Hans Obma: Fy nhaith Gymraeg i Gwmderi

Hans Obma ar y carped cochFfynhonnell y llun, Hans Obma
GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos hon, fe fydd cymeriad newydd yn glanio yng Nghwmderi – Kyle Anderson. Yr actor Hans Obma sy'n chwarae rhan y dyn nad yw'n "100% onest, ond sy'n gwneud beth sy'n rhaid ei wneud."

Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am ei daith o'r Unol Daleithiau i Bobol y Cwm.

O gyfresi drama yn America i Pobol y Cwm

Mae Hans yn fwyaf adnabyddus am ei ran fel Adrian yn nrama Netflix, Better Call Saul, ac wedi ymddangos mewn cyfresi poblogaidd fel WandaVision a Grace & Frankie. Ond yn ystod y cyfnod clo fe ddechreuodd brosiect a fyddai'n ei arwain yn ôl at wreiddiau ei deulu yng Nghymru.

"Ces i'r syniad i ddatblygu sgript, wel cyfres, o'r enw Cwestiynau Heb Atebion. Achos o'r cyfnod clo oedd gyda fi'r amser i ddatblygu a sgrifennu. Ar ôl i fi ysgrifennu y sgript pilot o'r gyfres, nes i sylweddoli pa mor dda bysa hi i'r gyfres, tasai'r prif gymeriad yn siarad Cymraeg.

"Wedyn, 'nes i ddechrau i chwilio am gyfleoedd i ddysgu Cymraeg."

"O'n i wedi bod eisiau gwneud hynny ers amser hir cyn hynny achos roedd fy mam-gu yn dod o Gymru, o Frynmawr yma yn y de.

Mam-gu Hans, Olive Cecile Hales, ar ddydd ei phriodas ym Mrynmawr, Blaenau GwentFfynhonnell y llun, Hans Obma
Disgrifiad o’r llun,

Mam-gu Hans, Olive Cecile Hales, ar ddydd ei phriodas ym Mrynmawr, Blaenau Gwent

"Des i yma am i Gaerdydd i wneud y cwrs haf efo Sefydliad Dysgu Cymraeg. Felly am bump wythnos o'n i'n paratoi ar gyfer y dosbarthiadau. O'n i'n siarad Cymraeg trwy'r dydd.

"Do'n i ddim yn gwybod dim byd cyn hynny."

Hans Obma fel Kyle Anderson yn cyrraedd y cwmFfynhonnell y llun, S4C/BBC Studios
Disgrifiad o’r llun,

Hans Obma fel Kyle Anderson yn cyrraedd y cwm

Dysgu Cymraeg

"Trwy'r flwyddyn, nes i ddosbarth ar-lein yn y bore. O'n i yn yr Unol Daleithiau am chwech o'r gloch y bore achos oedd y pawb yn y dosbarth am hanner dydd yma yng Nghymru. A wedyn nes i ddal ati. Des i'n ôl unwaith eto i'r cwrs haf am trydydd gwaith.

"A nawr, yma gyda chi, wrth fy modd ar Pobol y Cwm."

Eglurodd Hans fod Pobol y Cwm wedi bod yn allweddol yn ei allu i siarad Cymraeg.

"Nes i ddechrau gwylio Pobol y Cwm yn eitha gynnar yn fy siwrnai iaith Gymraeg achos o'n i moyn rhywbeth o'n i'n gallu gweld bob wythnos.

"O'n i'n teimlo fel bron o'n i'n 'nabod cwpwl o bobl o'r sioe. Nes i gwrdd â Mark Roberts a Jack Quick yn Tafwyl unwaith. O'n i fel, "Dwi'n eich 'nabod chi."

"A wedyn nes i gwrdd â ffrind da o'r enw Rhys ap Trefor oedd yn actio ar Pobol y Cwm. Oedd e'n chwarae Tom, ac oedd e'n fy nghefnogi i. [Fydda i] wastad yn ddiolchgar iddo fe am ddweud 'Ia, dwi'n meddwl dylet ti fod ar Pobol y Cwm.'

"Dwi wastad wedi meddwl bod Pobol y Cwm yn eiconig.

"Dwi'n falch i fod mewn sioe mae pawb yn Cymru'n 'nabod. Does neb sydd ddim yn 'nabod Pobol y Cwm."

Hans Obma fel Kyle Anderson yn Pobol y CwmFfynhonnell y llun, S4C/BBC Studios
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Hans, mae Kyle Anderson yn gymeriad "sydd ddim yn 100% onest" ac sy'n "gwneud beth sydd rhaid ei wneud".

Ers bod yng Nghymru mae ei Gymraeg wedi gwella'n aruthrol mewddai. Roedd o yng Nghymru am gyfnod o chwe wythnos tra y bu'n ffilmio Pobol y Cwm ond fe dreuliodd yr wythnos gyntaf yn Nant Gwrtheyrn, eglurodd.

"Yr wythnos gyntaf es i i'r gogledd i Nant Gwrtheyrn. Dwi'n ddiolchgar iawn i Llywodraeth Cymru am y cyfle i siarad Cymraeg efo pobl am wythnos yn hollol yn Gymraeg.

"Wedyn, des i'n ôl i Gaerdydd a nes i ddechrau [siarad] efo pobl yn y Gymraeg trwy'r amser felly mae fy Nghymraeg wedi tyfu llawer mewn chwech wythnos.

"Y ffordd orau i ddysgu iaith yw gweithio yn yr iaith."

Hans Obma yn Nant GwrtheyrnFfynhonnell y llun, Hans Obma
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hans gyfle i fwynhau arfordir Pen Llŷn tra'n aros yn Nant Gwrtheyrn

Bydd yr actor yn dychwelyd i Gymru fis Awst i fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd nad oedd ei fam-gu yn siarad Cymraeg, ond wrth ymateb i'r cwestiwn beth fyddai hi'n ei ddweud pe bai hi'n ei weld yn siarad Cymraeg ac ar Pobol y Cwm, ei ateb oedd:

"Dw i'n meddwl basai hi'n synnu ac yn delighted fy mod i wedi dysgu iaith y nefoedd."

Hefyd o ddiddordeb

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig