Diwylliant
Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf a hynaf y byd, mae gennym rôl unigryw sy’n sail i ddiwylliant a democratiaeth yn y DU a thramor. Mae denu a chadw’r dalent orau a mwyaf amrywiol yn allweddol er mwyn darparu ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Gwerthoedd y BBC
Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Maen nhw’n cynrychioli’r disgwyliadau sydd gennym ni ohonom ni ein hunain a’n gilydd. Maen nhw’n llywio ein penderfyniadau o ddydd i ddydd a’r ffordd rydym yn ymddwyn. Rhagor o wybodaeth yma >
- Mae CYNULLEIDFAOEDD wrth galon popeth a wnawn
- CREADIGRWYDD yw curiad calon ein sefydliad
- YMDDIRIEDAETH yw sylfaen y BBC - rydym yn annibynnol, yn ddiduedd ac yn onest
- Rydym yn PARCHU ein gilydd - rydym yn garedig, ac rydym yn hyrwyddo cynhwysiant
- Rydym yn ATEBOL ac yn gwneud gwaith o’r safon uchaf
- UN BBC ydym ni - rydym yn cydweithio, yn dysgu ac yn datblygu gyda’n gilydd
Yn fwy na dim ond geiriau ar dudalen, mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn. Dyma yw DNA’r BBC. Maen nhw’n dweud pwy ydym ni a sut rydym yn gwneud pethau. Maen nhw’n diffinio’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y BBC, a’r hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gennych chi. Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych yn dangos pob un ohonynt.
Datblygu gyrfa a datblygiad proffesiynol
Rydym eisiau i bawb gael gyrfa gyffrous a gwerth chweil yn y BBC, a dyna pam mae pawb yn cael ‘myConversation’ ddwywaith y flwyddyn i osod nodau gyrfa gyda’u rheolwr; ac rydym yn buddsoddi mewn amrywiaeth eang o ddatblygiadau.
Mwy o atebolrwydd, perfformiad gwell
Rydym yn awyddus i adeiladu timau sy’n ymgysylltu ac sy’n perfformio’n dda ar draws y BBC. Ynghyd â “myConversation”, rydym yn gwobrwyo perfformiad da drwy ‘myRecognition’ ac yn dal arweinwyr i gyfrif drwy adolygiadau 360 a’r Mynegai Arweinyddiaeth.
Undebau llafur
Yn y BBC, rydym wedi ymrwymo i feithrin cysylltiadau adeiladol â’n hundebau llafur cydnabyddedig yn unol â rhwymedigaethau ein Siarter.
Yn dibynnu ar ba faes rydych chi’n gweithio yn y BBC, efallai hoffech chi ymuno ag un o’n hundebau cydnabyddedig sy’n ffurfio Cyd-undebau’r BBC. Dyma’r undebau sy’n negodi cyflogau, telerau ac amodau cyflogaeth, polisïau a newidiadau lleol yn ogystal â darparu cymorth, cyngor a chynrychiolaeth unigol i aelodau.
Fel aelod o undeb llafur, cewch gyfle i bleidleisio ar unrhyw un o’r materion allweddol sy’n effeithio ar staff, fel cynigion cyflog, pensiynau a thelerau ac amodau. Caiff undebau yn y BBC gynrychioli grwpiau penodol mewn trafodaethau. Mae’r NUJ yn cynrychioli newyddiadurwyr, mae Bectu yn cynrychioli holl staff eraill y BBC (gan gynnwys swyddi crefft, technegol, cynhyrchu a swyddfa), ac mae Unite yn cynrychioli meysydd penodol o staff cynhyrchu a chynnal a chadw.
Mae’r rheolwyr a’r undebau, gan gynnwys swyddogion a chynrychiolwyr y BBC, yn cwrdd yn rheolaidd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Gall undebau gynnal ymgyrchoedd sy’n ymwneud â’r gweithle a lobïo ar faterion sy’n bwysig i chi. Ein nod bob amser, drwy weithio gyda’n gilydd, yw gwella bywyd gwaith pobl.
Mae Undeb y Cerddorion yn cynrychioli pum Cerddorfa a Chantorion y BBC ledled y DU.

Cymorth i fod yn fwy gwyrdd
Ar draws y BBC, rydym yn gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy gyda’n gilydd. Mae ein cynnwys anhygoel yn addysgu cynulleidfaoedd am y byd naturiol, yr argyfwng hinsawdd a chynaliadwyedd. Rydym ar flaen y gad gydag arferion cynhyrchu cynaliadwy, wedi ymrwymo i fod yn sefydliad Sero Net a Natur Bositif, ac yn cefnogi staff i wneud dewisiadau mwy gwyrdd.
Dyma drydydd diwrnod yr uwchgynhadledd hinsawdd fyd-eang – neu COP 26 i’w ffrindiau.
Cyflwyno... tanwydd synthetig.
Edrychwch ar y Lamborghini ’na’n gwibio!
Tri adduned ynghylch plastig, pŵer, planhigion.
Dyma Piccadilly Circus. A, hyd yn oed yma, mae planhigion yn llwyddo i ffynnu.
Oes gen ti un o’r rhain?
Metel. Yn dda i’r blaned?
Achubwch yr amgylchedd.
Rydyn ni’n gweithredu i warchod ein planed.
Hoffem i chi gymryd rhan yn y fenter Plannu, Tyfu, Rhannu – her yr haf i arddwyr.
Ar y sgrin.
Mae hi’n wythnos Arbed, Ailddefnyddio, ac Ailgylchu.
Un o’n hadeiladau mwyaf gwyrdd erioed.
Wedi’i ysbrydoli gan Syr David Attenborough. Yn llawn cynnyrch lleol, wedi’i gyflenwi a’i goginio yn y ffordd iawn.
Mae mwy o gwmnïau am fuddsoddi mewn cerbydau mwy gwyrdd.
A thu ôl i’r llenni. Cyflwyno technolegau arloesol.
Yn hytrach na generaduron diesel, rydyn ni wedi bod yn defnyddio batris a hydrogen gwyrdd.
Rhoi cynnig ar gyfarwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a darlledu chwaraeon o bell.
Arbrofi ar y set ag opsiynau planhigol.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn awyddus i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd glanhau lleol.
A chwilio am griwiau lleol mewn amryw o leoliadau rhyngwladol.
Unrhyw beth sy’n ymwneud â chynaliadwyedd. Mae’r teulu Brenhinol yn gwirioni ar hynny!
Mae ffordd bell i fynd. Ond mae pob cam bach i leihau ein hôl troed carbon yn bwysig.
Rydyn ni’n symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, gyda’n gilydd.
Our planet now.
Amdanom ni
O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.Bywyd yn y BBC
Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.Ein gwerthoedd
Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.