'Gwrth-Semitiaeth ddi-baid': Myfyrwyr Iddewig yn rhannu profiadau o fywyd prifysgol

Yn ôl Lloyd, mae'n betrusgar rhan fwyaf o'r amser i ddweud wrth bobl yn y brifysgol ei fod yn Iddew
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai
Mae myfyrwyr Iddewig yn dweud eu bod yn wynebu camdriniaeth barhaus ar gampysau prifysgol yng Nghymru, gan rybuddio o ddiwylliant cynyddol o wrth-Semitiaeth.
Dywedodd un myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor ei fod o'n betrusgar rhan fwyaf o'r amser i ddweud wrth bobl ei fod yn Iddew.
Galwodd adroddiad gan Undeb y Myfyrwyr Iddewig ym mis Mawrth 2026 am gyflwyno safonau newydd, er mwyn sicrhau bod prifysgolion yn ymchwilio i droseddau casineb ac yn cosbi'r rheiny sy'n gyfrifol.
Dywedodd Universities UK, sy'n cynrychioli mwy na 140 o sefydliadau addysg uwch, fod gwrth-Semitiaeth yn her gynyddol.
Ychwanegon nhw fod prifysgolion yn gweithio i wella'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr Iddewig.
Iddewiaeth, Cymreictod a fi
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024
Bywyd fel 'yr unig Iddew yn y pentref'
- Cyhoeddwyd24 Medi 2023
'Mae gan bobl ofn ym mhobman' - pryderon diogelwch ymhlith Iddewon
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
Mae bod yn Iddew wedi bod yn rhan ganolog o hunaniaeth Oliver, sy'n 21 oed, erioed.
Disgrifiodd ei wythnos gyntaf yn y brifysgol yn 2023 fel un "frawychus", gan ei bod yn cyd-daro ag ymosodiadau 7 Hydref, pan ymosododd Hamas ar Israel gan ladd tua 1,200 o bobl a chymryd cannoedd yn wystlon.
Ymatebodd Israel drwy lansio ymgyrch filwrol yn Gaza, lle amcangyfrifir bod mwy na 70,000 o Balesteiniaid wedi marw.
'Ydw i'n gallu wynebu'r diwrnod nesaf?'
Fel llawer o gampysau prifysgol ledled y DU, mae Prifysgol Caerdydd wedi gweld protestiadau o blaid Palestina yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Oliver ei fod yn credu bod rhywfaint o'r ymddygiad a welodd wedi croesi'r ffin rhwng beirniadu Israel a gwrth-Semitiaeth.
Yn ôl y Gynghrair Ryngwladol er Cofio'r Holocost (IHRA), mae dal pobl Iddewig yn gyfrifol am weithredoedd llywodraeth Israel yn fath o wrth-Semitiaeth.
"Roedd y flwyddyn gyntaf honno'n gwbl frawychus," meddai.
"Roeddech chi'n mynd adref ac yn meddwl: 'Ydw i'n parhau? Ydw i'n gallu wynebu'r diwrnod nesaf?'"
Dywedodd Oliver iddo roi'r gorau i siarad Hebraeg y tu allan i'w gartref a'i fod yn cuddio ei gadwyn Seren Dafydd pan oedd ar gampws.

Cyn graddio ym mis Gorffennaf 2026, Oliver oedd llywydd Cymdeithas Iddewig Prifysgol Caerdydd
Dros y tair blynedd ddilynol, dywedodd Oliver fod y gamdriniaethwrth-Semitig a brofoddyn y brifysgol yn "ddi-baid".
"Rydw i wedi bod mewn clybiau neu just yn cerdded o gwmpas y brifysgol ac yn clywed y sgyrsiau yma ac yn gweld taflenni'n cael eu dosbarthu, sy'n dweud bod dy gred a dy hanes di'n ffug," meddai.
"Rydw i wedi bod mewn partïon tŷ lle, unwaith roedd rhywun wedi darganfod fy mod i'n Iddew, roedden nhw'n dechrau fy ngalw i'n Netanyahu tu ôl fy nghefn.
"Maen nhw'n darganfod dy grefydd ac yn penderfynu dy fod ti'n berson drwg."
'Agwedd dim goddefgarwch'
Dywedodd Oliver, pan oedd yn adrodd am achosion o wrth-Semitiaeth a ddigwyddodd iddo ef ac i bobl eraill, ei fod yn teimlo eu bod yn aml yn cael eu "rhoi o'r neilltu".
Er iddo ddweud bod rhai camau cadarnhaol wedi'u cymryd, mae'n teimlo bod angen gwneud mwy.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn flin bod "unrhyw fyfyriwr wedi teimlo'n anniogel" ar gampws, a'u bod yn mabwysiadu "agwedd dim goddefgarwch" tuag at aflonyddu a gwahaniaethu o bob math.
Dywedodd y brifysgol nad oes lle i wrth-Semitiaeth na chasineb yno, bod ganddyn nhw "weithdrefnau cadarn" ar gyfer ymchwilio i honiadau o wrth-Semitiaeth a byddai camau priodol yn cael eu cymryd pan fyddai tystiolaeth o hynny'n dod i'r amlwg.
Ychwanegon nhw eu bod wedi cysylltu â chymdeithas Iddewig y brifysgol ac wedi atgoffa myfyrwyr i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau.

Dywed Oliver iddo guddio symbolau o'i hunaniaeth Iddewig tra'r oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd
Nid Oliver yw'r unig un sy'n teimlo fel hyn ac mae tua 9,000 o fyfyrwyr Iddewig yn y DU, yn ôl y Community Security Trust.
Maen nhw'n monitro gwrth-Semitiaeth yn y DU ac fe wnaeth nifer yr achosion o wrth-Semitiaeth a gofnodwyd ar gampysau prifysgol gynyddu o 53 yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23 i 272 yn 2023-24.
Mae Universities UK yn cydnabod fod gwrth-Semitiaeth yn her gynyddol.
Dywedodd y prif weithredwr, Vivienne Stern, fod y sefydliad wedi ymrwymo i fynd i'r afael â gwrth-Semitiaeth ar gampysau ac yn gweithio gyda myfyrwyr Iddewig i sicrhau newid.
"Rwy'n credu y dylai myfyrwyr Iddewig allu gwisgo symbolau sy'n dangos eu bod yn Iddewon," meddai.
"Dylent allu gwisgo eu cadwyn Seren Dafydd neu eu kippah, a dylent allu dathlu bywyd Iddewig."
Digwyddiad wedi cael ei drin yn 'dda iawn'
Yn ôl arolwg diweddar o 1,000 o fyfyrwyr a gomisiynwyd gan Undeb y Myfyrwyr Iddewig ac wedi'i gynnal gan JL Partners rhwng Ionawr a Chwefror 2026, roedd myfyrwyr Iddewig yn cael eu "hynysu gan eu cyfoedion" oherwydd y rhyfel rhwng Israel a Phalesteina.
Awgrymodd yr arolwg fod "difaterwch" tuag at wrth-Semitiaeth, gyda chwarter y myfyrwyr yn dweud nad oeddent yn poeni "llawer" nac "o gwbl" os oedd myfyrwyr yn gallu bod yn agored am eu hunaniaeth Iddewig.
Dywedodd Lloyd iddo deimlo'n agored i niwed am y tro cyntaf ar ôl symud i Brifysgol Bangor y llynedd, pan welodd fyfyrwyr yn dweud: "You're a Jew, Jew, Jew" wrth fyfyriwr arall.
Esboniodd fod y digwyddiad wedi cael ei drin "yn dda iawn" pan gododd y mater gyda'r gymdeithas berthnasol.
'Rydw i'n haeddu bod yma'
Ond ychwanegodd Lloyd y gall digwyddiadau fel hyn adael myfyrwyr Iddewig yn ansicr ynghylch sut a phryd i herio ymddygiad gwrth-Semitig.
"Rydw i'n ffodus. Rydw i'n ddyn mawr ac alla' i ddim dweud fy mod i'n poeni'n arbennig am fy niogelwch corfforol," meddai.
"[Ond] Mae'n ddigon i wneud i mi oedi y rhan fwyaf o'r amser, cyn dweud fy mod i'n Iddew."
Dywedodd Prifysgol Bangor fod ganddyn nhw bolisi dim goddefgarwch tuag at aflonyddu a gwahaniaethu ac y byddai unrhyw gwynion ffurfiol yn cael eu hymchwilio'n drylwyr.
Mae Oliver bellach wedi graddio o'r brifysgol ac yn dweud iddo ddechrau gwisgo ei Seren Dafydd eto yn ei flwyddyn olaf.
"Rydw i'n haeddu bod yma. Rydw i wedi ennill fy lle ac rydw i'n mynd i gael y radd yr ydw i wedi'i hennill."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefanBBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.