'Torcalon' wrth i yswiriant taith merch sâl i Disney gostio miloedd

Cafodd Sienna, 6, ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, wythnosau wedi i'w theulu fynd i Disney
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch, 6, a gafodd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, wedi iddyn nhw drefnu taith i Walt Disney World yn hynod siomedig bod cost yr yswiriant iddi gael mynd yno yn costio miloedd.
Roedd Sienna wrth ei bodd pan gafodd hi'r tocynnau ar gyfer taith fythgofiadwy gyda'i theulu i Florida gan Siôn Corn adeg y Nadolig.
Ond ddechrau Chwefror wedi iddi gael chwydd yn ei llygad daeth cadarnhad bod ganddi diwmor.
Does dim modd ei dynnu drwy lawdriniaeth felly mae Sienna wedi dechrau cwrs 18 mis o gemotherapi ac mae'r tiwmor wedi achosi iddi golli ei golwg.
Wrth i'r teulu ymdopi â'r newyddion fe wnaethon nhw hefyd ganfod y byddai'n rhaid iddyn nhw gael yswiraint newydd ar gost o £6,000.
'Anghredadwy'
"Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth, roedd hi wedi bod yn llawn cyffro," meddai mam Sienna, Emma Louise Lloyd, 37, o Aberdâr.
Roedd y daith bedair wythnos i Florida wedi'i threfnu ar gyfer diwedd mis Hydref, gydag amserlen "llawn dop" i wneud y gorau o bob eiliad, gan gynnwys cwrdd â thywysogesau a bwydo dolffiniaid.

Mae mam Sienna yn dweud bod ei merch yn 'wych, dewr ac yn hapus'
Wrth gofio syndod pawb ddydd Nadolig, dywedodd Emma fod Sienna, ei chwaer Amelia, 12 oed, a'u chwe chefnder wedi clywed am y daith drwy lythyr gan Mickey Mouse.
"Dyma oedd yr anrheg olaf, roedd yr holl blant yn eistedd yma... roedd yr ymateb yn anhygoel, roedden nhw i gyd yn sgrechian.
"Roedden nhw i gyd yn neidio o gwmpas ac mor hapus."
Bum wythnos yn ddiweddarach, sylwodd Emma fod Sienna yn dal ei thabled yn agos iawn at ei hwyneb, felly trefnodd apwyntiad.
Wrth i'r sgan ddangos chwydd yn y pen roedd Emma "yn gwybod y byddai'n newyddion drwg".

Roedd Sienna yn edrych ymlaen at weld ei hoff dywysoges Rapunzel ar y daith i Florida
Wedi i'r sgan ddangos tiwmor ar yr ymennydd cafodd Sienna ei chludo i Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd am driniaeth frys.
"Wnaethon ni ddim dod adref am oddeutu tair wythnos," meddai Emma.
Gyda llawdriniaeth ddim yn ddewis, mae Sienna bellach wedi dechrau cwrs 18 mis o gemotherapi.
Mae'r symptomau'n dibynnu ar leoliad y tiwmor. Ei golwg yn gwaethygu oedd yr unig symptom amlwg Sienna yn ôl ei theulu.
'Fy seren fach i'
Mae'r salwch wedi achosi Sienna i golli ei golwg, ond mae ei theulu'n parhau i obeithio y bydd hi'n cael rhywfaint o'i golwg yn ôl.
"Rwy'n dal i brosesu popeth nawr, mae wedi bod yn wythnosau gwallgof, cafodd y lawdriniaeth yn eithaf cyflym, biopsi a dechreuodd ei chemotherapi," meddai Emma.

Mae teulu Sienna yn dweud bod Ysbyty Arch Noa yn "rhyfeddol" ac mae hi'n mwynhau ymweliadau gan gi therapi'r ysbyty, Daisy
Bellach mae'r teulu yn codi arian £3,800 i helpu Sienna i fynd ar y daith a bydd unrhyw arian sy'n weddill yn cael ei roi i gefnogi Ysbyty Plant Arch Noa a Thŷ Ronald McDonald.
Drwy'r cyfan mae teulu Sienna yn dweud ei bod hi wedi bod mor hapus a dewr.
"Mae hi wedi bod yn anhygoel," meddai mam Sienna, Emma, "ti yw fy seren fach i," meddai wrthi.
"Ar y tu allan rwy'n hapus, yn bositif am fy nwy ferch ond y tu mewn rwyf yn torri fy nghalon," ychwanegodd Emma.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
