Buddion

Mae ein buddion wedi’u creu i wobrwyo a chefnogi ein pobl

Buddion sydd wedi’u creu ar eich cyfer chi

Mae gan bob un ohonom rôl yn y gwaith o greu diwylliant creadigol a chynhwysol sy’n llawn cyfleoedd. Rydym am i’n staff ffynnu, cynhyrchu eu gwaith gorau a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu hallbwn.

Mae ein buddion yn adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn cael eu hadolygu’n gyson i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni er budd ein cydweithwyr a’r ffordd maen nhw’n byw ac yn gweithio.

Cyflog teg

Rydym yn adolygu ein cyflogau bob blwyddyn i sicrhau ein bod yn gwobrwyo pobl yn deg, yn gystadleuol ac yn cynnig gwerth am arian i’r sawl sy’n talu ffi’r drwydded. Mae trefniadau bonws a chymell ar gael ar gyfer rhai swyddi yn BBC Studios.

Buddion hyblyg

Mae ein buddion craidd yn y DU yn cynnwys cynllun pensiwn, mynediad o bell 24/7 at feddyg teulu, yswiriant bywyd a budd-dal damweiniau. Mae ein cynllun buddion hyblyg, sef myChoices, yn eich galluogi i greu pecyn sy’n bersonol i chi, gan gynnwys yswiriant iechyd, yr opsiwn i brynu neu werthu gwyliau blynyddol, aelodaeth o gampfa, cerbydau trydan, beicio i’r gwaith, ynghyd â disgownt ar nwyddau a gwasanaethau drwy myDeals. Yn rhyngwladol, mae ein buddion wedi’u teilwra i fod yn gystadleuol yn y farchnad leol.

Gweithio yn eich ffordd eich hun

Byddwch chi’n cael eich grymuso i wneud eich gwaith gorau, felly rydym yn cynnig cefnogaeth a hyblygrwydd i gael cydbwysedd rhwng gwaith a chartref. Mae gweithio hybrid yn y BBC yn golygu y bydd gan bawb ganolfan benodol, a gallwch ofyn am drefniadau gweithio hyblyg neu weithio o bell unrhyw bryd. Bydd hyn yn dibynnu ar eich swydd a’i gofynion.

Cefnogi bywyd gwaith

Mae gennym bolisïau newydd ar gyfer absenoldeb rhiant/gofalwr, cymorth i ddelio â’r menopos, gweithio’n hyblyg/hybrid lle bo’ch swydd yn caniatáu hynny, a phecyn llesiant cynhwysfawr. Rydym yn gwneud ein gorau glas i gynnig cymorth a hyblygrwydd pan fydd ei angen arnoch fwyaf.


  • Amdanom ni

    O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: