Gwenno Llwyd Till: 'Dwi isho creu ffilmiau sy'n gwneud gwahaniaeth'

Gwenno Llwyd TillFfynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Drama gomedi Y Gens oedd y comedi cyntaf i Gwenno Llwyd Till erioed ei ysgrifennu.

A dweud y gwir, dyma oedd y peth cyntaf iddi ei ysgrifennu a'i sgriptio erioed, ac mae'r bennod, sy'n dilyn hynt a helynt merched ifanc sengl yn ngogledd Cymru, nawr i'w gweld ar blatfformau digidol S4C.

Mae hi wedi mwynhau'r her o newid ei ffordd o weithio, a chyfarwyddo – am y tro cyntaf – criw o actorion a oedd yn dilyn sgript, a oedd yn "brofiad hollol cŵl" meddai. Ond fel arfer, canolbwyntio ar ffilmiau dogfen mae'r gwneuthurwr ffilmiau ifanc o Nant Gwynant.

"Dwi'n licio 'neud documentary mwy na'm byd. Mae well gen i bethau ffeithiol bob tro oherwydd dwi'n meddwl bod pobl go iawn lot mwy diddorol nag unrhyw stori 'sa chdi'n gallu sgwennu.

"Ond hefyd mae unrhyw stori ti'n sgwennu wedi cael ei ysbrydoli yn uniongyrchol gan bobl neu gan sefyllfaoedd neu bethau ti'n 'nabod. Felly mae'r ddau ohonyn nhw'n plethu reit dda efo'i gilydd."

Gwenno yn cyfarwyddoFfynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno'n cyfarwyddo actorion Y Gens - Erin Molyneux, Leah Gaffey, Betsan Ceiriog a Lois Elenid - ar gyfer ei phrosiect cyntaf sydd wedi ei sgriptio

Mae hi'n ystyried ei hun yn dipyn o "all-rounder", eglurai – yn wneuthurwr ffilmiau sy'n saethu a chyfarwyddo ei gwaith ei hun, mae hi'n creu ffilmiau dogfennol am bynciau sy'n agos at ei chalon a sydd ag elfennau o bwysigrwydd cymdeithasol iddyn nhw.

Yn ogystal â hyn, mae hi'n creu portreadau ar ffilm o artistiaid eraill, fideos cerddoriaeth i rai o enwau mwyaf cerddoriaeth Gymraeg, yn gwneud tipyn o waith ffotograffiaeth, ac yn fwy diweddar wrth gwrs, wedi ysgrifennu a chyfarwyddo ei phrosiect teledu cyntaf.

Ffilmiau agos at y galon

A hithau wedi bod â diddordeb mewn celf ers yn ifanc, roedd hi wastad yn gwybod y byddai hi'n gweithio mewn maes celfyddydol.

Ffilm oedd ei phwnc yn y brifysgol, a delwedd symudol sydd yn parhau i fod yn agos at ei chalon hi, eglurai.

"Mae o mor tangible. Dwi'n berson rili sensitif, ac mae ffilm yn rhywbeth sydd yn gallu taro chdi. Dwi'n licio gallu d'eud stori drwy hynna am bobl go iawn. Dwi isho 'neud ffilmiau mae pobl yn gallu uniaethu efo – hyd yn oed os dim ond un person, mae hynny'n golygu rhywbeth."

Felly pa fath o bynciau mae Gwenno yn eu trafod yn ei ffilmiau?

"Dwi'm yn licio gneud pethau trist neu afiach, fel true crime – ond dwi'n licio ffilmio pethau sy'n agos at galon rhywun. Maen nhw o hyd efo rhywbeth i 'neud efo hunaniaeth.

"Un o'r ffilms nes i joio gweithio ar fwyaf oedd Remembering Yesterday, Caring Today – dogfen am dementia reminiscence therapy.

"Nes i weithio efo grŵp yn Llundain yn ffilmio gŵr a gwraig, a oedd un efo dementia – o'dda ni'n g'neud therapi celf bob wythnos, i annog pobl i ddod â'u hatgofion yn ôl. O'dd o'n ddiddorol a lyfli.

"O'dd hwnna un o'r ffilms mwya' agos at fy nghanol dwi 'di 'neud. 'Swn i'n newid pethau yn weledol heddiw, ond mae o wedi cael ei ddangos mewn cynadleddau dros y byd, so o'dd pawb yn rili hapus efo fo.

