Cynhwysiant

Rydych chi’n perthyn yn y BBC gan mai chi sy’n berchen ar y BBC

Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn

Er mwyn sicrhau gwerth i bob cynulleidfa a gwneud yn siŵr bod y cynnwys rydym yn ei greu yn gynhwysol ac yn cynrychioli pob grŵp a chymuned yn y DU, rydym yn adeiladu timau sy’n â’r ystod ehangaf bosib o brofiadau, talent a syniadau. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiant er mwyn creu BBC agored sy’n adlewyrchu ac yn dathlu amrywiaeth y cynulleidfaoedd a wasanaethwn.

Ein gweithlu yw ein cryfder mwyaf. Ac mae sicrhau bod ein gweithlu’n cynrychioli’r cynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu yn hanfodol er mwyn gwasanaethu a chynrychioli pawb, pwy bynnag ydyn nhw a ble bynnag maen nhw.

Cynllun BBC Extend

Er bod y BBC yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl ar gyfer unrhyw un o'i swyddi a hysbysebir, mae BBC Extend yn neilltuo rhai swyddi sydd ar agor yn unig i bobl a ddiffinnir yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (neu Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon).

BBC Extend yw rhaglen gweithredu cadarnhaol y BBC ym maes cyflogaeth ar gyfer pobl fyddar, anabl neu niwrowahanol.

Amrywiaeth economaidd-gymdeithasol

Mae’r BBC i bawb ac mae angen i’n cynnwys gynrychioli’r holl gynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu. I sicrhau ein bod yn gwneud hyn ac i roi gwerth i’n holl gynulleidfaoedd, rhaid i’n timau gynnwys pobl sydd â chefndiroedd, profiadau a syniadau gwahanol. Ar hyn o bryd, mae 20% o’n gweithlu yn dweud eu bod yn dod o gefndir dosbarth gweithiol. Ein huchelgais yw cynyddu’r gynrychiolaeth honno.

I sicrhau bod prentisiaid a gweithwyr o gefndiroedd llai breintiedig yn ffynnu yn y BBC, rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth.

Rhwydweithiau i weithwyr

Ar draws y BBC, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau pwrpasol ac arbenigol i weithwyr sy’n dod â phobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol at ei gilydd i rwydweithio, ac i’n helpu i wneud penderfyniadau ar sail mwy o wybodaeth. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n rhwydweithiau i Weithwyr.

Gallwch hefyd ddarllen mwy am ein rhwydwaith RAISED a sut mae’r BBC yn cefnogi amrywiaeth economaidd-gymdeithasol.

Collage o logos rhwydweithiau staff y BBC [enwau yn y pennawd isod].
BBC Ability, BBC Studios Bolder, BBC Embrace, BBC Enigma, BBC Studios Faith & Belief Network, BBC Studios Families Network, BBC Global Women in News, BBC Pride, BBC RAISED, BBC Women in STEM, Women at the BBC, BBC Young Talent Network.

  • Amdanom ni

    O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: