Cefnogi amrywiaeth economaidd-gymdeithasol

I sicrhau bod prentisiaid a gweithwyr o gefndiroedd llai breintiedig yn ffynnu yn y BBC, rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth.

Trosolwg

Mae’r BBC i bawb ac mae angen i’n cynnwys gynrychioli’r holl gynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu. I sicrhau ein bod yn gwneud hyn ac i roi gwerth i’n holl gynulleidfaoedd, rhaid i’n timau gynnwys pobl sydd â chefndiroedd, profiadau a syniadau gwahanol. Ar hyn o bryd, mae 20% o’n gweithlu yn dweud eu bod yn dod o gefndir dosbarth gweithiol. Ein huchelgais yw cynyddu’r gynrychiolaeth honno.

I sicrhau bod prentisiaid a gweithwyr o gefndiroedd llai breintiedig yn ffynnu yn y BBC, rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth.


“Rydym wedi ymrwymo i BBC lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae gallu cynrychioli ein cynulleidfa yn hanfodol. Mae’n ein galluogi i wasanaethu pawb gyda chynnwys unigryw ac effaith uchel sydd, yn wirioneddol berthnasol iddyn nhw. Fel arweinydd a ddaeth o gefndir dosbarth gweithiol, mae’n bleser gen i fod yn hyrwyddwr Adnoddau Dynol ar gyfer rhwydwaith RAISED. Mae’r gymuned hon o staff talentog o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn ddim ond un o’r adnoddau sy’n aros amdanoch chi os ydych chi’n ystyried gyrfa yma. Rydym eisiau i chi wybod bod y BBC yn addas i chi. Mae’n lle rydym eisiau i chi ddathlu pwy ydych chi a beth sydd gennych chi i’w gynnig.”

Sarah, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Profiad Pobl

“Roedd y BBC wastad ’mlaen pan roeddwn i’n tyfu lan, roeddwn i wrth fy modd pan ges i wybod mod i’n mynd i fod yn gweithio yma. Mi wnes i feddwl am y diffyg amrywiaeth a sut byddwn i’n ffitio i mewn i ddiwydiant nad oedd yn fy nghynrychioli, ond, hyd yn oed pan oeddwn i’n brentis ac yna’n newyddiadurwr, roeddwn i’n cael fy ngwerthfawrogi ac roedd fy marn yn cael ei hystyried. Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i’n ffynnu yn y byd yma, ond rwyf wrth fy modd, ac yn gallu sicrhau bod rhagor o leisiau sy’n cael eu tangynrychioli’n cael eu clywed.”

Miriam, Uwch Newyddiadurwr, Newyddion BBC Cymru Wales

BBC RAISED - Rhwydwaith staff

RAISED (Real Action In Social and Economic Diversity) yw rhwydwaith cymdeithasol a chefnogol y BBC i weithwyr, sydd wedi cael ei sefydlu i hyrwyddo buddiannau cynulleidfaoedd a chydweithwyr dosbarth gweithiol yn y BBC. Cafodd ei sefydlu yn 2018 ac mae’n rhwydwaith gweithredol sy’n agored i bob gweithiwr ac mae ganddo dros 1000 o aelodau o bob rhan o’r BBC.

I sicrhau bod gweithwyr llai breintiedig yn y ffynnu yn y BBC, mae’r rhwydwaith RAISED yn cefnogi ei aelodau yn y ffyrdd canlynol:

  • Cynllun cyfeillio RAISED

    Y cyfle i greu partneriaeth â chydweithiwr mwy profiadol o gefndir tebyg, a fydd yn eich helpu i ddod i ddeall y BBC wrth i chi ymuno o’r newydd. Byddant yn ffrind gwaith, yn gynghreiriad ac yn hyrwyddwr, ac yn cynnig cefnogaeth, arweiniad a chyfarwyddyd.

  • Paned misol

    Cyfle i sgwrsio a rhwydweithio gyda phobl o’r un anian o bob rhan o’r BBC.

  • Cyfarfodydd hwb rheolaidd a digwyddiadau rhithiol

    Cwrdd â chydweithwyr yn rhai o’n hybiau RAISED ar draws y Deyrnas Unedig yn Glasgow, Belfast, Caerdydd, Llundain, Salford a Birmingham.


“Cyn i mi ymuno, roedd gen i farn eithaf ystrydebol o’r BBC, yn enwedig yr ystafell newyddion. Ges i fy synnu bod pobl mor gynnes a chroesawgar, ac roedd ganddyn nhw lot o amynedd gyda fi yn dangos sut roedd pethau’n gweithio, pa bynnag adran roeddwn i ynddi. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ymuno â’r BBC fyddai peidio â gorfeddwl am y peth gan fod hynny’n gallu eich rhwystro rhag cyfrannu mor hyderus ag rydych chi wir eisiau ei wneud.”

Ayoola, Newyddiadurwr, BBC Radio 4

Yn y BBC mae’r holl weithwyr yn gallu elwa ar amrywiaeth o fuddion a chymorth:

  • Cyflog teg a buddion hyblyg gan gynnwys cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniadau rhwng 5% a 10% gan y BBC a buddion craidd gan gynnwys yswiriant bywyd hyd at bedair gwaith eich cyflog, yswiriant damweiniau a gwasanaeth meddyg teulu o bell 24/7.
  • Buddion eraill yn cynnwys mynediad at fenthyciadau i brynu tocyn tymor, cynllun beicio i’r gwaith, yswiriant deintyddol, cynllun arian parod ar gyfer iechyd, yswiriant meddygol preifat a budd aelodaeth campfa. Mae’n bosib cael disgownt ac arian yn ôl ar gostau bob dydd fel siopa mewn archfarchnadoedd, bwyta allan a thocynnau sinema hefyd.
  • Cymorth yn eich bywyd gwaith, gan gynnwys gweithio hyblyg y gallech ei drafod â ni unrhyw bryd yn ystod y broses ymgeisio, dethol neu gynnig.
  • Datblygiad proffesiynol a gyrfa gwych.
  • Grant Cymorth Ariannol nad oes angen ei ad-dalu i weithwyr sy’n wynebu caledi ariannol annisgwyl. Mae modd dyfarnu hwn os ydych chi neu’ch dibynyddion yn ei chael hi’n anodd talu am gostau untro annisgwyl ac anfforddiadwy. Gallwch hefyd gael gafael ar adnoddau i helpu i reoli eich arian.
  • Bydd y BBC yn ad-dalu’r holl dreuliau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â gwaith yn unol â therfynau penodol a’n polisi treuliau.
  • Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd lle mae’r ffordd rydym yn gwneud pethau’r un mor bwysig â’r hyn rydym yn ei wneud.
  • Mae cyflog pob prentis yn Gyflog Byw Gwirioneddol neu’n uwch na hynny.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth adleoli. Mae’n seiliedig ar brawf modd a dim ond ar gael i nifer gyfyngedig o brentisiaid pan fydd rhaid iddynt symud o fwy nag awr i ffwrdd i fod yn agos at eu canolfan BBC newydd a bod angen cymorth ariannol arnynt. Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am ein polisi adleoli.
  • Mae’r BBC yn archebu ac yn talu am yr holl lety a theithio ar gyfer hyfforddiant cynefino a phrentisiaeth ar gyfer y rheini nad ydynt yn byw’n lleol.
  • Mae pob prentis yn cymryd rhan mewn hyfforddiant rheoli cyllid yn ystod y broses gynefino.
  • Fel prentis, os oes angen cymorth gadael gofal arnoch, mae taliadau bwrsari ar gael.
  • Mae’r rhan fwyaf o’n prosesau asesu bellach yn gyfan gwbl ar y we ac ni fydd angen i chi fod yn bresennol wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, os bydd angen i chi deithio ar gyfer eich cyfweliad neu asesiad, bydd y BBC yn ad-dalu eich costau teithio.

“O ddechrau’r broses ymgeisio, daeth hi’n amlwg yn gyflym na fyddai fy nghefndir dosbarth gweithiol fyth yn rhwystr. Fy mhotensial i oedd yr unig beth oedd yn bwysig. Mae llawer o gymorth ar gael yma i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys. Yn bendant, does mo’r fath beth â gweithiwr ‘nodweddiadol’ y BBC.”

Lucy, Prentis Gweinyddu Busnes

  • Amdanom ni

    O Wasanaeth Cyhoeddus y BBC i BBC Studios, darganfyddwch sut rydym yn creu cynnwys o safon fyd-eang sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
  • Bywyd yn y BBC

    Dysgwch fwy am ein manteision, ein diwylliant gweithio, ein gwerthoedd a sut rydym yn hyrwyddo cynhwysiant.
  • Ein gwerthoedd

    Rydym wedi sefydlu set o werthoedd ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y BBC. Rhagor o wybodaeth.
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: