Gyrfaoedd Cynnar
Yn barod i ddechrau dy yrfa yn y BBC? P’un a ydych chi’n gadael yr ysgol, yn graddio neu’n dechrau rhywbeth newydd, edrychwch ar ein cyfleoedd gyrfa i ddechrau gyrfa y byddwch chi’n ei mwynhau.
Gwelwch brentisiaethau sy’n agoredMae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd
Mae ceisiadau am brentisiaethau ar gau ar hyn o bryd. Bydd ceisiadau ar gyfer cynlluniau Medi 2027 yn agor yn hydref 2026.
Ein prentisiaethau

Egluro prentisiaethau’r BBC
Popeth mae angen i chi ei wybod am brentisiaethau’r BBC, o gymhwysedd a buddion i hyd rolau a beth i’w ddisgwyl.
Busnes
Diddordeb mewn busnes, rheoli prosiectau, cyllid, y gyfraith, Adnoddau Dynol neu farchnata? Beth am gefnogi gweithrediadau’r BBC a chael effaith drwy un o’n prentisiaethau.
Technoleg Ddigidol a Data
Yn llawn cyffro am ddatrys problemau ac arloesi? Mae ein prentisiaethau Technoleg Ddigidol a Data yn cynnig rolau ymarferol mewn AI, datblygu apiau a chodio.
Peirianneg a Gweithrediadau
Ydych chi’n chwilfrydig am sut mae pethau’n gweithio ac wrth eich bodd yn datrys problemau technegol? Helpwch i ddarparu cynnwys y BBC ar draws teledu, radio a digidol.
Newyddiaduraeth
Ydych chi wrth eich bodd â newyddion ac adrodd straeon? Mae ein cynlluniau Newyddiaduraeth yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a dysgu cynhyrchu cynnwys gwych gyda hyfforddiant arbenigol.
Cynhyrchu
Mae ein cynlluniau Cynhyrchu yn cynnig rolau ym meysydd teledu, sain a digidol. P’un a ydych chi’n llawn syniadau, yn wych am drefnu, neu’n chwilfrydig am gamerâu a golygu, mae yma lwybr i chi.
Y broses gwneud cais
Dysgwch fwy am sut rydym yn recriwtio ar gyfer ein cynlluniau gyrfaoedd cynnar, beth i’w ddisgwyl o’r broses, ein hawgrymiadau defnyddiol, a sut i baratoi.
Cwestiynau cyffredin
Mae ein cwestiynau cyffredin yn ymdrin â sut i wneud cais a chymhwysedd, i hyfforddiant, cyflog, a sut beth yw bywyd fel prentis gyda’r BBC.
Mwy o gyfleoedd

Cynlluniau talent
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gynlluniau datblygu ar gyfer talent greadigol y DU ar draws cynnwys, ysgrifennu, perfformio a newyddiaduraeth.
Diwrnodau Blasu Get In
Cyfle i gael gwybod mwy am y gwahanol lwybrau gyrfa sydd gan y BBC i’w cynnig a chael profiad ymarferol mewn canolfan yn eich ardal chi.
Profiad gwaith rhithwir
Cwblhewch ar adeg, mewn lle ac ar gyflymder sy’n addas i chi. Ennillwch dystysgrif a gwell dealltwriaeth o lwybrau’r sector creadigol.
Pam y BBC?
Rydym ymhlith y 50 Cyflogwr Prentisiaethau gorau yn y DU ac yn arweinwyr y diwydiant ym maes gyrfaoedd cynnar, gan gyflogi dros 200 o brentisiaid newydd bob blwyddyn. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a doniau y tu mewn a’r tu allan i’r BBC. Ac yntau’n un o’r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch ddysgu gan rai o’r gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes.

Mae cyfleoedd di-ri yn y BBC. Ond oes 'na le yma i bobl fel chi a fi?
Rydw i ar fin mynd ar yr awyr i ddarllen y newyddion 1 o'r gloch. Dim ond un o blith nifer o swyddi yw fy swydd i, yr un mae’r gwylwyr yn ei gweld. Mae cymaint o rolau gwahanol yma yn y BBC.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn deallusrwydd artiffisial, data neu ddysgu peirianyddol, byddwch yn gwneud mwy na dim ond rhagweld tueddiadau. Byddwch yn helpu i drawsnewid y ffordd mae miliynau o bobl yn rhyngweithio â’r BBC.
Neu efallai mai codio sy’n mynd â’ch bryd. Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth am wahanol rwydweithiau a systemau, neu hyd yn oed gychwyn gyrfa ym maes seiberddiogelwch.
Os mai rhifau sy’n eich diddori, gallech ymuno ag un o dimau cyllid y BBC. Y timau cyllid sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhaglenni’n cadw at y gyllideb, a bod pawb yn cael eu talu. Mae hynny’n bwysig iawn.
Neu beth am ymuno ag un o’n timau Adnoddau Dynol? Byddech yn helpu i greu diwylliant lle gall pawb ffynnu a gwneud eu gwaith gorau.
Gallech fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr systemau cyfryngau sy’n helpu’r BBC i ddarparu cynnwys ar deledu, radio, a llwyfannau digidol. Neu gallech fod yn un o’n swyddogion technegol. Beth am roi cynnig ar gyfarwyddo neu weithredu un o’n camerâu yn y stiwdio? Gyda’n gilydd, ni sy’n sicrhau bod y rhaglen yn llwyddiant.
Felly, os ydych chi eisiau gweithio ym maes cynhyrchu, gallech fod yn ymchwilydd, yn gydlynydd cynhyrchu, neu'n rheolwr llawr fel fi a gweithio ar y newyddion. Dyna rydw i’n ei wneud heddiw.
Ydych chi’n frwd dros adrodd straeon a allai siapio’r penawdau y mae pobl yn eu trafod yn lleol, yn genedlaethol, hyd yn oed yn fyd-eang? Felly beth am ystyried gyrfa ym myd newyddiaduraeth?
Prynhawn da. Croeso i raglen News at One.
Ac nid dim ond yn Gymraeg a Saesneg rydyn ni’n gweithio. Rydyn ni’n creu cynnwys mewn dros 40 o ieithoedd. Gyda chanolfannau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, mae angen eich talent chi ym mhobman.
Gall unrhyw un lwyddo yn y BBC. Pwy bynnag ydych chi, mae lle i chi, ac mae eich llais chi'n bwysig.
Yn tydi, Pudsey?
Canllaw cyflawn i’n rolau prentisiaeth (o brentisiaethau 2026 - cofiwch fod y cynlluniau a’r lefelau rydym yn eu cynnig yn newid bob blwyddyn).
Dilynwch ni @BBCGetIn ar Instagram a @LifeAtTheBBC ar TikTok am y newyddion gyrfaoedd diweddaraf.
Os ydych chi rhwng 16 ac 18 oed, gallwch wneud cais am un o’n profiadau Blasu ‘Get In’.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy’n eich gwneud chi’n unigryw. Beth yw eich diddordebau a’ch gwerthoedd? Dydyn ni ddim yn chwilio am bobl sydd â phrofiad helaeth. Rydym eisiau clywed eich syniadau chi ac i chi gyfrannu at ein timau ni, gan ein helpu ni i sicrhau bod y BBC yn cynrychioli’r holl gynulleidfaoedd a chymunedau a wasanaethir gennym.
Byddwn yn eich cefnogi i gyflawni eich potensial. Mae prentisiaid y BBC yn cael cyflog sy’n uwch na’r cyflog byw cenedlaethol ac mae gennym amrywiaeth o gymorth, mentrau a rhwydweithiau i sicrhau bod gweithwyr yn gallu ffynnu. Os ydych chi’n dod o gefndir dosbarth gweithiol, efallai byddwch chi eisiau darllen mwy am ein hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth gymdeithasol ac economaidd, a beth allai hynny ei olygu i chi fel gweithiwr yn y BBC. Rydym yn gwerthfawrogi’r hyn mae pob unigolyn yn ei gynnig. Mae amrywiaeth yn bwysig iawn i ni.












