Cynghori pobl i aros dan do ar ôl tân yng ngwaith dur Tata

TanFfynhonnell y llun, Colleen O'Leary
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw ger safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot wedi cael eu cynghori i aros dan do ar ôl i dân gynnau yno.

Dechreuodd y tân ar un o linellau prosesu'r safle tua 20:00 nos Fercher, gyda staff wedi cael eu symud oddi yno yn ddiogel.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gwasanaethau brys yn parhau ar y safle fore Iau ac yn gweithio i reoli'r digwyddiad.

Yn ôl Rapid Relief Team UK (RRT) - elusen sy'n rhoi cymorth i'r gwasanaethau brys mewn digwyddiadau mawr - fe wnaeth "tua 100 o ymatebwyr wynebu noson hynod heriol a pheryglus" wrth ymateb i'r digwyddiad.

Mae trigolion wedi cael eu cynghori i gadw drysau a ffenestri ar gau, tra bod gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal os yn bosibl.

Mwg o'r safleFfynhonnell y llun, Kellie Evans

Roedd mwg trwchus i'w weld yn codi o'r safle, ac yn ôl Kellie Evans oedd yn gyrru heibio, roedd yr olygfa yn "apocalyptaidd".

Dywedodd nad oedd hi'n gallu gweld y fflamau "oherwydd bod yr awyr mor ddu".

Dywedodd Tata Steel fod yr holl weithwyr wedi gadael y safle'n ddiogel.

Ychwanegodd y cwmni nad oedd y tân yn gysylltiedig â dymchwel hen ddaliwr nwy gwag ar y safle nos Fercher.

Diolchodd Tata Steel i staff y safle a'r gwasanaethau brys am eu "gweithredu prydlon a phroffesiynol".

Roedd camerâu traffig yn dangos fore Iau bod yr M4 ger Port Talbot yn parhau ar agor ond bod traffig trwm arni.

Dywedodd RRT UK fod gwirfoddolwyr wedi cyrraedd y safle o fewn 90 munud i'r alwad gychwynnol ac wedi gweini 125 o brydau poeth yn ystod y nos i gefnogi'r criwiau oedd yn gweithio yno.