Disgwyl rhyddhau dyn gafodd ei garcharu am 21 mlynedd am ddwyn ffôn

Leroy DouglasFfynhonnell y llun, Leroy Douglas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Leroy Douglas ei garcharu 'nôl yn 2005 wedi iddo ddwyn ffôn symudol

  • Cyhoeddwyd

"Mae e' fel bod rhywun wedi lladd eich mab - mae o yma, ond dyw e' ddim."

Roedd Leroy Douglas yn 24 oed yn 2005 pan gafodd ei garcharu am leiafswm o ddwy flynedd a hanner am ddwyn ffôn symudol.

20 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n parhau dan glo.

Roedd Leroy, oedd yn gaeth i gyffuriau, wedi cael ei gyhuddo sawl tro am droseddau amrywiol gan gynnwys dwyn o siop cyn iddo dderbyn dedfryd amhenodol er mwyn amddiffyn y cyhoedd (IPP).

Dywedodd ei deulu fod y ddedfryd yn "sioc enfawr" gan nad oedd terfyn pendant.

Ac yntau bellach yn 45, mae disgwyl i Leroy gael ei ryddhau ym mis Hydref - penderfyniad ddaeth wythnosau yn unig cyn i Brif Weinidog y DU, Andy Burnham, gyhoeddi y byddai'n cael gwared â dedfrydau IPP cyn diwedd y tymor seneddol hwn.

Yn ôl Anthony Douglas, mae blynyddoedd o aros wedi bod yn "artaith" i'w fab a'i deulu.

Esboniodd fod Leroy "wedi colli merch, cyfnither, a'i nain a'i daid" yn ystod ei gyfnod dan glo.

Natalie (dde) a Leroy (chwith)Ffynhonnell y llun, Natalie Douglas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu yn credu bod amodau rhyddhau Leroy (chwith) yn rhy llym ac yn cyfyngu ar ei ryddid

Cafodd dedfrydau IPP eu cyflwyno yn 2005 er mwyn gallu cadw troseddwyr difrifol, oedd yn cael eu hystyried yn risg i'r cyhoedd, yn y carchar. Roedd lleiafswm i'r ddedfryd yn cael ei osod, ond dim uchafswm.

Byddai'n rhaid i garcharorion gwblhau'r lleiafswm cyn i fwrdd parôl ystyried os oedd hi'n ddiogel i'w rhyddhau. Ond doedd hyn ddim yn digwydd yn awtomatig.

Maen nhw hefyd yn destun amodau trwydded fyddai'n rhaid eu dilyn, neu wynebu cael eu hadalw i'r carchar ar ôl cael eu rhyddhau.

Daeth y dedfrydau i ben yn 2012 yn sgil beirniadaeth, ond doedd y newid ddim yn effeithio achosion hanesyddol.

Ym mis Gorffennaf roedd tua 2,400 o bobl yn dal yn y carchar gyda dedfrydau IPP, yn ôl ffigyrau'r Cenhedloedd Unedig.

Ond yn ôl Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2,271 o garcharorion IPP oedd dan glo ar 30 Mehefin.

Mae'r Cenhedloedd Unedig, sydd am weld dedfrydau IPP yn cael eu gwaredu, yn dweud eu bod yn "mynd yn groes i hawliau dynol".

Mae Anthony wedi cymharu achos Leroy gydag achos troseddwyr fel Jeffrey Gafoor, a lofruddiodd Lynette White yn 1992.

Cafodd ei ryddhau o'r carchar yn 2025 ar ôl treulio 21 mlynedd dan glo.

"Fe wnaeth Leroy ddwyn ffôn, sut allai hynny fod yn iawn?" gofynnodd Anthony.

'Ei dynnu o'r badell ffrio a'i daflu i'r tân'

Roedd y cyfreithiwr hawliau dynol, Karen Todner yn allweddol wrth geisio sicrhau bod Leroy yn cael ei ryddhau - gydag ef yn un o bedwar o garcharorion iddi gyflwyno cais ar eu rhan.

