'Dylai priodas ddim fod yn forgais arall i deulu ifanc'

Mari a'r teulu wedi'r seremoni priodas
- Cyhoeddwyd
Ffrog, modrwy, parti mawr a mis mêl – mae priodasau yn gallu bod yn ddrud iawn gan gostio dros £20,000 ar gyfartaledd ym Mhrydain.
Wrth i gostau byw gynyddu, mae rhai'n dewis cadw'r digwyddiad yn un syml a rhad gyda'r gantores Dua Lipa a'r actor Callum Turner yn priodi dros y penwythnos mewn swyddfa gofrestru yn Llundain gyda dim ond wyth o bobl yno.
Un arall sy' wedi cael priodas fach ydy Mari Elen Jones o Gaernarfon, a fu'n rhannu ar Dros Frecwast ar Radio Cymru sut gadwodd hi a'i gŵr y costau yn isel, gan wahodd eu plant a phedwar oedolyn i'r gwasanaeth.

Mari Elen Jones
Meddai Mari: "'Naethon ni briodi yn Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon, ac mi oedd o'n benderfyniad 'naethon ni'r wythnos cynt.
"Oeddan ni fod i gael priodas fawr ar y diwrnod yno, ac oedden ni 'di canslo bob dim, a phenderfynu safio'r pres a phriodi rhywbryd eto."
Newidiodd y ddau eu cynlluniau gwreiddiol am briodas oherwydd cyfnod Covid ac wedi i'r teulu dyfu, meddai Mari: "Oeddan ni'n byw mewn tŷ bach a 'naethon ni benderfynu, doedd 'na'm pwynt gwario £30,000 ar briodas fawr.

Mari a'i phlant ar y diwrnod - newidiodd y cwpl eu cynlluniau wedi i'w teulu dyfu
"Felly naethon ni ddweud, 'Be' am i ni beidio am rŵan a phrynu tŷ mwy.' Ond 'naethon ni ganslo bob dim oni bai am y registrar a wnes i gael galwad ffôn gan y swyddfa gofrestru yng Nghaernarfon yn dweud, ''Da chi dal yn priodi wythnos nesa?',"
Roedd Mari wedi anghofio canslo'r swyddfa gofrestru a dyma hi felly yn gwneud penderfyniad sydyn, fel mae'n esbonio: "'Nath y ddynes ar y ffôn ddweud, 'Wel, mae croeso i chi jyst ddod yma a phriodi os 'da chi isio. 'Da chi ddim yn gorfod neud priodas fawr.'
"A dyna naethon ni. Naethon ni jyst gael Mam, Dad, a dau o'n ffrindiau pennaf ni i fod yn dystion a jyst priodi."

Gyda dim ond wythnos i drefnu'r briodas, mi wnaeth Mari brynu dillad ar-lein gyda'i gŵr yn gwisgo siwt oedd ganddo eisioes.
Ac mi oedd hi'n ddiwrnod arbennig, yn ôl Mari: "Oedd o'n ddiwrnod ddi-ffys, ddi-lol. 'Naethon ni yrru tecst i ffrindiau yn deud fatha syrpreis, a daeth pawb i'r dafarn i weld ni'r noson honno.
"Oedd pawb methu bod yna, so oedd o'n gymysgedd o bobl eitha' random 'da ni'n 'nabod yn y Black Boy efo ni gyda'r nos."

Mari, ei gŵr a'r gwesteion yn dathlu wedi'r seremoni
Y trefnydd priodas

Gaynor Davies
Mae Gaynor Davies, perchennog Fferm Rosedew ym Mro Morgannwg sy'n leoliad ar gyfer priodasau, yn hen law ar drefnu priodasau bach a mawr ac yn cynnal rhyw 50 o briodasau bob blwyddyn.
Bu'n siarad am yr elfennau pwysicaf i gael priodas dda: "Mae pob priodas yn hollol, hollol wahanol. Mae rhai am gael y cyfan i gyd - ffortiwn ar flodau, ceir ac ati.
"Ac wedyn dwi'n gweud llai yw mwy. Ond jyst cael bobl at ei gilydd a chael bwyd o safon da [sy'n bwysig].
"Mae pobl yn gallu mynd dros ben llestri. Mae hen parties wedi mynd yn bethau mawr ac mae costau wedi mynd yn uwch ac yn uwch ac yn uwch.
"Achlysur naturiol hapus yw priodas i ymuno dau deulu. Dylai priodas ddim fod yn forgais arall i'r teuluoedd ifanc 'ma sy'n dechre bywyd priodasol."
Y pethau pwysig
Mae Gaynor yn dweud mai cael y teuluoedd ynghyd i fwynhau'r cyfnod cyfan sy'n bwysig: "Mae cael ymuno'r ddau deulu a chael yr amser [gyda'i gilydd] yn bwysig. Pan bod merched yn trefnu am dros dwy flynedd a mae'r cyfan wedi digwydd mewn wyth awr...
"Os chi moyn neud y cyfan eich hunain a ailgylchu a neud pethau'n rhatach, mae croeso i chi neud."
Ac mae Gaynor wedi helpu trefnu sawl priodas sy'n agos iawn i'w chalon gyda'i phlant yn priodi'n ddiweddar, fel mae'n esbonio: "Priododd y mab Dafydd Sion yma tair blynedd nôl.
"A phriododd Megan llynedd. Dim ond 16 oedd gyda hi felly priodas fach. Ac wedyn mae Del [sy'n priodi mis yma] yn mynd i gael ambutu 100.
"Ac mae dal tipyn 'da ni i neud mewn pythefnos!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd23 Ionawr

- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2025
