Dyn 18 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yng Nghaerdydd

A48
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod y dyn 18 oed wedi marw wedi'r gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed o Drelái, Caerdydd wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A48 yn y brifddinas ar 6 Mehefin.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal y Tymbl, Sain Nicolas ar gyrion Caerdydd tua 20:05 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw'n cael cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.

Mae dau arall – menyw 59 oed a dyn 64 oed o Dresimwn, Bro Morgannwg – wedi cael eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer anafiadau wedi'r gwrthdrawiad.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig