Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn anrhydeddu Ray Gravell

Bu farw Ray Gravell yn 56 oed yn 2007
- Cyhoeddwyd
Bydd un o sêr mwyaf rygbi Cymru, Ray Gravell yn cael ei gyflwyno i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru dydd Gwener.
Bydd cyn-ganolwr y Llewod - fu farw yn 56 oed yn 2007 - yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn Saundersfoot.
Bydd ei wraig Mari a'i ferched Manon a Gwenan yn derbyn y wobr ar ei ran, a bydd cyd-chwaraewyr fel Delme Thomas, Roy Bergiers, Gareth Jenkins ac Anthony Buchanan yn westeion.
Mae'r cyn-bêl-droedwyr Ian Walsh a Simon Davies hefyd yn cael eu hanrhydeddu, ynghyd â phennaeth Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi, Rachel Davies, a Janine Williams a rwyfodd yr Iwerydd.

Ar ôl colli taith Llewod i Seland Newydd yn 1977 oherwydd anaf, chwaraeodd Gravell yn y pedair gêm yn erbyn De Affrica yn 1980
Enillodd Gravell 23 cap i Gymru a chwaraeodd ym mhedwar prawf y Llewod ar y daith i Dde Affrica yn 1980.
Fe wnaeth y canolwr ei enw yn chwarae i Lanelli, ac oedd yn aelod o'r tîm wnaeth drechu Seland Newydd yn 1972.
Tair blynedd yn ddiweddarach chwaraeodd dros Gymru yn y tro cyntaf, ac roedd yn aelod pwysig o'r timau yn y 1970au ac 80au a enillodd ddwy Gamp Lawn, pedair pencampwriaeth Pum Gwlad, a pedair Coron Driphlyg.

Daeth Ray Gravell yn wyneb cyfarwydd ar y teledu wedi i'w yrfa rygbi ddod i ben
Chwaraeodd Gravell ei gêm ryngwladol olaf yn 1982, ond fe chwaraeodd i Lanelli am dri thymor arall, cyn dod yn ddarlledwr ac actor.
Fe wnaeth salwch olygu y bu'n rhaid iddo golli ei goes yn 2007, a bu farw o drawiad ar y galon yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Cafodd ei angladd ei chynnal ym Mharc y Strade.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.