'Rhan o hunaniaeth y plant': pwysigrwydd dysgu am Aberfan

Gareth Jones yn siarad o flaen dosbarth o blant
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Jones, a oroesodd trychineb Aberfan, yn annerch plant Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn y pentref

GanHuw Thomas
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dysgu am drychineb Aberfan yn "hanfodol" i hunaniaeth plant y pentref, yn ôl pennaeth yr ysgol gynradd Gymraeg leol.

Yn Ysgol Rhyd y Grug mae hanes y digwyddiad yn rhan greiddiol o'r cwricwlwm ac o fywyd bob dydd.

Fe aeth un o oroeswyr y trychineb, Gareth Jones, i siarad â'r plant ynglŷn â'i brofiad, ac fe ddywedodd y pennaeth, Alwen Bowen, ei fod yn brofiad fydd yn aros gyda'r disgyblion am byth.

"Mae e'n arwyddocaol iawn i gael goroeswr yn yr ystafell ddosbarth," meddai.

'Profiad o'r galon'

"I glywed profiad real, profiad o'r galon, a'r effaith mae wedi ei adael nid yn unig ar Gareth a'r goroeswyr i gyd, ond ar y gymuned hon yn Aberfan."

Yn hwyrach eleni fe fydd y gymuned yn nodi 60 blynedd ers i wastraff glo llithro i lawr ochr y bryn a dinistrio Ysgol Gynradd Pantglas. Fe laddwyd 116 o blant a 28 o oedolion.

AberfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe laddwyd 116 o blant a 28 o oedolion yn Aberfan ar 21 Hydref 1966

Fe ddigwyddodd y trychineb yn agos iawn at safle presennol Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, sydd mewn adeilad a oedd yn wreiddiol wedi'i godi'n sydyn i greu ysgol Saesneg newydd i'r gymuned.

"Dy'n ni ddim jyst yn siarad am hanes," eglurodd Mrs Bowen.

"Rydyn ni'n sôn am rywbeth sydd wedi digwydd i gyn-deidiau y plant yma, rhywbeth sydd wedi gadael creithiau ar y gymuned i gyd.

"Mae'n rhan o hanes ein teuluoedd ni, ac yn rhan o hunaniaeth y plant hefyd."

Bob mis Medi, mae'r ysgol yn dychwelyd at stori Aberfan fel rhan o thema ehangach am deulu. Mae'r plant yn ymweld â'r fynwent goffa, yn creu gwaith celf ac ysgrifenedig, ac yn dysgu am effaith y trychineb ar y gymuned.

Alwen Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Alwen Bowen, bod dysgu am drychineb Aberfan yn digwydd "gyda gofal, gonestrwydd a pharch"

Ond mae'r dull o ddysgu am ddigwyddiad lleol yn un sensitif, meddai'r pennaeth.

"Rydyn ni'n sicrhau ein bod ni yn gwneud hwnna gyda gofal, gonestrwydd a pharch," meddai.

Yn ystod ei wers yn trafod ei brofiad, soniodd Gareth Jones am y sŵn iddo glywed wrth eistedd wrth ei ddesg, a'r ymdrech i ddianc y dosbarth ar ôl i'r domen o lo fwrw'r ysgol.

Dywedodd hefyd i'w gylch o ffrindiau leihau yn sydyn, gyda'i griw o ddeg yn troi'n grŵp o 3 neu 4 o blant ar ôl colli nifer ohonynt.

Plant
Disgrifiad o’r llun,

Bob blwyddyn mae plant yr ysgol yn canolbwyntio ar gofio'r drychineb, ac yn gwneud gwaith celf ac ysgrifenedig i geisio deall yr hyn ddigwyddodd yn y pentref

Roedd y profiad o glywed gan oroeswr wedi creu argraff fawr arnyn nhw meddai rhai o'r disgyblion.

Dywedodd Indie-May fod ymweliad Gareth Jones yn "rili neis, ac emosiynol i glywed gan rywun oedd yna", tra dywedodd Connie ei bod yn "drist, ond yn neis i glywed gan rywun oedd yna pan wnaeth e digwydd".

Fe wnaeth Ieuan bwysleisio bod clywed gan Gareth Jones "rili yn bwysig, oherwydd mae pawb angen gwybod y stori", ac fe ychwanegodd Rowan fod rhaid cofio'r digwyddiad rhag iddo gael ei anghofio: "Os ni ddim yn siarad amdano fe, falle mewn 50 mlynedd bydd e'n digwydd eto".

Ar ôl ei ymweliad, dywedodd Gareth Jones wrth BBC Cymru fod sesiynau fel hyn yn "therapi" iddo.

"Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae pobl wedi gofyn imi a ydw i erioed wedi meddwl am fynd i therapi.

"Rydw i wastad yn ateb nad oes angen therapi arnaf, am reswm syml: dyma fy therapi i.

"Rydw i'n mwynhau siarad amdano," meddai.

Rheswm pwysig am wneud hynny yw i gofio'i gyfoedion wnaeth farw ar y diwrnod hwnnw.

Gareth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Jones fod y cyfle i siarad â dosbarth o blant am ei brofiad yn Aberfan yn "therapi" iddo

"Rydw i eisiau cadw trychineb Aberfan yn fyw ac yng nghof pobl, er mwyn cofio'r plant na ddaeth adref y diwrnod hwnnw."

Er bod y trychineb wedi digwydd bron 60 mlynedd yn ôl, mae dal yn bresennol ym mywyd y plant.

Wrth wneud gwaith celf am gymuned Aberfan, dywedodd y pennaeth fod y disgyblion yn aml yn dewis cynnwys delweddau o'r beddau bach sydd yn y fynwent.

"Mae'n rhywbeth sydd yn rhan o'u cof nhw," meddai Mrs Bowen.

Ond mae hi'n pwysleisio hefyd fod y plant yn deall mai hanes yw hyn, nid rhywbeth i'w ofni heddiw.

Mae Alwen Bowen yn credu ei bod yn bwysig bod ysgolion y tu hwnt i Aberfan yn dysgu am y trychineb.

"Mae'n holl bwysig," meddai. "Mae'n rhan greiddiol o'n hanes ni fel Cymry."

O dan gwricwlwm newydd Cymru, eglurodd, mae'r ysgol yn gallu canolbwyntio ar hanes lleol a "dechrau wrth ein traed… ac wedyn lledaenu'r neges," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig