Sut rydym yn cyflogi

Gall gwneud cais am swydd newydd fod yn frawychus, felly rydym am wneud pethau mor dryloyw a hawdd â phosibl. Dyma bopeth y gallwch ei ddisgwyl os byddwch yn gwneud cais.

Crynodeb

Rydym yn canolbwyntio ar bwrpas. Fel un o’r brandiau cyfryngau mwyaf dibynadwy yn y byd, rydym yn cynnig creadigrwydd o’r radd flaenaf a chynnwys arloesol i hysbysu, addysgu a diddanu ein cynulleidfaoedd.

Mae meddylfryd yn bwysig. Rydym yn chwilio am bobl gadarnhaol sy’n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd.

Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaeth. Pobl sy’n hunanymwybodol, yn frwdfrydig ac sy’n darparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol.

Rydym yn chwilio am botensial yn hytrach na pherffeithrwydd, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.

SWYDDOGAETH GWERTHOEDD YN EIN GWAITH CYFLOGI

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn fwy na dim ond geiriau ar dudalen, maen nhw’n sail i bopeth a wnawn. Dyma yw DNA’r BBC. Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych yn dangos pob un ohonynt.

Beth allwch chi ei ddisgwyl

Cam 1 - Gwneud cais

Ar ôl i chi ddarllen yr hysbyseb swydd yn llawn, cliciwch ‘Gwneud cais nawr’. Efallai y bydd rhai cwestiynau sgrinio fel rhan o’r cais – mae’r rhain wedi’u cynllunio i roi gwell syniad i ni a ydych chi’n bodloni meini prawf allweddol y swydd ac i chi benderfynu a yw’r swydd yn addas i chi.

Cam 2 - Sgrinio

Rydym yn defnyddio dulliau sgrinio amrywiol i sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r dalent orau un ar gyfer y swydd. Bydd aelod o’r tîm Caffael Talent yn adolygu eich cais yn erbyn meini prawf allweddol ac yn cefnogi’r rheolwr sy’n penodi i lunio rhestr fer. Gall y broses gynnwys asesiadau, fel profion sgrinio ar-lein neu i brofion crebwyll, i werthuso a ydych chi’n bodloni’r meini prawf allweddol ac i’ch helpu chi i benderfynu a yw’r swydd yn addas i chi.

Cam 3 - Cyfweliad

Byddwn yn awyddus i ddod i’ch adnabod chi a’ch sgiliau, eich gwybodaeth, eich profiad a’ch cryfderau. Rydym hefyd yn awyddus i glywed pam rydych chi’n meddwl y byddech chi’n rhagori yn y swydd a pham fod gennych chi ddiddordeb yn y BBC. Byddwch yn cael rhagor o fanylion am beth i’w ddisgwyl.

Cam 4 - Asesiadau

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd camau asesu ychwanegol. Gallai hyn fod yn dasg neu’n ymarfer sy’n benodol i’r swydd er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi ddangos i ni beth rydych chi’n gallu ei wneud.

Cam 5 - Cynnig a chynefino

Os aiff popeth yn iawn, byddwch yn cael swydd - rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r BBC!


Addasiadau rhesymol

Cymorth gyda’ch cais

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi i wneud cais am swydd neu i gael cyfweliad am swydd gyda’r BBC, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at reasonable.adjustments@bbc.co.uk gan nodi cyfeirnod y swydd yn y llinell pwnc. Rydym yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn eich cefnogi drwy’r broses. Mae sawl ffordd y gallwn dderbyn ceisiadau ac addasu ein prosesau dethol i ddiwallu eich anghenion. P’un a fydd eich proses ddethol yn digwydd ar-lein neu wyneb yn wyneb, gallwn wneud addasiadau fel darparu isdeitlau ar Teams, rhoi mwy o amser i chi, neu addasu ein cwestiynau i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posib.


  • Amdanom ni

    O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: