Mwynhau er gwaetha'r mwd: Atgofion o Eisteddfod yr Hwch

Dau ddyn yn gwthio car yn y mwd
GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Os fydd 'na laid ar faes y brifwyl eleni, mae 'na neges gan un sy'n cofio maes mwdlyd iawn 'Eisteddfod yr Hwch' yn Sir Benfro 40 mlynedd yn ôl.

Peidiwch â digalonni oherwydd er gwaetha' stormydd 1986, roedd hi'n wythnos "wych" meddai'r prifardd Myrddin ap Dafydd a'r mwd wedi cyfrannu at y profiad - heb sôn am ddod ag ambell geiniog i'w boced.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1986 yn cael ei chofio'n rhannol am y môr o fwd wnaeth groesawu'r eisteddfodwyr ar y diwrnod cyntaf yn dilyn storm. Ganol yr wythnos fe ddaeth 'na ail storm.

Does ryfedd felly i'r brifwyl honno gael ei hadnabod fel 'Eisteddfod yr Hwch', 'Abergwaun y baw a'r gwynt' ac 'Eisteddfod y Mwd'.

Disgrifiad,

Gyliwch fideo o'r eisteddfodwyr yn dygymod â'r mwd yn 'Eisteddfod yr Hwch' 1986

Roedd Myrddin ap Dafydd, oedd yn Archdderwydd pan wnaeth storm effeithio ar Eisteddfod Llanrwst 2019, yn 30 oed ar y pryd ac wedi sefydlu Gwasg Carreg Gwalch ers chwe blynedd.

Fis Mehefin 1986 roedd o wedi mwynhau cyfnod braf yn teithio ar hyd a lled Sir Benfro heulog gyda John Owen Hughes, golygydd Llyfrau Llafar Gwlad, er mwyn gweithio ar rifyn cyntaf y gyfres.

Ac fel ysgrifennydd pwyllgor gwaith lleol Eisteddfod Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau 1989, roedd o wedi cael ei gyflwyno i nifer fawr o bobl leol er mwyn dysgu o'u profiad nhw yn trefnu'r ŵyl yn Abergwaun.

"O'n i 'di gwirioni efo Sir Benfro," meddai.

"Roedd hi'n dywydd braf pan wnaethon ni wneud y lluniau fis Mehefin, ac mi ro'n i wedi dotio at y lle a mwynhau gwneud lot o ffrindiau yno cyn y Steddfod."

Ond erbyn wythnos gyntaf Awst roedd y tywydd wedi troi. Ar ôl tair blynedd o waith caled yn paratoi, a'r Eisteddfod ar fin agor, fe wnaeth storm weddnewid y maes.

Dyn yn cerdded drwy fwd ar Faes yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Gwefan Abergwaun

"O'n i'n cyrraedd ben bora dydd Sadwrn ar ddechrau'r wythnos i osod stondin efo fan a threlar a stoc llyfrau'r wythnos," meddai Myrddin. "Dyma ni'n cyrraedd y giât a gweld jyst y môr o fwd yma.

"Doedd 'na ddim trac fyrddau ond roedd staff y Steddfod yn wych, a gwirfoddolwyr Sir Benfro yna yn trio helpu. Roedda ti'n gweld faniau a cheir yn cael eu gwthio gan bobl yn bob man.

"Mae rhywun wedi ei weld o wrth adael Steddfod, ond dim wrth ei gyrraedd o. Roedd hi'n olygfa dorcalonnus ac mi roedd fy nghalon i'n gwaedu drostyn nhw, dweud y gwir."

Ond er gwaetha'r siom, roedd yn rhaid gwneud y gorau:

"Roedd pennau pawb i lawr ond eto roedd 'na ryw ysbryd - roedd gymaint o bobl yn helpu'i gilydd oherwydd y storm a'r mwd - yn stondinwyr, yn drefnyddion y Steddfod, y bobl leol!

"A duwch, erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roedd 'na agwedd o 'dim ots... dim ots am y mwd - mi rydan ni yma rŵan, wnawn ni fwynhau hon'."

A dyna wnaeth o.

