Gall ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot gael ei hoedi am hyd at wyth mis

- Cyhoeddwyd
Fe allai cynlluniau ar gyfer ffwrnais drydan gwerth £1.25bn ym Mhort Talbot gael eu hoedi am hyd at wyth mis yn sgil problemau cysylltedd trydanol, meddai Tata Steel.
Y gobaith oedd y byddai'r ffwrnais drydan newydd yn barod erbyn diwedd 2027, gan ddisodli'r ffwrneisi chwyth gafodd eu cau ddwy flynedd yn ôl - a arweiniodd at 2,000 o swyddi'n cael eu colli.
Mae Tata Steel yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol i uwchraddio seilwaith trydanol a chefnogi'r ffwrnais drydan newydd.
Ond mae'r BBC ar ddeall fod y pennaeth, Koushik Chatterjee wedi rhybuddio buddsoddwyr yn ystod galwad gynhadledd y mis diwethaf y gallai problemau gyda chysylltedd trydanol ohirio'r prosiect.
Gwaith i ddechrau ar ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2025
Tân gwaith dur Tata 'wedi achosi difrod sylweddol i linell gynhyrchu allweddol'
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
2,000 o weithwyr Tata am adael y cwmni yn wirfoddol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
Dywedodd Chatterjee fod y prosiect yn mynd rhagddo gyda gwaith dymchwel mawr wedi'i gwblhau, a bod "sicrhau mynediad at drydan pŵer uchel yn hanfodol" ar gyfer eu cynlluniau.
"Er ein bod yn gweithio gyda gweithredwr y system drydan a'r Grid Cenedlaethol ar gyfer seilwaith trydanol newydd, mae'r Grid Cenedlaethol wedi ein rhybuddio'n swyddogol bod eu prosiect cysylltedd wedi'i ohirio.
"Mae hyn yn hanfodol i Tata Steel UK ar gyfer comisiynu'r prosiect, rydym mewn sgwrs â'r Grid Cenedlaethol a llywodraeth y DU ar ddatrys y problemau."
Wrth iddo gael ei holi am ba mor hir y gallai'r problemau yma oedi'r prosiect, dywedodd y gall yn sicr fod "rhywle rhwng chwech ac wyth mis" cyn ychwanegu y gallai fynd yn hirach "ar ôl i ni adeiladu'r safle".
Dywedodd fod y cwmni'n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys llywodraeth y DU, y Grid Cenedlaethol a'i gyflenwr trydan i "weld a allwn liniaru'r gwaith".
'Trafod addasaidau posibl i'r amserlen'
Mewn datganiad, dywedodd Tata, fel gyda llawer o brosiectau mawr, fod "amserlenni'n parhau i esblygu wrth i waith peirianneg, adeiladu a seilwaith manwl fynd rhagddo".
Dywedon nhw eu bod yn "trafod addasiadau posibl i'r amserlen gomisiynu" gyda'i bartneriaid "i gyflawni'r prosiect yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl".
Dywedodd y Grid Cenedlaethol fod y gwaith yn cynnwys adeiladu dwy is-orsaf newydd, gosod trawsnewidyddion yn ogystal â gosod 2km o geblau tanddaearol.
Ond roedd problemau gyda chyflwr y ddaear yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol a chynllunio wedi cyfrannu at yr oedi er bod "cynnydd da yn cael ei wneud".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.