Bu'n rhaid i Leroy fynd o flaen llys er mwyn dyfarnu cyfreithlondeb ei ddedfryd, ac ar ôl edrych ar yr achos daethpwyd i'r casgliad ei fod yn anghyfreithlon.

Er hynny, mae Ms Todner yn dweud bod amodau rhyddhau Leroy "mor llym fel eu bod yn cyfyngu ar ei ryddid".

Mae teulu Leroy hefyd yn anhapus gyda'r ffaith y bydd rhaid iddo wisgo tag ar ei goes am chwe mis, a hynny mewn lleoliad sydd dair awr i ffwrdd o'i deulu yng Nghaerdydd.

Mae Anthony yn credu bod yr amodau bron fel petai eu bod eisiau gweld Leroy yn methu: "Mae fel petai ei fod wedi ei dynnu o'r badell ffrio a'i daflu i'r tân," meddai.

Lansiodd chwaer Leroy, Natalie Dougles ddeiseb yn galw am ei gartrefu yn agosach i'w deulu, gan alw ar y system gyfiawnder i wneud yn iawn am "fynyddoedd o gamgymeriadau".

Dywedodd fod y teulu eisiau rhoi croeso cynnes iddo, drwy gynnig "y gefnogaeth nad oedd ar gael iddo pan roedd ar goll mewn system ddidrugaredd".

Natalie DouglasFfynhonnell y llun, Natalie Douglas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie [dde] yn dweud bod hi a'i mam yn ymweld â Leroy bob mis, ac yn siarad gyda fo ar y ffôn bob dydd

"Mae gen i lwmp yn fy ngwddf wrth drafod y peth," meddai Anthony.

"Dwi wedi fy syfrdanu, maen nhw wedi gwrthod ei ryddhau am 20 mlynedd ac wedyn maen nhw'n dal i osod amodau fel hyn."

Fe wnaeth Leroy bum cais am barôl yn ystod ei gyfnod yn y carchar, ond cafodd ei wrthod bob tro oherwydd "cyrsiau anghyflawn", yn ôl ei deulu.

Er ei fod wedi bod yn gaeth i gyffuriau yn y gorffennol, dywedodd ei deulu ei fod wedi cael profion negyddol am gyffuriau tra yn y carchar ac nad oedd ganddo hanes o fod yn dreisgar.

"Dwi eisiau gwybod pam ei fod yn cael ei ryddhau mor bell o'i gartref, a pham nad yw e'n cael dod adref at ei deulu.

"Maen nhw'n ei roi gyda phobl o'r union amgylchedd y mae o'n ceisio ei osgoi."

'Y gefnogaeth ar gyfer troseddwyr wedi gwella'

Dywedodd Anthony ei fod wedi gofyn i'r carchar egluro amodau rhyddhau ei fab, ond ni chafodd ymateb ac mae'n teimlo bod Leroy yn cael ei "arteithio".

"Fe aeth i mewn i'r carchar fel plentyn, a bydd yn cael ei ryddhau yn ddyn.

"Mi fydd o angen cwnsela, mae o'n dioddef poen meddyliol ac mae'n cael ei anfon yn bell o'i deulu."

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'n iawn bod dedfrydau IPP wedi cael eu gwaredu, ac fel y mae'r prif weinidog a'r canghellor wedi'i gyhoeddi, byddwn yn datgelu ein cynlluniau i ddod ag anghyfiawnder hanesyddol y dedfrydau yma i ben.

"Bydd angen cydweithio trawsbleidiol er mwyn llunio ffordd ymlaen gan sicrhau fod diogelwch y cyhoedd a dioddefwyr wrth wraith y cyfan.

"Fel mae'r adroddiad blynyddol ar ddedfrydau IPP yn dangos, mae'r gefnogaeth ar gyfer y troseddwyr hyn wedi gwella, gyda mwy o fynediad at wasanaethau adfer a chefnogaeth iechyd meddwl."

Ychwanegodd llefarydd fod nifer y bobl yn y gymuned gyda dedfryd IPP wedi lleihau o 3,018 yn Rhagfyr 2023 i 891 ym mis Rhagfyr 2025.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.