Carcharu dyn am 'yrru peryglus' ar ôl iddo geisio ffoi rhag yr heddlu

Disgrifiad,

Heddlu yn stopio ac arestio dyn ar ôl iddo geisio ffoi yn RhCT

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi cael ei garcharu ar ôl gyrru ar gyflymder ar ffyrdd ger Abercwmboi, gan roi cerddwyr mewn perygl wrth gael ei ddilyn gan yr heddlu.

Plediodd Jacob Roberts, 25, o Aberpennar yn euog i nifer o gyhuddiadau yn dilyn y digwyddiad ym mis Mai 2026.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod swyddogion oedd ar batrôl yn Abercwmboi wedi sylwi ar arogl canabis cryf yn dod o fan.

Wrth i'r swyddogion geisio atal y cerbyd, fe yrrodd Roberts i ffwrdd ar gyflymder.

Jacob RobertsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jacob Roberts wedi gyrru ar gyflymder ar hyd ffyrdd ger Abercwmboi ym mis Mai 2026 wrth gael ei ddilyn gan gar heddlu

Gyrrodd Roberts mewn modd afreolus ac ar gyflymder, gan fethu â stopio wrth sawl cyffordd, gyrru ar ben palmentydd, a rhoi cerddwyr mewn perygl.

Fe yrrodd tuag yn ôl hefyd gan daro'r car heddlu oedd yn ei ddilyn ddwywaith.

Fe darodd geir oedd wedi eu parcio ac adeilad wrth gael ei ddilyn.

Yn y pen draw fe yrrodd Roberts i lawr stryd unffordd, cyn gadael ei gar a cheisio rhedeg oddi wrth y swyddogion.

Cafodd ei atal a'i arestio.

Wrth ei archwilio daeth yr heddlu o hyd i ddau sigarét canabis yn ei feddiant.

'Difaterwch llwyr tuag at bobl eraill'

Plediodd Roberts yn euog i gyhuddiadau o yrru peryglus, gyrru tra roedd wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant, peidio â stopio ar ôl gwrthdrawiad, difrod troseddol i eiddo (o dan £5,000), a bod â chyffur dosbarth B yn ei feddiant.

Cafodd ddedfryd o flwyddyn a dau fis o garchar, a'i wahardd rhag gyrru am dair blynedd.

Dywedodd y cwnstabl Peter Kerswell o Heddlu De Cymru: "Roedd Roberts eisoes wedi ei wahardd rhag gyrru pan gyflawnodd y troseddau yma.

"Fe ddangosodd difaterwch llwyr tuag at bobl eraill ar y ffyrdd, gan gynnwys cerddwyr.

"Mae'n ffodus na chafodd unrhyw un ei anafu'n ddifrifol, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y ddedfryd yn rhoi cyfle i Roberts ystyried ei weithredoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.