Prentisiaethau busnes

Diddordeb mewn busnes, rheoli prosiectau, cyllid, y gyfraith, Adnoddau Dynol neu farchnata? Dechreuwch yrfa yn cefnogi gweithrediadau’r BBC ac yn helpu i sicrhau gwerth i’w gynulleidfaoedd gydag un o’n prentisiaethau.

Info: Mae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd

Mae ceisiadau am brentisiaethau ar gau ar hyn o bryd. Bydd ceisiadau ar gyfer cynlluniau Medi 2027 yn agor yn hydref 2026.


Uwchbrentisiaethau/ Prentisiaethau uwch

Lefel 3-5
Derbyn profiad a dysgu sut mae darparu gwasanaethau gweinyddol yn y BBC i gefnogi ein staff a sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn ddidrafferth.
Dysgwch sut mae’r BBC yn cefnogi staff, yn delio ag ymholiadau o ddydd i ddydd ac yn darparu cyngor Adnoddau Dynol mewn amrywiaeth eang o bynciau, o recriwtio i ymddeol.
Dysgwch sut mae cefnogi gweithgareddau marchnata sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid a fydd yn helpu i sbarduno’r galw am wasanaethau neu gynnyrch y BBC a datblygu sgiliau o ran cyflwyno mentrau marchnata ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
Datblygwch yr wybodaeth a’r sgiliau i ddeall y broses gyflawni o un pen i’r llall y mae’r BBC yn ei defnyddio i gaffael y nwyddau a’r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen arno i redeg yn effeithlon.

“Ar ôl gorffen fy arholiadau Lefel A, roeddwn i’n ansicr ynghylch fy nghamau nesaf ac nid oeddwn i’n hollol siŵr taw mynd i’r brifysgol oedd y dewis iawn i mi. Mae’r cyfle hwn yn y BBC wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n sicr wedi bodloni fy nisgwyliadau, ac wedi rhagori arnynt.”

Harry, Prentis Rheolwr Prosiect

Prentisiaethau sy’n cyfateb i radd

Lefel 6
Datblygu sgiliau a gwybodaeth am reoli prosiectau a thechnegau i ddyfeisio a chyflwyno ac arwain prosiectau cymhleth.

Prentisiaethau ôl-raddedig

Lefel 6-7
Astudiwch ar gyfer eich Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) a chael profiad go iawn yn y gwaith fel rhan o dîm cyfreithiol y BBC. Byddwch eisoes wedi cwblhau gradd yn y gyfraith neu radd nad yw’n gysylltiedig â’r gyfraith, yn ogystal â Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: