Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC

Ni yw’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf blaenllaw yn y byd

Am y BBC

Rydym yn bodoli i ddod â gwerth i’n holl gynulleidfaoedd. Bob dydd, rydym yn darparu portffolio unigryw o raglenni radio a theledu cenedlaethol a rhanbarthol o’r radd flaenaf, gwasanaethau digidol sydd wedi ennill gwobrau, a gwasanaethau BBC World Service - ar draws dros 60 o wledydd ac mewn 40 o ieithoedd.

Rydym yn cael ein cydnabod fel darparwr cynnwys diduedd, annibynnol a dibynadwy ar draws y byd, gan gyrraedd 447 miliwn o bobl bob wythnos. BBC iPlayer yw’r gwasanaeth fideo ar-alw sy’n tyfu gyflymaf yn y DU erbyn hyn, gyda’r twf mewn gwylio ddwywaith yn fwy na Netflix, tair gwaith yn fwy nag ITVX a phedair gwaith yn fwy na Channel 4. Rydym yn falch o roi llwyfan i’r straeon gorau o Brydain, gyda 99% o’n cynnwys gwreiddiol yn cael ei wneud yn y DU.

Mae ein portffolio eang o wasanaethau teledu, radio a digidol cenedlaethol a rhanbarthol yn golygu bod gennym amrywiaeth enfawr o gyfleoedd ledled y DU a’r byd.

Ni sydd wrth galon y BBC.
Ni sy'n rhoi’r tro yn y stori, yn cadw’r goleuadau ymlaen a’r camerâu’n rowlio.
[a thorri]
Rydyn ni’n sicrhau bod y gynulleidfa'n teimlo pob trobwynt, pob uchafbwynt, pob 10 pwynt.
[Ffan-tas-tig]
Yn dod â hud y teledu yn fyw i bawb.
Rydyn ni bob amser â’n llygaid ar y bêl. A ni yw’r cyntaf i wybod y sgôr, ac i weithredu.
Gan ddilyn pob drama na allai neb ei hysgrifennu.
Ni yw’r tîm sy’n cymysgu’r caneuon â’r sain i greu’r sioeau sy’n dod â phobl ynghyd.
Nid dim ond y penawdau mawr sy’n bwysig, ond hefyd y newyddion sy’n siapio ein bywydau, yn agos at adref.
Mae’n golygu cydweithio.
Troi syniadau mawr yn ffyrdd gwell o wylio.
Mae'r BBC yn cynnig cyfleoedd di-ben-draw.
Gallwch fynd i unrhyw gyfeiriad.
A thrwy ddatblygu eich sgiliau gallwch ehangu eich gorwelion.
Darganfod mwy, a chreu mwy i’w weld yma.
Troi cymeriadau poblogaidd yn brofiadau i’w rhannu.
Mae pob un ohonom yn dod â’n stori ein hunain i’r BBC.
Mae lle i chi yma.
Mae lle i chi yn y BBC.


Bywyd yn y BBC

Nid oes unrhyw sefydliad arall fel y BBC. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf a hynaf y byd, mae gennym rôl unigryw sy’n sail i ddiwylliant a democratiaeth yn y DU a thramor.

Mae denu a chadw’r dalent orau un wrth wraidd y gwaith o ddarparu ar gyfer ein cynulleidfaoedd, ac mae gan bob un ohonom rôl yn y gwaith o greu diwylliant sy’n greadigol, yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd. Mae’r manteision a’r profiad rydym yn eu cynnig yn allweddol i gyflawni hyn, ynghyd â’r ffordd rydym yn gwreiddio ein Gwerthoedd a’n Cod Ymddygiad.

Mae ein cynnig wedi’i gynllunio i wobrwyo, cefnogi a datblygu ein pobl. Mae’n adlewyrchu ein gwerthoedd ac mae’n cael ei adolygu’n gyson i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni er budd ein cydweithwyr a’r ffordd maen nhw’n byw ac yn gweithio.


Yr hyn yr ydym yn adnabyddus amdano

  • Sarah Lancashire, Happy Valley

    Adloniant

    Rydym yn cynhyrchu cyfresi poblogaidd nodedig ac unigryw yn gyson ar gyfer cynulleidfaoedd y DU – gan gynnwys Wild Isles, Happy Valley, The Traitors a Ghosts.
  • Collega o'r BBC yn gweithredu offer darlledu mewn ystafell reoli

    Newyddion

    Mae’r BBC yn darparu newyddion a materion cyfoes lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol heb eu hail. Ni yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf dibynadwy yn y DU a’r darlledwr newyddion rhyngwladol mwyaf dibynadwy yn dal i fod, ac rydym yn chwarae rhan mewn mynd i’r afael â chamwybodaeth.
  • Brian Cox

    Ffeithiol

    Roedd 30% o’r DU - 18.5 miliwn o bobl - wedi gwylio ein cyfres natur nodedig, Green Planet gyda Syr David Attenborough. Cyflwynodd neges bwysig am werthfawrogi’r amgylchedd gan ysbrydoli ein cynulleidfa i weithredu. Dyma gynnwys sy’n creu effaith.
  • Vic Hope

    BBC Sounds

    Deg rhwydwaith radio ledled y DU, dau wasanaeth radio cenedlaethol yr un yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a 39 o orsafoedd radio lleol ledled Lloegr ac Ynysoedd y Sianel. Cafodd yr ap Sounds ei chwarae 1.64bn gwaith y llynedd. Ac rydym yn darparu’r rhaglenni llafar a cherddoriaeth fyw gorau yn y DU.
  • Clauda Winkleman, The Traitors

    The Traitors

    Roedd 7.4 miliwn wedi gwylio diweddglo dramatig cyfres 3 o The Traitors a ffilmiwyd yn Ucheldiroedd yr Alban.
  • Paris Olympic Games cyflwynwyr

    BBC Sport

    Cartref chwaraeon. Cafodd Gemau Olympaidd Paris ei ffrydio dros 218 miliwn o weithiau ar BBC iPlayer.
  • Glastonbury Festival cyflwynwyr

    Glastonbury

    Cafodd Glastonbury 2024 ei ffrydio i dros 50 miliwn o bobl ar BBC iPlayer a BBC Sounds.
  • Cydweithwyr BBC yn tynnu hunlun grŵp mewn digwyddiad cymdeithasol

    Rhagor o wybodaeth

    Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud fel prif ddarlledwr cyhoeddus y byd.

Gweithrediaeth y BBC

“Ar ei orau, mae’n dangos i ni, a’r byd, pwy ydym ni. Mae’n ased eithriadol, unigryw o Brydeinig, sy’n arloesi ers 100 mlynedd a mwy mewn storïaeth, technoleg, a phweru creadigrwydd. Mae’n fraint ac yn gyffrous cael gwahoddiad i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol.” - Matt Brittin, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC

  • “Rwy’n gweithio fel Profwr yn y Tîm Technoleg Gynorthwyol. Mae’r ffaith bod fy nhîm yn bodoli yn dweud llawer am sut mae’r BBC yn gwerthfawrogi hygyrchedd.”

    Natalie - Profwr, Grŵp Cynnyrch
  • “Mae cymaint o dimau ac adrannau sy’n rhan o’r BBC sydd ddim yn ymwneud â theledu yn unig.”

    Reni – Swyddog Gweithredol Cyfryngau Cymdeithasol, BBC Three

Ein tîmau

Mae’r BBC yn cynnig amrywiaeth unigryw o gyfleoedd. Mae ein timau amrywiol yn ffynnu ar arloesedd ac uchelgais creadigol. Ni waeth pa dîm rydych chi’n ymuno ag ef, eich BBC chi yw hwn. Pan fyddwch chi’n ymuno â ni, byddwch chi’n dysgu gan arbenigwyr o’r radd flaenaf ac yn cydweithio â lleisiau dewr ac amrywiol i ddatblygu a thyfu gyda’n gilydd. Byddwch yn ymwneud â chynnwys sy’n cael ei weld gan filiynau o bobl ledled y byd – ac yn teimlo gwir ymdeimlad o bwrpas yn eich gwaith, bob dydd. Dysgwch fwy am y gwahanol adrannau sy’n dod â’r BBC yn fyw.
  • Dau gydweithiwr BBC yn gweithio gyda’i gilydd gyda gliniaduron mewn swyddfa

    Brandiau, Marchnata a Chynulleidfaoedd

    Creu brandiau enwog ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Mae swyddi’n cynnwys strategaeth brand, partneriaethau, cyfathrebu, cynnwys, marchnata, creadigol, safbwyntiau, ymchwil, a rheoli masnachfraint.
  • Dau gydweithiwr BBC mewn sgwrs mewn lleoliad gwaith

    Comisiynu a Golygu

    Comisiynu, amserlennu a darlledu cynnwys o’r radd flaenaf ar draws sianeli llinol a digidol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn y DU a llwyfannau masnachol ledled y byd.
  • Cydweithiwr BBC yn gweithredu offer sain mewn stiwdio BBC Radio

    Creu Cynnwys

    Datblygu a chynhyrchu cynnwys fideo a sain poblogaidd ar gyfer y DU a’r byd. O Newyddion a Chwaraeon mewn gwasanaeth cyhoeddus, i sawl genre yn BBC Studios. Mae llawer o swyddi’n rhai cyfnod penodol neu’n rhai llawrydd.
  • Cydweithwyr BBC mewn trafodaeth grŵp yn eistedd ar stolion

    Swyddogaethau Corfforaethol

    Darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar draws y sefydliad, gan gynnwys rheoli hawliau a rheoli cyfreithiol, cyllid, caffael a gweinyddu. Cyfleoedd ym maes materion cyhoeddus, cyfathrebu, a pholisi a strategaeth.
  • Dau gydweithiwr BBC yn adolygu cynnwys ar sgrin gyfrifiadur

    Data a Dadansoddeg

    Mae ein timau data yn hanfodol i ddeall ein cynulleidfaoedd ac i siapio’r BBC, gan ddiwallu anghenion heddiw a dylunio ar gyfer y dyfodol. Mae swyddi cyffrous ar gael, fel dadansoddwyr data, gwyddonwyr data, peirianwyr data a rheolwyr data.
  • Dau gydweithiwr BBC yn siarad mewn pod swyddfa fodern

    Adnoddau Dynol

    Recriwtio, cadw a datblygu talent eithriadol gyda chyfleoedd cyffrous ym maes Adnoddau Dynol, cyfathrebu mewnol, a hyfforddi, dysgu a datblygu.
  • Cydweithiwr BBC yn cyflwyno mewn stiwdio deledu

    Newyddiaduraeth

    Ymunwch â brand newyddion mwyaf dibynadwy’r byd, gan gyrraedd miliynau o bobl bob wythnos. Edrychwch ar gyfleoedd cyffrous yn y DU a ledled y byd.
  • Dau gydweithiwr BBC yn trafod gwaith dros liniadur

    Gweithrediadau

    Galluogi’r sefydliad i redeg yn ddidrafferth ar draws pob maes, o’r cyfryngau a gweithrediadau technegol, i reoli prosiectau.
  • Cydweithiwr BBC yn gweithio ar gyfrifiadur mewn swyddfa

    Datblygu Busnes a Gwerthu

    Gyrru cyrhaeddiad byd-eang ein cynnwys a’n brandiau. Meithrin partneriaethau, tyfu cynulleidfaoedd, ac archwilio cyfleoedd ym meysydd gwerthu, hysbysebu a strategaeth.
  • Cydweithwyr BBC yn gweithio gyda cheblau mewn ystafell gweinydd

    Technoleg a Chynnyrch

    Gweithio ar gynnyrch sy’n effeithio ar filiynau o ddefnyddwyr yn fyd-eang. Yn cynnwys rheoli a dylunio cynnyrch, peirianneg meddalwedd, systemau technoleg a darparu, rheoli gwasanaethau a diogelwch gwybodaeth.
  • Prentisiaid BBC mewn digwyddiad grŵp

    Gyrfaoedd Cynnar

    P’un a ydych chi’n gadael yr ysgol, yn graddio neu’n awyddus i ddechrau rhywbeth newydd, dechreuwch yrfa y byddwch chi’n ei mwynhau. Rydym hefyd yn cynnig diwrnodau blasu ledled y DU.
  • Cydweithiwr BBC wrth feicroffon mewn stiwdio radio

    Gweithwyr Llawrydd

    Mae gweithwyr llawrydd yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn creu ac yn darparu ein cynyrchiadau anhygoel. Maen nhw’n darparu mewnbwn creadigol hanfodol ac arbenigedd technegol ochr yn ochr â’n gweithwyr parhaol.

Y Cwmni Darlledu Prydeinig sy’n galw.
Mae’r orsaf yn mynd ar yr awyr.
Darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.
Darllediad allanol cyntaf y Gemau Olympaidd.
Gwyliodd miliynau'r Frenhines yn cael ei choroni.
Y darllediad teledu byw byd-eang cyntaf, y Beatles.
Y rhaglen deledu gyntaf i’w darlledu mewn lliw yn Ewrop.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf gyda CEEFAX.
Erbyn hyn, mae cyfrifiaduron yn bethau cyffredin dros ben.
Y BBC yn rhoi cyfrifiaduron mewn ysgolion.
Y diwrnod gorau o gerddoriaeth roc a welodd y byd erioed.
Heddiw, mae’n debyg ein bod ni wedi lansio ein gwefan.
BBC iPlayer. Does dim rhaid i chi golli eiliad o’ch hoff raglenni.
Chi sy’n rheoli’n llwyr beth rydych chi’n ei wylio, a phryd rydych chi’n ei wylio.
Ailddechrau rhaglen fyw, a thaith gerdded VR yn y gofod.
Darlledu rygbi’r Chwe Gwlad yn fyw i’r bydysawd.
Codio mewn ysgolion.
Rydyn ni'n cyflwyno’r dyfodol i chi ers 1922.
BBC, ble nesaf.
Bydd technoleg y rhyngrwyd yn arwain at bosibiliadau gwylio di-ben-draw i ni.
Yn addas i filiynau, yn arbennig i chi.
Mwynhewch eich hoff raglenni mewn ffordd newydd sbon.
Mae’r dyfodol yn cynnig gwledd o gyffro.


  • “Mae ein cynulleidfa fyd-eang yn golygu pan fyddaf yn cyhoeddi stori, mae’n cael ei chyfieithu i dros 40 o ieithoedd.”

    Julie - Uwch Newyddiadurwr, Newyddion a Materion Cyfoes
  • “Yr hyn rwy’n ei garu am fy swydd yw y gallwch chi gael effaith wirioneddol ar ddiwrnod rhywun.”

    Dan – Cynhyrchydd Podlediadau, Radio Wales a Chwaraeon

  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
  • Sut rydym yn llogi

    Mae gennym amrywiaeth enfawr o gyfleoedd ledled y DU a’r byd. Dewch i wybod sut rydym yn llogi.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: