Diwedd y byd 'ddim yn lot o hwyl' i ffermwr o Bowys

"O'n i yfed dŵr o'r afon am dair wythnos!" meddai Ioan Humphreys o ardal Carno
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o Bowys wedi dweud bod ei brofiad o fyw mewn byd ôl-apocalyptaidd ar gyfer rhaglen deledu wedi bod yn agoriad llygaid iddo.
Mae Ioan Humphreys o ardal Carno yn un o'r cystadleuwyr ar gyfres newydd Apocalypse ar Channel 4.
Mae'r rhaglen yn dilyn ymateb pobl gyffredin i gael eu gadael mewn tref wag heb drydan, dŵr na bwyd.
Bu'n trafod ei brofiad ar Dros Frecwast fore Llun, gan ddisgrifio'r profiad fel un "anodd".
"Mae rhaglen un wedi dod allan ac mae'n dangos lot. O'n i ddim hefo dim byd yn mynd mewn - just be' o'n i'n 'wisgo.
"O'n i yfed dŵr o'r afon am dair wythnos!" meddai, gan ychwanegu ei fod yn "gwisgo dillad pobl er'ill just i gadw'n gynnes - aeth hi lawr i -12C un noson fi'n credu - felly dim lot o hwyl, na!"

"Delio hefo pobl er'ill oedd problem fwya' fi," medd Ioan
"Fel ffermwr, ni ar ben ein hunain lot yn dyden? So oedd delio hefo pobl er'ill yn anodd!
"Dwi'n gallu aros fyny yn hwyr a dwi ddim angen b'yta lot, ond delio hefo pobl er'ill oedd problem fwya' fi."
Esboniodd ei bod yn hawdd mynd i ffrae gydag eraill "pan ma' pawb eisiau bwyd a phawb yn oer - ma' pawb yn teimlo'n wael".
"Dwi efo lot o staff yn helpu fi allan so o'n i'n lwcus o allu mynd allan a 'neud y profiad.
"Hebddyn nhw, fyswn i ddim wedi gallu 'neud o - ond dwi ddim yn mynd i 'neud o eto anyway!"
'Trio helpu ffermwyr eraill'
Mae gan Ioan ddegau o filoedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn ei fywyd dydd i ddydd yn ffermio, ond dywedodd nad ydy hynny wedi ei newid
"Dwi'n trio cadw fy hun mor onest a dwi'n gallu bod," meddai.
"Os dwi'n hoffi rhywbeth – dwi'n mynd i ddeud, ac os dwi ddim yn hoffi rhywbeth – dwi'n mynd i ddeud.
"Dwi just yn trio bod yn pwy ydw i.
"Dwi'n trio dangos y pethau da a'r pethau drwg, ac yn trio helpu ffermwyr er'ill.
"Os dwi'n cael diwrnod gwael a dwi'n dangos o, a mae rhywun arall wedi cael diwrnod gwael, maen nhw'n gweld 'mae rhywun arall yn yr un cwch â fi'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2025

- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
