Ble mae adra i'r artist Dewi Tudur?

Dewi TudurFfynhonnell y llun, Dewi Tudur
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wedi cyfnod blaenorol yn byw yn yr Eidal mae'r artist blaenllaw Dewi Tudur bellach wedi ymgartrefu mewn gwlad newydd.

Ar ôl dychwelyd yn nes at gartref a byw ger Caer am gyfnod, mae'r artist sy'n wreiddiol o'r Wyddgrug wedi codi pac unwaith eto a symud i Ffrainc.

Mewn sgwrs gyda Manon Steffan Ros ar raglen Llwyfan bu'n disgrifio dylanwad yr adeiladau o'i gwmpas ar ei waith, ac yn egluro pam nad ydio'n siŵr bellach ble mae 'adra'.

Byw yn yr Eidal

Dewi a RemoFfynhonnell y llun, Dewi Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Dewi yn cael coffi gyda'i gyfaill Remo yn yr Eidal

Symudodd Dewi a'i wraig Linda i Donnini, Toscana yn yr Eidal yn 2011 a hynny yn dilyn gwyliau yn yr ardal a newidiodd yn sydyn i fywyd newydd.

Mae'r ffordd mae'n disgrifio byw ar fryniau Regello yn hudolus. Gall setlo mewn pentref newydd fod yn heriol, yn enwedig pan eich bod prin yn siarad yr iaith.

Ond fel mewn unrhyw dref neu bentref, mae straeon yn cario o berson i berson, ac ambell unigolyn yn fwy dylanwadol nag eraill.

Ar ôl digwydd taro ar ambell i unigolion yn y dref un diwrnod a chyflwyno ei hun, roedd y gair ar led fod Dewi a'i wraig wedi symud i'r pentref a buan iawn y cafon nhw eu derbyn fel aelodau o'r gymdeithas yno.

"Dyma ni'n glanio yn Villa Pittiana yma yn Toscana ar ein gwyliau.

"Ar ôl cyrraedd, nes i ymdrech, pob dydd, o'n i'n cerdded lawr i'r pentre a dyna sut nes i ddod i nabod pawb a dysgu'r iaith.

"Nes i gyfarfod dau foi Remo Bacci a Corio Lenno, ac o fewn dim ro'n i wedi cael sêl bendith yr holl bentref." meddai.

"O ddydd i ddydd ro'n i'n dechrau siarad efo pobl. Bigais i ddarn o sbwriel un diwrnod a dyma ryw lais tu ôl i mi'n dweud nad fy lle i oedd gwneud hynny.

"Ro'n i wedi arfer gwneud yn rhinwedd fy swydd fel athro am flynyddoedd, yn pigo sbwriel pobl eraill i fyny.

"Pwy oedd o ond rheolwr y villa a dyma fo ymhen ychydig yn fy nghyflwyno i berchennog y villa. A f'yntau wedyn yn cynnig swydd i mi fel arlunydd preswyl.

"Roedd ein tŷ ni 1,000 metr uwch ben Firenze ac fe gafodd o'i adeiladu yn 1586. Mynachod oedd yn arfer byw yno a hwythau yn hunan gynhaliol ar geirios, afalau ac olewydd. Yn aml iawn roedden ni'n clywed y bleiddiaid yn udo yn y goedwig - sŵn hudolus. Iasoer ond hudolus."

Fe wnaeth y profiad yma ysbrydoli darn o waith Dewi ar fleiddiaid mewn tirwedd caled o eira a rhew.

"Fyswn i byth yn mynd yn ôl yna. Mae'r teimlad a'r profiadau wedi bod mor hyfryd, dwi eisiau ei gadw o fel 'na." meddai.

Celf

Gwaith Celf DewiFfynhonnell y llun, Dewi Tudur

Ond wrth i'r artist grwydro o wlad i wlad, a yw ei gelf wedi newid?

Yn ôl Rolant Powell o Oriel Ffin y Parc yn Llandudno, mae dylanwad y lleoedd amrywiol i'w weld yn y gwaith.

"Fyddwn i'n dweud bod rhyw agwedd mwy Ewropeaidd ynglŷn â'i waith a dyw e ddim yn edrych i mewn at Gymru. Mae e'n edrych allan i'r byd a mae'n dod â pethau o'r byd i mewn.

"Mae tueddiad i feddwl am artistiaid Cymreig eu bod nhw'n canolbwyntio ar syniadau a themâu Cymreig. Ond nid dyna mae Dewi yn ei wneud. Hyd yn oed pan oedd yn gwneud tirweddau o Gymru, roedd rhywbeth estron amdanynt," meddai.

