O Ben Llŷn i Broadway: 'Parti Priodas' yn cydio yn America

Gruffudd Owen yn Efrog NewyddFfynhonnell y llun, Gruffudd Owen
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r ddrama Parti Priodas gan Gruffudd Owen wedi mwynhau llwyddiant yng Nghymru eisoes ond wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd dros yr wythnos ddiwethaf wrth i'r sioe chael ei pherfformio yn Efrog Newydd a Massachusetts fel rhan o Ŵyl Cymru Gogledd America.

Bu'r dramodydd Gruffudd Owen yn sôn wrth Cymru Fyw am y croeso gwresog gafodd y cynhyrchiad yn yr Unol Daleithiau ac am yr her o addasu'r comedi i gynulleidfa go wahanol.

Roedd y sioe yn Efrog Newydd yn digwydd mewn theatr o'r enw Playwrights Horizons sydd yn arbenigo mewn datblygu ysgrifennu newdd, fel mae Gruffudd yn dweud: "Oedd o'n theatr hyfryd. A dwi 'di gweld Parti Priodas gymaint o weithiau dros y blynyddoedd mewn sawl lleoliad, ond bosib mai hwn oedd un o'n hoff berfformiadau i. Roedd yr actorion yn wych.

"Mi o'n i'n poeni yn deud fod Parti Priodas yn cael ei pherfformio 'off Broadway' bod hwnna'n golygu oedd o tua 10 milltir tu allan i Efrog Newydd mewn rhyw gwt yn rhywle ond na, ddim o gwbl. Roedd hi'n lythrennol dafliad carreg oddi ar Times Square.

"A gaethon ni gynulleidfa barchus iawn chwarae teg. Oedd 'na bobl 'di dod oddi ar y stryd, jyst wedi dod i mewn a deud, "Duw, be sy' gynnoch chi mlaen heno?"

Theatr Playwrights HorizonsFfynhonnell y llun, Gruffudd Owen

"Roedd nifer iach iawn wedi dod i weld y sioe gan gynnwys lot o Gymry, pobl oedd 'di dysgu Cymraeg sy' ddim yn Gymry ond yn byw yn America ac wedi dwad ac wedi mwynhau."

Mae Gŵyl Cymru Gogledd America yn digwydd bob blwyddyn ac yn symud o gwmpas yr Unol Daleithiau gan ddigwydd yn Springfield, Massachusetts eleni gyda Parti Priodas yn agor yr ŵyl.

Llwyfanwyd y comedi yn wreiddiol yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 a Marc Henry Davies a Mared Llywelyn sy'n chwarae pob cymeriad yn y stori sy'n dilyn hynt a helynt gwesteion mewn priodas ym Mhen Llŷn.

Gruffudd o flaen poster Parti PriodasFfynhonnell y llun, Gruffudd Owen

Dyma'r ddrama gyntaf i'w pherfformio yn Gymraeg yn yr ŵyl yn yr Unol Daleithiau ac mae hefyd yn garreg filltir i Theatr Cymru i fynd â gwaith theatr Cymraeg i galon Efrog Newydd. Yn ogystal ag isdeitlau, roedd y ddrama wedi ei chyfieuthu i'r Saesneg ar ap Sibrwd Theatr Cymru.

Dywedodd Gruffudd: "Roedd hi'n reit deimladwy achos mae'n bosib iawn mai hwn fydd y tro ola y bydd y sioe yma'n cael ei pherfformio efo'r cast a'r criw gwreiddiol.

"Yn wreiddiol dim ond pedwar perfformiad oedden ni fod i wneud nôl yn 2023 ar faes yr Eisteddfod. Roedden ni'n lwcus iawn bod yr ymateb wedi bod yn dda, bod hi 'di mynd ar daith wedyn y flwyddyn ganlynol. Ond o'n i'n cymryd mai dyma'i diwedd hi ond wedyn gaethon ni'r daith ryngwladol yma.

"Mae'n teimlo'n rhyfedd meddwl, "O, bosib iawn mai hwnna 'di'r tro ola byddai'n gwylio Mark a Mared yn actio yn Parti Priodas."

Cast a chriw Parti PriodasFfynhonnell y llun, Gruffudd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gast a chriw Parti Priodas yn ogystal â thîm Theatr Cymru

Blwyddyn nesaf mi fydd dilyniant i'r sioe, sef Y Te Angladd, sy'n "tyneru rhywfaint ar y tristwch", meddai Gruffudd.

Gyda tua 200 o bobl yn gwylio'r sioe yn Massachusetts ac yn Efrog Newydd, mae Gruffudd yn falch i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol – ond wrth gwrs mae pob cynulleidfa yn wahanol: "Mi benderfynwyd yn eitha' hwyr yn y dydd i dynnu rhywfaint o'r rhegfeydd allan o'r isdeitlau.

"Mi oedd 'na ychydig o boeni fod hyn naill ai ddim cweit yn addas i Gymry cymanfa ganu gogledd America - efallai bod nhw ychydig bach mwy ceidwadol.

"Ond mi oedd ymateb da iawn. Mi nesh i gyfarfod llwyth o bobl ddifyr, rhai pobl oedd wedi magu yng Nghymru ac wedi symud i America'n ddiweddarach, rhai pobl oedd eu teidiau neu neiniau nhw wedi dod o Gymru.

"Roedd nifer ohonyn nhw yn dysgu Cymraeg ar-lein, nifer ohonyn nhw yn gwylio rhaglenni teledu S4C ar-lein. Felly oedd hynna'n hyfryd iawn.

"Ac wedyn ar ôl y sioe, mi oedd yna gig Bryn Fôn, oedd yn wych cael gwrando ar y clasuron yng nghanol America."

Gruffudd OwenFfynhonnell y llun, Gruffudd Owen

Yn ogystal â'r iaith, mae'n bosib fod hiwmor Pen Llŷn yn ddiarth i gynulleidfa yn America.

Meddai Gruffudd: "Mae'n rhaid fi gyfaddef hyd yn oed pan oedd y ddrama'n cael ei pherfformio ym Mhen Llŷn, o'n i'n poeni ydy hon yn rhy lleol? Ond bob tro, mae'r cynulleidfa wedi cofleidio'r darn. Ac yn y pen draw, dw i ddim yn meddwl bod 'na ddim byd yn bod am fod yn lleol, am fod yn Gymreig."

Mae'r cast yn dod o Ben Llŷn ac mae Gruffudd yn dweud fod hyn wedi bod yn allweddol i lwyddiant y sioe: "Oedd hynna'n neud gwahaniaeth mawr. Oedd y cast a finna fel awdur, oedda ni 'di bod yn y priodasau 'ma drwy'n ugeiniau a dechrau'n tridegau. Felly 'da ni'n adnabod y byd yma."

Gruffudd Owen yn Central ParkFfynhonnell y llun, Gruffudd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Gruffudd Owen yn Central Park

Tra'i fod yn America mae Gruffudd wedi bachu ar y cyfle i ymweld â'r World Trade Center, Central Park ac ambell i le arwyddocaol i'r Cymry gan gynnwys y White Horse Tavern a'r Chelsea Hotel: "Mi fu Dylan Thomas yn aros yn y Chelsea Hotel cyn iddo farw ac mae'n debyg mi ynganodd ei eiriau olaf yn y White Horse Tavern: "I just had 18 straight whiskeys, I think that's a record."

"Ges i ddim 18 whiskey ond ges i ddau beint neis iawn."

Brecwast arbennig yn SpringfieldFfynhonnell y llun, Gruffudd Owen
Disgrifiad o’r llun,

"Y peth gorau am Springfield o bosib oedd y brecwastiau. Tydy brecwastiau America ddim yn gall... Dw i erioed 'di gweld y ffasiwn beth..."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig