Parc cenedlaethol i wahardd arforgampau 'os yn amharu ar fywyd gwyllt'

Bae Ceibwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae teithiau arforgampau'n cael eu cynnal ym Mae Ceibwr

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Gallai teithiau arforgampau masnachol, neu coasteering,gael eu gwahardd mewn rhai lleoliadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro os oes tystiolaeth eu bod nhw'n amharu ar fywyd gwyllt neu'r amgylchedd.

Bydd system drwyddedu newydd yn cael ei chyflwyno ar 1 Mai ar gyfer unrhyw deithiau ar dir y parc, gydag asesiadau amgylcheddol yn cael eu paratoi ar gyfer bob llwybr.

Dywedodd prif weithredwr awdurdod y parc, Tegryn Jones, "na fydd rhai lleoliadau ar gael" os oes tystiolaeth o effaith negyddol ar fywyd gwyllt neu'r amgylchedd.

Yn ôl un cwmni mae hi'n "drist" bod trefniadau gwirfoddol yn dod i ben, a "does yna ddim llawer o rybudd wedi bod" am y drefn newydd.

ArforgampauFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae teithiau arforgampau yn cael eu cynnal mewn 12 lleoliad yn y parc cenedlaethol

Ar hyn o bryd, mae teithiau arforgampau yn cael eu cynnal mewn 12 lleoliad yn y parc.

Fe ddechreuodd arforgampau masnachol yn Sir Benfro yn y 1980au, ac mae'n cyfuno dringo, nofio a cherdded ar hyd y glannau.

Tan nawr, mae cwmnïau masnachol wedi cadw at god gwirfoddol i ddiogelu'r amgylchedd a byd natur.

Ond fe bleidleisiodd aelodau'r awdurdod ar 25 Mawrth i gyflwyno trefn drwyddedu newydd o fis Mai ymlaen, gyda chwmnïau yn gorfod talu £100 am drwydded.

Gallai'r gost honno gynyddu yn y dyfodol.

Dywedodd awdurdod y parc bod y drefn drwyddedu yn cael ei chefnogi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd yn berchen ar dir yn y parc cenedlaethol.

Yn ôl Tegryn Jones, mae trwyddedau eisoes yn cael eu defnyddio i "reoli gweithgaredd masnachol" fel ffilmio neu werthu hufen ia yn y parc.

Mark Hicks
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim yn credu y bydd bywyd gwyllt yn elwa," meddai Mark Hicks

Mae Mark Hicks o gwmni Tenby Adventure wedi bod yn cynnig teithiau yn Lydstep ac Ystagbwll yn ne'r sir ers 10 mlynedd, ac mae'n dweud mai arforgampau yw'r weithgaredd "mwyaf poblogaidd" sy'n cael ei gynnig gan y cwmni, yn enwedig yn yr haf.

Mae'n dweud ei fod yn "teimlo'n drist" bod y trefniadau gwirfoddol i reoli'r gweithgaredd yn diflannu.

"Mae'n drist i feddwl bod rhywbeth oedd yn seiliedig ar gydweithio yn cael ei gau lawr, ac mae rhywbeth statudol yn dod yn ei le.

"Roedd y cydweithio yn llwyddiannus. Dwi ddim yn credu y bydd bywyd gwyllt yn elwa."

Carreg Wylan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carreg Wylan yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Daw'r penderfyniad ar ôl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro golli achos cyfreithiol yn yr Uchel Lys ym mis Medi 2025 yn sgil her gan y grŵp Wild Justice.

Diddymwyd caniatâd cynllunio ar gyfer canolfan chwaraeon awyr agored newydd yn Nhrewyddel ger Bae Ceibwr ar ôl i'r barnwr benderfynu nad oedd digon o wybodaeth wedi'i chyflwyno am effaith bosib gweithgareddau ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Aberarth-Carreg Wylan.

Doedd arolwg o adar bridio ddim wedi cael ei rannu'n llawn gyda'r pwyllgor rheoli datblygu 'chwaith.

Mae ymgyrchwyr bywyd gwyllt yn poeni bod arforgampau yn tarfu ar adar sydd yn nythu ynghyd â morloi yn y bae.

Dagmarr Moore
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dagmarr Moore yn ffafrio gwaharddiad llwyr ar arforgampau ym Mae Ceibwr

Dywedodd un ymgyrchydd bywyd gwyllt, Dagmarr Moore ei bod hi'n "croesawu" y drefn drwyddedu newydd ond mae ganddi bryderon am "bwy fydd yn monitro" yr hyn sydd yn digwydd ym Mae Ceibwr.

Mae hi'n ffafrio gwaharddiad llwyr yno.

"Ni dal yn meddwl hynny, achos mae rhywbeth sbesial fan hyn.

"Mae llawer o lefydd i wneud yr un peth dwy filltir i fyny neu i lawr yr arfordir, ac mae llawer o bobl gydag arian yn dod yma i weld yr adar a'r morloi a'r pethau gwyllt sydd yn byw yma.

"Mae llawer o lefydd eraill - llefydd gyda pharcio a thoiledau a hufen ia."

Tenby Adventure
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tenby Adventure wedi clirio dros 130 o ddarnau o hen offer pysgota'r llynedd, ac wedi achub adar oedd wedi mynd yn gaeth, yn ôl Mark Hicks

Yn ôl Mark Hicks, mae'r gweithgaredd yn cael "effaith gadarnhaol" yn ne'r sir.

Dywedodd fod ei gwmni wedi clirio dros 130 o ddarnau o hen offer pysgota'r llynedd, ac wedi achub rhyw 15 o adar oedd wedi mynd yn gaeth yn yr offer.

Mae e'n cefnogi oedi'r broses o gyflwyno'r trwyddedau.

"Dwi ddim yn credu bod llawer o amser wedi bod i bobl feddwl am sut i wneud hyn mewn ffordd ofalus.

"Efallai byddai'n gall i gael cyfnod prawf, ble mae modd arbrofi gyda gwahanol fframweithiau.

"Dwi bendant yn meddwl bod angen datblygu'r hyn sydd wedi ei gynnig hyd yn hyn."

Tegryn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim yn gweld bod yna unrhyw fygythiad i fusnes unrhyw un," meddai Tegryn Jones

Yn ôl prif weithredwr y parc, Tegryn Jones, bydd trwyddedau yn cynnig "llawer gwell rheolaeth dros y diwydiant a sicrhau safonau amgylcheddol uchaf".

Bydd system drwyddedu hefyd yn "rhoi mwy o hawl i ni ymyrryd a diogelu byd natur" pan mae problemau yn codi, meddai.

Dywedodd perchennog un cwmni sydd yn cynnig teithiau o'r fath - oedd ddim am gael ei enwi - ei fod yn poeni am ddyfodol y busnes yn sgil y drefn drwyddedu newydd, ac mae'n galw ar y parc i oedi'r broses fel bod modd cynnal mwy o ymgynghori.

Fe wnaeth y diwydiant ymwelwyr gyfrannu £639m at economi Sir Benfro yn 2024, yn ôl Visit Pembrokeshire.

Bae Ceibwr 2024
Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn arforgampau ym Mae Ceibwr yn 2024

Yn ôl Tegryn Jones, mae'r parc wedi bod yn trafod gyda chwmnïau "ers y llynedd" ac mae'r system yn cael ei chyflwyno mewn ffordd "deg i ganiatáu i fusnesau parhau i weithio".

"Ni'n ceisio sicrhau ein bod ni yn addas ar gyfer y dyfodol ac unrhyw drafferthion all godi," meddai.

"Dwi ddim yn gweld bod yna unrhyw fygythiad i fusnes unrhyw un."

Dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio y bydd rhestr derfynol o leoliadau yn cael ei chyhoeddi erbyn mis Mai, ac nad yw'n gweld angen i ohirio'r broses.

Mae cyfyngiadau tymhorol ar chwaraeon antur eisoes wedi cael eu cyflwyno ar Ynys Môn i warchod safleoedd sensitif.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.