O ran perthynas Oriel Ffin y Parc a Dewi, mae'r Oriel yn gadael i Dewi wneud ei waith heb lawer o ymyrraeth.

"Gadael i Dewi wneud beth mae e moyn ei wneud. Gallwn ni wneud awgrymiadau ond dyw e ddim yn cymryd cymaint o sylw.

"Mae'n ffonio i ddweud ei fod wedi symud i Ffrainc a wedyn gewch chi luniau o Ffrainc, falle rhai o Gymru a falle rhai o'r Eidal. Mae'n rhaid i ni adael Dewi wneud be mae e'n wneud.

"Mae ffydd gyda ni yn Dewi, ond does dim rhaid i ni wybod o flaen llaw be' sy'n digwydd. Y newidiaeth yw'r rhan o'r deal gyda Dewi," meddai.

Ble mae adra a Miniaminau

Dewi a'r MiniFfynhonnell y llun, Dewi Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Dewi gyda'r Mini sy'n amlwg ar ei gyfrif Instagram

Erbyn hyn mae gan Dewi gyfrif Instagram am ei anturiaethau â'r car Mini.

Mae bellach wedi symud i fyw i Ffrainc mewn pentref bach o'r enw Salles Lavalette, tua 70 milltir y tu allan i ddinas Bordeaux.

Felly pam fod Dewi wedi penderfynu dogfennu ei fywyd newydd ar y cyfryngau cymdeithasol? Eglurodd:

"Roedd fy nhad yn gwneud croeseiriau yn hwyr yn ei 90au ac o'n i'n meddwl, mae'r fideos 'ma fel fy nghroeseiriau i.

"Maen nhw'n cadw'r hen gelloedd llwyd yn effro ac yn fyw! Dwi'n gwneud nhw ar gyfer fy nheulu agos.

"Ond dwi hefyd yn ei gwneud nhw i fi fy hun fel rhyw ddyddiaduron, a dwi'n trio ei gwneud nhw yn dyddiol," meddai.

"Os ti'n dod i adnabod y person y tu ôl i'r canfas neu'r papur Fabriano mae'n rhoi rhyw gefndir dyfnach i'r person."

'Loches'....yr ysbytyFfynhonnell y llun, Dewi Tudur
Disgrifiad o’r llun,

'Loches'....yr ysbyty o'r Rhyfel Byd Cyntaf syd wedi cael cryn argraff ar Dewi

Er mai dim ond cwta chwe mis mae Dewi wedi byw yn Ffrainc, mae wedi ymroi ei hun i'r gymdeithas ac ar hyn o bryd yn ysgrifennu erthygl i'r papur newydd lleol. Mae'r golygydd hefyd wedi gofyn iddo wneud llun ar y pwnc mae wedi'i ddewis.

"Dafliad carreg o lle 'da ni'n byw mae 'na hen ysbyty. Hen ysbyty o'r Rhyfel Byd Cyntaf ydio ac o ran pensaernïaeth, fe dynnodd fy sylw yn syth. Dwi wedi dod o hyd i fwy o ffeithiau am y lle. Dwi'n sgwennu erthygl, nid yn Ffrangeg eto, ar gyfer y papur newydd ac maen nhw eisiau i mi wneud llun o'r lle.

"Dw i awydd gwneud y lle yn y gaeaf. Mae 'na rhyw dristwch am y lle. mae'n adeilad mor drawiadol. Ti'n meddwl fel unrhyw adeilad debyg iawn i'r Eidal, maen nhw'n heneiddio'n barchus ac mae'r lle yn ysbrydoliaeth yma rownd pob cornel.

Ond ble felly mae Dewi yn ei ystyried yw adref?

"Dwi'm wedi cael 'adra' dweud y gwir. Dwi wedi bod i ffwrdd cymaint.

"Adra oedd lle o'n i ar y pryd. Dwi ddim yn gwybod lle ydy adref bellach.

"O'n i'n meddwl y baswn i byth yn gadael y ffermdy yn yr Eidal - fe wnes i dorri fy nghalon pan nes i adael.

"Roedd y lle rhy fawr i mi. Nes i lot o waith yn y lle yna a dwi'n meddwl pan ti 'di gweithio a gwario cymaint o'r arian ar bethau anweledig... mae 'na hiraeth yn dod drosta i weithiau."

Ond nawr fod Dewi wedi symud i Ffrainc mae'n teimlo'n hapus iawn yn ei gartref newydd.

"Mae'r lle 'ma yn fy siwtio i i'r dim," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.