Dyn 'methu anadlu' tra'n cael ei daro a'i arestio gan blismon
Cafodd fideos o gamerâu corff yr heddlu a rhai o wefannau cymdeithasol eu dangos i'r gwrandawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi dweud wrth wrandawiad camymddygiad heddlu nad oedd yn gallu anadlu pan gafodd ei ddal ar y llawr a'i daro gan swyddog oedd yn ceisio ei arestio.
Cafodd Steven Clark ei ddal ar y llawr gyda braich o gwmpas ei wddf, ac un swyddog yn ei daro naw gwaith yn ei ben wrth ei arestio ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023.
Mae'r swyddog heddlu dan sylw – PC Richard Williams – yn gwadu wyth cyhuddiad o ddefnyddio grym afresymol.
Fe ddaw'r gwrandawiad camymddygiad yn dilyn achos saith diwrnod yn Llys y Goron Caernarfon yn 2025, lle cafwyd Mr Williams yn ddieuog o ymosod a thagu bwriadol.
'Hitio fi dro ar ôl tro'
Cafodd yr heddlu eu galw i ystâd ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023 yn dilyn adroddiadau o "ffrae ddomestig".
Dywedodd dynes wrth y swyddogion fod Steven Clark, oedd yn 34 oed ar y pryd, "o'i go'" ar ôl cymryd cyffuriau.
Clywodd y gwrandawiad camymddygiad ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn fod swyddogion wedi ceisio arestio Mr Clark, ond fod Mr Clark wedi llwyddo i wthio un ohonyn nhw i'r llawr, ac roedd ar ben y swyddog.
Ychydig yn ddiweddarach, cafodd PC Richard Williams ei ffilmio gan gymydog yn gorwedd ar ben Mr Clark yn ei daro yn ei ben.
Yn ei ddagrau, dywedodd Steven Clark wrth y gwrandawiad ddydd Mawrth mai dim ond ychydig iawn o'r hyn a ddigwyddodd yr oedd yn ei gofio.
"Do'n i ddim yn gallu anadlu. Roedd o'n fy nhagu. Dechreuodd o hitio fi dro ar ôl tro.
"Roedd fy nghorff i fel jeli... roedd o'n troi fy ngwddf yn ôl... un swyddog yn eistedd arna i – do'n i ddim yn gallu anadlu."

Cafwyd PC Williams yn ddieuog o ymosod a thagu bwriadol mewn achos llys yn 2025
Dywedodd Steven Clark ei fod wedi cael anaf blaenorol yn dilyn damwain beic modur ac wedi niweidio nerfau yn ei fraich dde, felly roedd yn boenus iddo ei phlygu mewn ffyrdd penodol.
Dywedodd ei fod wedi gofyn i'r swyddogion ei "arestio gyda'i ddwylo o'i flaen" ond eu bod wedi dewis peidio â gwrando arno.
Mae'r swyddog arall a gafodd ei hanfon i'r tŷ yn wreiddiol, PC Einir Williams, yn dweud nad oedd gweithredoedd ei chydweithiwr wrth arestio Mr Clark yn "anarferol na'n anghywir".
"Roedden ni'n ceisio rhoi gefynnau ar ei freichiau – fy rôl i oedd rheoli ei goesau wrth iddo gicio," meddai wrth y gwrandawiad.
"Ro'n i'n cael trafferth cadw rheolaeth arna fo.
"Roedden ni am ddefnyddio dull o roi'r gefynnau o'i flaen, ond gan ein bod ar y llawr, rhoi'r gefynnau y tu ôl iddo oedd yr unig opsiwn."
Mae'r Cwnstabl Richard Williams yn wynebu wyth cyhuddiad yn ymwneud ag arestio Steven Clark, gan gynnwys defnyddio dull o afael arno o amgylch ei wddf (headlock), defnydd afresymol o chwistrell i dawelu, a thaflu neu ollwng Mr Clark i gefn fan heddlu.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad camymddwyn barhau drwy gydol yr wythnos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd8 Mai 2025
