Arestio dyn 18 oed yn dilyn achos o drywanu yn Y Barri

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag achos o drywanu yn Y Barri ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Bu rhaid i fachgen 17 oed fynd i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn ei goes ar 25 Mai, ond dywedodd Heddlu De Cymru nad yw ei anaf am fygwth na newid ei fywyd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Lisa Gore: "Rydym wedi arestio rhywun dan amheuaeth ac ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall.

"Rydym yn deall bod hyn wedi achosi pryder sylweddol a bydd mwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf er mwyn tawelu meddyliau pobl."

Aeth ymlaen i ddiolch i'r rhai sydd wedi cynorthwyo eu hymchwiliadau hyd yma ond mae'n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.