Pobl yn cerdded drwy'r mwd ar gae yr eisteddfod

Gyda'i stondin yn agos iawn at y Babell Lên, fe dreuliodd dipyn go lew o'i amser yn mwynhau darlithoedd a sesiynau barddoni difyr.

Mae'n cofio cyfarfod ag aelod newydd o'i dîm ymryson am y tro cyntaf, bachgen ifanc o'r enw Tudur oedd yn dangos fflachiadau addawol fel llenor. Aeth y Prifardd Tudur Dylan Jones yn ei flaen i gael ei Gadeirio ddwywaith ac ennill y Goron.

Roedd y Babell Lên honno yn "un o'r rhai gorau" meddai Myrddin, yn rhannol gan fod y beirdd yn gallu gwneud hwyl am y mwd.

Llun du a gwyn o Dylan Iorwerth, Myrddin ap Dafydd, Guto Davies a Gari Wyn Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Myrddin ap Dafydd atgofion melys o Babell Lên 1986 ac mae'r lleoliad yn rhan bwysig o bob Steddfod iddo. Dyma fo efo gweddill ei dîm ym Machynlleth 1981: (chwith i'r dde) Dylan Iorwerth, Myrddin, Guto Davies a Gari Wyn

"Dwi'n meddwl mai'r enghraifft orau ydi'r englyn gan Machraeth, sef R.J.H. Griffiths, tîm Sir Fôn," meddai.

"'O dan draed mae'r mwd yn drwch'... ella 'na honno oedd y lein osod... a dyma Machraeth yn mynd ymlaen 'Yn sicli fel siocled, neu bibwch'.

"Ac roedd y Babell Lên rŵan yn dechrau crynu efo chwerthin

"'Ac wedyn mae'n gorffan fel hyn - 'I hwn, ni cherdda'r run hwch ella / Ond mewn tywyllwch.'

"A hwnna oedd englyn y Steddfod - a Steddfod Englyn yr Hwch fuodd Abergwaun."

Plentyn a dynes yn cerdded drwy'r mwd

Ac fe gafodd Myrddin hefyd ysbrydoliaeth - a chyflog - diolch i'r mwd.

Roedd y baledwr Elfed Lewis wedi cael llond bol ar newyddiadurwyr yn canolbwyntio gormod ar y mwd fel stori, ac yn poeni y byddai pobl yn cadw draw.

Felly fe berswadiodd Myrddin, rhwng rhedeg ei stondin a mynd i wahanol ddigwyddiadau, i sgwennu baled iddo.

A dyma greu Be Di'r Ots Am Y Mwt! i wneud hwyl am gynhyrchwyr teledu yn 'cael clôs-yps yn dangos holl arswyd y stacs / Heb ddweud mai nhw'u hunain fu'n sbinio'n eu tracs'.

Baled wedi ei brintio ar bapurFfynhonnell y llun, Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r 1000 copi o'r gerdd gafodd eu printio gan y baledwr Elfed Lewis

Eglurodd Myrddin: "Doedd 'na ddim cyfryngau cymdeithasol na dim byd adeg hynny felly fel yr hen drefn roedd Elfed wedi mynd â'r penillion 'ma at y printer yn Abergwaun, a wnaeth o brintio 1000 o gopïau i'w rhannu o gwmpas."

Roedd y baledwr wedyn yn canu'r penillion tua 10 gwaith y dydd ac fel yr hen faledwyr yn mynd â'i gap gydag o i gasglu unrhyw newid mân gan ei gynulleidfa.

"Mi aeth hi'n dipyn o gân y Steddfod," meddai Myrddin.

"Roedd o'n ei chanu hi'n y tafarndai gyda'r nos, ar gongl y maes, wrth ochr y mwd.

"Ac wedyn, dydd Sadwrn ola'r Steddfod, ro'n i wrthi'n tynnu pethau lawr a ddaeth o draw efo bag mawr.

"'Reit', meddai o. 'Dyma fo'r cash - 'nawn i rannu hwn rŵan!' Wedyn ddes i'n ôl o'r mwd efo rhyw lond bag plastig o geiniogau a sylltau!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.