Gwenno gyda sgrin deleduFfynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno gyda'i ffilm Pwy Wyt Ti? Who Are You?, sydd wedi ei brynu gan y Llyfrgell Genedlaethol, ac a oedd yn rhan o'r arddangosfa Portread a Phŵer

"Roedd fy ffilm Pwy Wyt Ti? Who Are You? yn rhan o arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, efo gwaith pobl fel Kyffin Williams, Gwen John a Bedwyr Williams. Roedd o am ffigro allan pwy wyt ti - trio dod fewn i haen ddyfnach tu fewn i ti dy hun.

"O'dd The Last Goodbye i 'neud efo galar ac yn deyrnged i'r teimlad o ddweud ffarwel. O'n i'n mynd drwy dorcalon yr adeg yna, a do'n i'm yn gwybod sut i'w brosesu o.

"Es i a 12 o'n ffrindiau drwy'r broses o sgwennu llythyrau, ffilmio fo efo'n gilydd, ac roedd hynny'n gyfle i bawb ddweud ffarwel yr un pryd.

"'Swn i'n licio gneud mwy o waith cymunedol – dyna holl ethos fy ngwaith dogfennol i; ei 'neud o dim jyst i ddogfennu rhywbeth ond hefyd gyda phwrpas a newid cymdeithasol.

"Dwi isho g'neud rhywbeth er mwyn iddo fo 'neud gwahaniaeth."

Cefnogaeth a chyfleoedd

Gan ei bod yn gallu ffilmio, cyfarwyddo a golygu, mae Gwenno'n aml yn gweithio ar brosiectau'n gyfangwbl ar ei phen ei hun, ac yn mwynhau'r balchder a pherchnogaeth mae'n ei deimlo dros ei gwaith, meddai.

Ond mae hi hefyd yn mwynhau cydweithio ag eraill, ac wir yn gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth ac anogaeth mae hi wedi ei dderbyn gan bobl mwy profiadol yn y diwydiant.

'Swn i'm 'di gallu gneud Y Gens heb help. O'dd ganddo ni griw rili bach ac o'dd o'n ffantastig, ac roedd Gwion [Hallam] yn fy nghyfarwyddo fi yn cyfarwyddo.

Gwenno a gorilaFfynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwenno lawer o gymorth gan dîm bach ond 'ffantastig' yn ystod y broses o ffilmio Y Gens

"Mae cael pobl o dy gwmpas di sy'n gwybod mwy na ti, a s'gen ti ddim cywilydd yn cyfadde' hynny, yn werthfawr. Mae cydweithio yn rhywbeth rili grêt a dyla bod ni gyd yn ddigon bodlon i 'neud.

"Weithiau mae angen rhannu'r baich achos mae 'na bobl sydd am wybod mwy na ti, a ti angen gwrando arnyn nhw. A bod yn ddiolchgar bod pobl yn credu ynot ti ac yn rhoi cyfleoedd i ti.

"Dwi'n gweithio lot efo CellB yn Blaenau Ffestiniog, sy'n ffantastig. Mae Rhys [Roberts] fel mentor i mi, bob tro yn advocatio. Dyna dwi fwya' diolchgar am – o mhrofiad i, mae pobl helpful yn y byd yma, sydd isho i chdi lwyddo."

Gwenno, Rhys Ifans a thîm CellBFfynhonnell y llun, Gwenno Llwyd Till
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno gyda Rhys Ifans a thîm CellB a oedd yn arwain prosiect ffilm yn archwilio diwylliant ieuenctid Cymru trwy ffilm, cerddoriaeth a phrofiadau bywyd, ac a arddangosodd yn y BFI yn Llundain ym mis Ebrill

Mae Gwenno wedi bod yn gweithio'n llawrydd ers pum mlynedd bellach; bywyd ansicr ar adegau, ond un sy'n rhoi rhyddid iddi ddatblygu syniadau yn sydyn, eglurai, sy'n gyffrous.

"O'dd Cymru yn y BFI (British Film Institute) yn ddiweddar, ac odd Rhys Ifans yn interviewio fi, Yannick [Hammer] a Cian [Clinc] am ddwy ffilm ddogfen 'naethon am y sîn miwsig yng Nghymru dros y 30 mlynedd diwethaf.

"Roedd o'n hollol annisgwyl, achos doedd o ddim yn thing pedwar mis yn ôl. 'Nes i guradu rhywbeth i'r BFI! O'dd o'n masif ac yn cŵl.

"Yn aml iawn, dwi'n cael syniad am rywbeth ac o fewn pythefnos fydd y bêl yn rowlio. Dwi am weld lle dwi'n mynd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig