Clwb Rhwyfo Madog yn dathlu 25 mlynedd ar Afon Seine ym Mharis

Clwb Rhwyfo Madog yn rhwyfo heibio Tŵr Eiffel
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos fe rwyfodd 15 o aelodau o glwb rhwyfo ym Mhorthmadog ar hyd Afon Seine ym Mharis i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu'r clwb.
Rhwyfodd aelodau Clwb Rhwyfo Madog 26 cilometr fel rhan o her y Traversée de Paris, gyda 12 yn rhwyfo a thri yn gweithredu fel cox.
Dywedodd un o'r rhwyfwyr, Lynda Roberts ar raglen Dros Frecwast: "Oedd o'n ffantastig, mae'r tywydd wedi bod yn fendigedig a gafon ni groeso da iawn gan y clwb oedd yn cynnal yr ŵyl ddoe."
Dyma oedd y 41fed tro i'r gynghrair rhwyfo Ligue Île-de-France d'Aviron drefnu'r digwyddiad sy'n mynd heibio rhai o nodweddion mwyaf eiconig y ddinas gan gynnwys Tŵr Eiffel ac eglwys gadeiriol Notre-Dame.
Ychwanegodd Lynda: "Un o'r petha' dwi'n hoffi fwyaf am rwyfo ydi gweld llefydd newydd o'r dŵr, mae o'n bersbectif gwahanol, ac wrth gwrs cyflyru eich hunain drwy'r dŵr i fynd â chi i'r llefydd newydd yma.
"Oedd y golygfeydd yn arbennig."
O Borthmadog i Baris
Roedd 250 o gychod a dros 1000 o rwyfwyr ar y dŵr yn ystod y gala rwyfo ar 13 Medi.
Ymysg y cychod rhwyfo oedd cwch yolette wedi ei logi gan Glwb Rhwyfo Madog a dau gwch rhwyfo Celtaidd y clwb.
Eglurodd Linda: "Cychod yolette oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, dyna sy'n arferol ar afon ond clwb rhwyfo môr ydan ni felly oeddan ni wedi dod a dwy gwch hir, Celtaidd efo ni.
"Cwch i 14 ydy'r rhai hir, Celtaidd, wedi eu seilio ar pilot boats. Oeddan nhw'n arfer mynd allan o borthladdoedd i gyrchu y llongau mawr yn ôl i mewn i'r harbwr.
"Fuodd 'na aelodau o'r clwb yn rhwyfo y ddwy gwch Celtaidd gynnon ni ac oeddan ni wedi llogi cwch yolette gan y clwb ym Mharis - roedd pedwar ohonan ni yn rhwyfo hwnnw.

Aelodau o Glwb Rhwyfo Madog gydag un o'u cychod, hir Celtaidd
"Roeddan ni'n cychwyn o'r clwb, yna'n mynd yn groes i'r lli, ac o dan Pont Neuf a heibio Notre-Dame.
"Roedd paella, gwin a phwdin ar ei ddiwadd o. Gawson ni groseo da iawn gan y Ffrancwyr a digon o ddathlu."

Rhwyfo o dan y bont
Sefydlwyd Clwb Rhwyfo Madog gan griw o ddynion busnes ym Mhorthmadog chwarter canrif yn ôl, ac yn ôl Lynda mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth.
"Saith ohonyn nhw oedd yna i gychwyn, ond mae o wedi bod yn tyfu yn raddol.
"Bellach mae yna oddeutu 80 o rwyfwyr rhwng 16 ac 82 oed.
"Mae yna 70 o aelodau yn eithaf actif ac yn rasio drwy'r haf gyda'r gynghrair Gymreig a rhai eraill yn cymryd rhan yn y rasus hirach endurance.
"Mae'r hyfforddi yn digwydd drwy'r flwyddyn a lot o ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae'n glwb hwyliog iawn i fod yn rhan ohono fo, ac yn gymdeithasol iawn."

Rhwyfo ar Afon Seine
Ar ôl dathlu eu camp ddiweddaraf ar Afon Seine, bydd aelodau o Glwb Rhwyfo Madog yn dychwelyd adref ar gyfer tymor arall o ymarfer, ond gyda digonedd o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd y clwb yn 25 oed.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
