Dyn wedi marw yn dilyn 'anhrefn dreisgar rhwng gangiau beicwyr modur'

Anthony JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Anthony 'Tony' Jones ei fod yn "ŵr a thad annwyl a ffyddlon"

GanOwain Evans
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth dyn yn dilyn adroddiadau o anhrefn dreisgar rhwng dau gang o feicwyr modur.

Bu farw Anthony David Jones, 56, o'i anafiadau yn dilyn y digwyddiad honedig ym Mhontnewynydd ger Pont-y-pŵl ar 6 Awst.

Clywodd y cwest fod Mr Jones yn aseswr NVQ o Aberhonddu.

Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders y cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 6 Awst o ganlyniad i anafiadau a ddigwyddodd yn ystod ffrae ar Heol yr Ysbyty, Pontnewynydd.

Clywodd y gwrandawiad byr ei fod yn anymwybodol ac nad oedd yn ymateb. Roedd wedi dioddef anaf i'w ben.

Bu farw o'i anafiadau drannoeth.

Cerbydau a swyddogion heddlu ym Mhontnewynydd mewn ymateb i adroddiadau o anhrefn yno
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion arfog eu galw i ardal Pontnewynydd yn dilyn adroddiadau o anhrefn dreisgar yno nos Iau, 6 Awst

Clywodd y cwest fod yr ymchwiliad post mortem yn parhau a bod y farwolaeth yn destun ymchwiliad troseddol gan yr heddlu.

Dywedodd y crwner y byddai'r cwest yn cael ei ohirio hyd nes y bydd yr ymchwiliadau hynny yn dod i ben, cyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch a ddylai'r cwest barhau.

Cafodd y cwest ei ohirio tan fis Mai y flwyddyn nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig