai.
Ac mae angerdd Ray Gravell at y bêl hirgron yn parhau'n fyw trwy ymweliadau Manon, ei gŵr a'r plant i gefnogi'r cochion ym Mharc y Scarlets.
"Ni'n mynd ar gyfer y geme ganol dydd pan ni'n gallu, ac mae Elis wastad yn rhoi high-five i'r cerflun o Dad ar y ffordd mewn.
"Mae Elis yn gwybod yn iawn pwy yw Dad-cu ac wedi dechre chwarae rygbi.
"Roedd e'n paratoi i chwarae rygbi un dydd a wedodd e wrth Steff; 'Fi'n mynd i chwarae rygbi fel Dad-cu'.
"Mae e hefyd yn dwlu ar Dafydd Iwan sy'n rhyfedd achos 'sneb wedi chwarae Dafydd Iwan iddo fe! Mae e'n dwlu ar Yma o Hyd fel oedd Dad."

Mae cerflun o Ray Gravell ger mynediad Parc y Scarlets ac mae Elis wrth ei fodd yn rhoi high-five i Dad-cu
Dywed Manon ei bod hi, Gwenan a'u mam, Mari, "wedi gorfod cynnal ei gilydd" yn eu galar dros y blynyddoedd.
Ychwanegodd: "Mae Mam yn berson cryf, wnaeth hi gario ni drwy popeth. Dwi'n credu oedd Dad bach mwy soft 'na mam, a bydde Dad wedi delio gyda pethe yn wahanol i Mam wrth gario 'mlaen. Ni wedi gorfod cario 'mlaen."

Manon (dde) a'i mam, Mari (chwith)
Galar
Fel rhiant ei hun bellach mae Manon yn dweud bod ei pherthynas hi â galar yn wahanol erbyn hyn.
"Mae cofio 'nôl at golli Dad fel mam fy hunan yn brofiad gwahanol iawn nawr, jest achos fi'n gwybod y bydde Dad yn gytud yn gadael ni, achos bydde ni'n gytud yn gadael y plant. Mae wedi rhoi persbectif bach yn wahanol i fi."

Manon, ei gŵr Steff a'u plant Nansi ac Elis
Mae Gwenan hefyd yn adlewyrchu ar ei siwrne hithau â galar.
"Gymeres i gymaint o amser i allu siarad am Dad, blynydde.
"Nath e rili effeithio fi yn y pum mlynedd gynta'. O'n i yn oedran lletchwith - yn ddigon hen i wybod beth oedd wedi digwydd ond yn rhy ifanc i allu deall felly fi'n falch bo' fi wedi dod i bwynt lle fi'n gallu siarad am Dad a ddim yn teimlo gymaint o dristwch," eglurodd.

Mae Gwenan yn fodryb balch i Elis a Nansi erbyn hyn
'Cofio a dathlu Dad'
Eleni, fel pob blwyddyn arall ers colli Ray Gravell, bydd Manon a Gwenan yn meddwl am eu tad o amgylch dyddiad ei ben-blwydd.
Er ei fod yn ddyddiad poenus, mae'n bwysig hefyd eu bod yn ei gofio â gwên, fel eglurodd Gwenan:
"Fi wastad yn mynd gartref at Mam ac aros dros nos, a byddwn ni'n siarad am Dad. Mae e'n neis i siarad a rhannu atgofion heb deimlo'n drist achos pen-blwydd yw e.
"Flwyddyn nesa bydd hi'n 20 mlynedd ers ei golli, licen i ddechre rhywbeth fydd yn troi'r negatif i bositif achos person positif oedd Dad."

Manon, Gwenan a Mari
Ac i Manon, mae magu ei phlant gan sgwrsio'n naturiol am ei thad yn gysur ac yn cadw ei holl atgofion yn agos at ei chalon.
"Mae pawb arall dal i siarad am Dad, felly 'sdim lot o ddewis gyda fi ond siarad am Dad gyda'r plant.
"Pan mae Elis yn gwrando ar Dafydd Iwan, fi'n dweud wrtho fe, 'Ti'n gwybod bod Dafydd Iwan yn best friends gyda Tad-cu?!," chwarddodd.
"Mae Dad dal yn rhan o fywyd bob dydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
