Ateb y Galw: Ant Evans

Ant EvansFfynhonnell y llun, Ant Evans
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yr ieithydd a'r awdur Ant Evans, sy'n wreiddiol o Harlech ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.

Mae Ant wedi rhyddhau ei hunangofiant yn ddiweddar dan y teitl 'Llyfr Agored'.

Mae'n byw gyda'r cyflwr niwrolegol hydroseffalws, ac mi gafodd lawdriniaeth ar yr ymennydd yn bum wythnos oed.

Er gwaetha'r heriau, aeth ymlaen drwy fyd addysg a choleg, ond bu'n frwydr.

Dyma ddod i adnabod Ant ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mam yn gwneud ymarferion ffisio ar fy nghoesau.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Harlech. Mae fy mherthnasau yn parhau i fyw yn y dref.

HarlechFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Harlech yw hoff le Ant yng Nghymru

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhenblwydd yn 21 yng nghwmni fy nheulu.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gonest. Annibynnol. Sarcastig.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mam, pryd bynnag oedd hi'n dweud y drefn wrth rhywun. Oedd ganddi dipyn o ddawn yn hynny o beth!

Ant gyda'i famFfynhonnell y llun, Ant Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ant gyda'i fam

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cerdded mewn i doiledau'r merched yn yr ysgol gynradd. A finnau'n cau gwisgo fy sbectol ar y pryd, doeddwn i heb sylweddoli tan y funud olaf!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn ystod taith awyren llynedd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Buasai nifer yn awgrymu bod fy nhuedd i fod yn sarcastig yn arfer drwg, decini.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Llyfr ryseitiau roedd Mam wedi sgwennu ar fy nghyfer. Wrth fy modd yn darllen llawysgrifen Mam.

Llyfr ryseitiauFfynhonnell y llun, Ant Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dyma lun o llyfr ryseitiau mam Ant

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

David Attenborough. Wedi ei edmygu'n fawr erioed.

David AttenbroughFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fase Ant yn hoffi cael diod gyda David Attenborough

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i ofn hedfan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ymweliad olaf i fedd Mam.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun ohonof i a Mam y diwrnod nes i raddio o'r coleg. Gan nad oeddem yn or-hoff o sefyll o flaen camera, roedd hyn yn ddiwrnod o bwys i ni'n dau, ac felly, roedd angen tynnu llun.

Ant yn graddioFfynhonnell y llun, Ant Evans
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod graddio Ant

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Unrhyw un efo trwydded yrru. A finnau efo ffon wen, buasai'n braf profi sut beth ydi gyrru car am ddiwrnod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: