Elvis Presley: Gwreiddiau Brenin Roc a Rôl yn Sir Benfro?

Elvis PresleyFfynhonnell y llun, Bettmann / Getty Images
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Elvis Presley yn eicon Americanaidd a newidiodd y byd drwy gyflwyno synau roc a rôl i gynulleidfa fyd-eang.

Ond er bod llawer o bobl dros y blynyddoedd wedi tybio bod ei linach yn hanu o'r Alban ac o dras Cherokee, mae ymchwil gan yr hanesydd ac academydd Cymreig, Terry Breverton, yn awgrymu stori hollol wahanol. A yw'n bosib bod gwaed Cymreig yn llifo trwy wythiennau un o'r sêr mwyaf erioed?

O Fryniau'r Preseli i Diroedd y Mansels

Yn ei lyfr The A-Z of Wales mae Breverton yn honni bod gwreiddiau teuluol Elvis Presley yn pwyntio tuag at ardal Bryniau'r Preseli yng ngorllewin Cymru.

Mae'r awdur yn tynnu sylw at lefydd penodol i ategu ei ddadl. Ychydig i'r de o'r mynyddoedd hynny, er enghraifft, mae gweddillion hen gapel wedi'i gysegru i neb llai na Saint Elvis (Sant Eilfyw) - yr unig safle o'i fath ledled Prydain.

Penrhyn Dinas Fawr ym mhlwyf Sant Eilfyw, ger Solfach Ffynhonnell y llun, Andy F / Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Penrhyn Dinas Fawr ym mhlwyf Sant Eilfyw, ger Solfach

Nid yw damcaniaeth Breverton yn stopio yn y gorllewin chwaith, gan fod llinach y teulu, yn ôl ei awgrymiadau, hefyd yn ymestyn tuag at dde Cymru.

Mae'r llyfr yn codi'r posibilrwydd bod nain Elvis, Doll Mansell, yn hanu o deulu adnabyddus y Mansels o Oxwich ar Benrhyn Gŵyr. Os yw hynny'n gywir, mae'n ychwanegu haen gyfoethog o hanes Cymreig i goeden deuluol y seren.

Castell Oxwich ym Mhenrhyn GŵyrFfynhonnell y llun, Epics / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ai dyma'r Graceland gwreiddiol? Fe gafodd Castell Oxwich ym Mhenrhyn Gŵyr ei adeiladu yn y 16eg ganrif gan Syr Rice Mansel - un o gyndeidiau Elvis, o bosib, yn ôl Terry Breverton

Enwau Cymreig yng nghanol Mississippi

Wrth edrych ar enwau aelodau teulu agos Elvis, mae'r dylanwad Cymreig yn sefyll allan. Roedd gan ei efaill a aned yn farw, Jesse Garon Presley, ail enw Cymreig, tra bod gan ei fam, Gladys, enw sydd wedi bod yn draddodiadol iawn yng Nghymru ers canrifoedd.

Wrth olrhain y teulu yn ôl i ddyddiau cynnar mudo i'r Unol Daleithiau, y Presley cyntaf i gael ei gofnodi yno oedd David Pressley yn y flwyddyn 1700; David wrth gwrs yn enw poblogaidd iawn yng Nghymru.

Cyd-ddigwyddiad llwyr yw'r ffaith fod y cyfenw Presley yn swnio'n debyg iawn i Preseli.

Tarddiad yr enw yna mewn gwirionedd yw'r geiriau Hen Saesneg preost (h.y. priest neu offeiriad) a leah (dôl) felly Dôl yr Offeiriad.

Heb os, mae hwnnw'n gyfenw lleoliadol oedd gan deuluoedd wedi eu geni yn agos i lefydd o'r enw Priestley (er enghraifft yng Ngorllewin Swydd Efrog neu Swydd Hertford). Dros ganrifoedd o fudo, newidiodd sillafiad ac ynganiad yr enw i Pressley ac yna Presley.

UDA yn gymysgedd o bobl o gefndiroedd gwahanol

Nid Elvis yw'r unig ffigwr chwyldroadol o gyfnod aur roc a rôl sydd â chysylltiadau teuluol â Chymru. Mae ymchwil yn nodi bod Jerry Lee Lewis ('The Killer') hefyd o dras Gymreig. Mi allwch ddarllen am ei wreiddiau Cymreig o, yn ogystal â sêr eraill y cyfnod fel Dolly Parton, Hank Williams a George Jones yma.

Jerry Lee Lewis, Carl Perkins, Elvis Presley a Johnny Cash yn perfformio yn Sun Studios ym Memphis, Tennessee yn 1956. Marilyn Evans yw enw'r ddynes yn y llun.Ffynhonnell y llun, Michael Ochs Archives / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jerry Lee Lewis, Carl Perkins, Elvis Presley a Johnny Cash yn perfformio yn Sun Studios ym Memphis, Tennessee yn 1956. Marilyn Evans yw enw'r ddynes yn y llun

Y Llinach Gymreig: Ffaith neu ffantasi?

Er bod 'na fylchau amlwg yn yr ymchwil a chwestiynau ynglŷn â manylion y stori o fudo teulu Presley ar draws yr Iwerydd, mae'r cyfuniad o enwau teuluol, cysylltiad teulu'r Mansels, a'r cyd-ddigwyddiad daearyddol â Sant Elvis yn creu darlun hynod ddiddorol.

Tro nesaf y byddwch yn clywed llais llyfn Elvis yn canu Love Me Tender neu Are You Lonesome Tonight... cofiwch fod yna bosibilrwydd mawr fod yna berthynas bell iddo yn canu gwerin neu emynau ar fryniau Sir Benfro ychydig genedlaethau ynghynt.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig