Gyrfaoedd y BBC
Creadigol, cynhwysol, a llawn cyfleoedd.
Mae ein cenhadaeth a’n pwrpas unigryw yn gwasanaethu ein cynulleidfaoedd – yn y DU ac yn fyd-eang – gydag allbwn a gwasanaethau diduedd o ansawdd uchel sy’n hysbysu, addysgu a diddanu.
Rydym yn gwthio ffiniau, yn herio ffyrdd o feddwl ac yn cynhyrchu cynnwys y mae pobl wrth eu bodd ag ef.
Yn y DU, mae Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC yn cael ei ariannu’n bennaf gan ffi’r drwydded, ond mae gennym hefyd weithgareddau masnachol a gweithgareddau byd-eang. BBC Studios yw ein gweithrediad masnachol mwyaf.

Gweithwyr profiadol
Edrychwch ar ein swyddi gwag cyfredol a chymryd y cam nesaf mewn gyrfa ag effaith.
Llawrydd
Eich siop un stop ar gyfer gweithwyr llawrydd oddi ar yr awyr sy’n gweithio yn y BBC.
Gyrfaoedd cynnar
Dechrau da i yrfa y byddwch yn ei mwynhau.
Cynlluniau talent
Profiadau ar gyfer talent greadigol sy’n dod i’r amlwg yn y DU.

Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC
Wedi’i ariannu gan ffi’r drwydded i sicrhau gwerth i bob cynulleidfa. Mae’r BBC yn darparu portffolio enfawr o wasanaethau teledu, radio a gwasanaethau digidol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn y DU, a BBC World Service mewn dros 40 o ieithoedd.
BBC Studios
Ein gweithrediad masnachol mwyaf. Wedi’i sbarduno gan greadigrwydd, dyma’r cwmni cynhyrchu sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yn y DU, ac mae’n ddosbarthwr o safon fyd-eang. Mae elw BBC Studios yn mynd yn ôl i’r Gwasanaeth Cyhoeddus i helpu i wneud mwy o raglenni gwych.
Bywyd yn y BBC
Mae denu a chadw’r dalent orau a mwyaf amrywiol yn allweddol er mwyn darparu ar gyfer ein cynulleidfaoedd. Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.







